Adolygiad Theatr – Rhybudd: Iaith Anweddus (Eisteddfod Genedlaethol Cymru & Cwmni’r Frân Wen)

ân 

‘Full disclosure’ yn gyntaf – dwi’n ffan mawr o lenyddiaeth Llwyd Owen, sy’n cynnwys nifer o nofelau ditectif, dehongliadau dychmygol o ‘isfyd’ Caerdydd a’r cyffiniau, mewn llais cras acen Gymraeg y Brifddinas. Aethon ni i’r un Ysgol Sul, Ysgol y Wern, ac Ysgol Glantaf, a dwi wedi ei holi ef droeon am ei waith yn gyhoeddus, gan gynnwys yn yr Hen Lyfrgell ar ddydd Sadwrn cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Ond teg hefyd yw dweud i mi ddyfarnu ‘Bad Sex Award’ Cymraeg iddo yn fy adolygiad o’i nofel Heulfan yn 2012, ac i mi roi grilling go-iawn iddo am ei nofel ddiweddaraf Pyrth Uffern, sy’n cynnwys delweddau erchyll. Dwi felly ddim yn gibddall i wendidau’r awdur o Gaerdydd, a teg fyddai dweud nad yw Llwyd Owen chwaith, o dystio i’w ddrama gyntaf, Rhybudd: Iaith Anweddus.

Fel yn achos ei nawfed nofel Y Ddyled yn 2014, fersiwn ffuglennol o ‘Llwyd Owen’ yw prif gymeriad y ddrama, sy’n llawn trais a hiwmor tywyll. Ond cawn ynddi hefyd gip ar lu o’i gymeriadau ef, a’i feirniaid mwyaf hallt yn ogystal.

Cawn gyflwyniad i’r awdur truenus wrth ei ddesg yn sied gardd ei gyn-wraig; gyda photel o Becks, mae’n eistedd yn ei gecs, tra’n sugno’n ddwfn ar e-sigaret. Mae’n gwynebu’r gliniadur gormesol cyn neidio ar ei draed; mae’n cerdded ’nol a mlaen, a’i wn wisgo’n bygwth agor, yn ceisio orau i herio’i ‘writer’s block’. Clywn droslais ganddo ef yn rhoi cyd-destun i’r gyflafan greadigol; cyn pen dim fe syrthia’n bentwr yn ei gadair, a profwn weledigaethau’r awdur cwsg. Yr awdur ei hun sy’n portrradu ei ‘avatar’ ar lwyfan, a hynny’n llwyddiannus dros ben.

Yr hyn sy’n dilyn yw achos llys o fath, ac yn erlyn mae beirniad llenyddol. I fod yn fanwl, un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Eryri 2005, a bortreadir gan Mari Beard. Llwyd Owen ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth honno, oedd yn sbardun i gyhoeddi’i nofel gyntaf. Ond fe’i amddifadwyd o’r wobr am resymau penodol – nifer o’r rheiny am fynd ‘tu hwnt i ffiniau cyhoeddi arferol’, aka ei arddull sgwennu ‘ych a fi’.

Rhwng pob haen o’r feirniadaeth, ceir golygfeydd o’i nofelau, o bosib yn cyfiawnhau’r geiriau hynny. Mae fyny i’r gwyliwr p’run ai a yw’r cymeriadau yn dystion ar ran yr erlynydd neu’r amddiffynydd, cyn barnu a oes lle iddynt yn y canon Cymraeg. Yn eu plith mae Idris Evans (Y Ddyled), Luc Swann (Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau), Rod a Bryn (Un Ddinas Dau Fyd) Tubbs a T-Bone (Yr Ergyd Olaf) ac Alun Brady a’i Dadcu (Ffydd Gobaith Cariad); ergydwyr, hunanleddfwyr, dynladdwyr, poenydwyr a gwrth-arwyr Cymraeg o fri.

Dim ond hanner awr o hyd oedd y ddrama hon, a gomisiynwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol, ond gallen i’n hawdd fod wedi aros yno am awr arall. Roedd y cast yn rhagorol, yn arbennig Morgan Hopkins – er i mi clywed tinc o ‘Ffion Carlton-Lewis’ yn ei acen Caerdydd. Cafwyd perfformiad lawn hiwmor gan Mari Beard fel y beirniad eisteddfodol hunan-gyfiawn. Cyhuddodd yr awdur ‘di-chwaeth’ o bob dim dan haul… o fod yn ‘ddarpar lofrudd’ ei hun , yn profi ‘gollyngdod cyffesol’ ei eiriau… ac yn waeth na hynny, ‘yn meddwl yn y Saesneg, cyn trosi ei eiriau i’r Gymraeg’. Derbyniodd y perlau hynny fonllefau o chwethin iach ymysg aelodau’r dorf, o bob oed.

Yr hyn oedd yn ddifyr oedd cyhuddiad Idris Evans fod Llwyd Owen yn hesb o syniadau pellach am anturiaethau yn isfyd Caerdydd, oherwydd ei fod yn ‘gachgi bach middle-class sy’ ddim di neud lot rong yn [ei] fywyd’, a bod ei ddarllenwyr ddim llawer callach. ‘Ma’r rhan fwyaf o dy gynulleidfa di o’r un cefndir â ti, ac yn hollol anymwybodol o dy shortcomings.’  Yn y Gymru sydd ohoni, amheuthun yn wir yw clywed awdur mor hunan-feirniadol. Yr hyn wrth gwrs sy’n depressing (i adolygydd, ac eraill) yw cydnabod mai’r awdur Llwyd Owen ei hun yw’r sylwebydd mwyaf craff a gonest am wendidau ei lenyddiaeth.

Lleolwyd y ddrama yn naeargell hen fanc– fel Anweledig, gyda Ffion Dafis, fin nos. Caniataodd y lleoliad i’r ‘ddrama’ ymestyn ei llwyfan i ymgorffori perfformiad promenâd. Nid oedd hynny bob tro yn llwyddiannus, oherwydd natur mor gyfyng y gofod; fe gollais pob ystyr o olygfa ddramatig Tubbs, oherwydd mod i’n sefyll reit yng nghefn y gynulleidfa. Yn anffodus, collais hefyd ergyd geiriau ola’r darn, a leisiwyd ar ruthr gan yr awdur-actor, ar y cyd ag Idris Evans (Morgan Hopkins).

Ond fel arall roedd yn ofod hyblyg, a ganiataodd oleuo crefftus a thafluniadau cynnil – llongyfarchiadau i’r cyfarwyddwr, Hanna Jarman. Mae hynny’n arbennig o wir yn achos olygfa  drwg-enwog ‘Beti George’, o Ffawd Cywilydd a Chelwyddau, sy’n mynnu ‘cyfraniad’ gan gymeriad Luc Swann (Siôn Alun Davies). Parch mawr i’r fonesig Beti am ei chyfraniad hithau i’r darn, â’i thafod yn sownd yn ei boch. Diolch byth na aethpwyd (y tro ma ta beth…) am olygfa’r frechdan gachu.

Bu taw ar y si flynyddoedd yn ôl, am addasiad ffilm o’r nofel gyntaf honno. Am ba bynnag reswm felly, ni aethpwyd ati i’w throsi, ond rwy’n ddiolchgar am y driniaeth theatrig hwn. Mae cymaint sy’n weledol, ac uwch-real am nofelau Llwyd, er yn dreisgar ac yn orlawn o olygfeydd graffig. Roedd y cynildeb i’w groesawu yn y cynhyrchiad hwn, a’r hiwmor yn hollol ganolog – a chariad, a brawdgarwch yn ogystal. A bethbynnag ddwedith Idris Evans am gymharu Llwyd yn anffafriol â Quentin Tarantino (y cyfeiriwyd ato, gyda llaw, ar y dechrau wrth agor bag llawn ‘golau’), mae moeswers bob tro wrth galon pob stori, a chydbwysedd rhwng tywyllwch a goleuni.

Perfformiwyd Rhybudd: Iaith Anweddus  gan Llwyd Owen (Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ar y cyd â Chwmni’r Frân Wen) yn Selar Ty Portland ar yr 8ed a’r 9ed o Awst, 2018. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Llenyddiaeth, Llyfrau, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s