Adolygiad Theatr: Tuck (Neontopia, mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru)

‘Slay, Girl!’, ‘Werk’, a ‘Yaaas Kween’ – tri dywediad pur gyffredin erbyn hyn. Os na glywsoch chi’r un ohonynt yn eich byw, byddai’n werth ystyried cyngor euraidd y 5 Gs; ‘Good God Girl, Get a Grip’. Maent yn deillio’n uniongyrchol o boblogrwydd torfol diwylliant Drag, a chyfresi teledu fel RuPaul’s Drag Race. Engheifftiau eraill o ddylanwad ‘drag’ yw poblogrwydd ‘canu’ yn null ‘Lip Sync Battle’, a hefyd, ym myd colur, arddull ‘contouring’ ac aeliau eithafol.

Mae gwreiddiau perfformiadol y sin drawswisgol yn faith, a bu sawl cam ar hyd y daith. Yn eu plith, ffigwr poblogaidd y ‘Pantomime Dame’ ym Mhrydain,  i’r ‘Black and White Minstrels’ ac adloniant Vaudville yr UDA. Ond ar droad yr Ugeinfed Ganrif yn y Tenderloin yn San Francisco, agorwyd y clwb  ‘Drag’ cyntaf erioed. Roedd yn hafan, yn arbennig, i ddynion hoyw croenddu ac America Ladin, oedd yn lleiafrif o fewn lleiafrif o fewn lleiafrif.

Mor ddylanwadol yw’r sîn rownd y byd erbyn hyn, y ceir ser Drag  Cymraeg – Tina Sparkle, Maggi Noggi a Connie Orff yn eu plith  Yn wir, deilliodd yr olaf o brosiect tair blynedd yn datblygu sioe theatr newydd sbon,  a lwyfannwyd yng Nghanolfan y Mileniwm, ym Mae Caerdydd.  Dydy Connie Orff ei hun ddim yn serennu yn Tuck, ond ei chreawdwr Alun Saunders yw awdur y sioe.  Aeth ati i fynd dan golur pedwar cymeriad  sy’n rhannu’r un ‘ act’, gan archwilio iechyd meddwl aelodau’r criw.

Fel yn achos ei ddrama gyntaf, A Good Clean Heart, mae Tuck yn sioe cwbl dwyieithog. Cawn ein cyflwyno i bedwarawd sy’n rhannu’r un ‘noson’ ar y sîn yn ninas Caerdydd; yr hynafiaid a hen ffrindiau, Patsy Thatcher/ Patrick (Stifyn Parri) a Martha Titful/ Steve (Iestyn Arwel), a’r newydd-ddyfodiaid Lola Bipolar/ Teifion (Gareth Evans) a Medusa Massid/ Antoine (Lewis Brown). Dan gochl dathliad meddwol o glasuron cerddorol, banter a bon mots, yr hyn a brofwn yw’r tanwydd tocsig  sy’n cynnal y sîn, sef cystadleuaeth a passive aggression pur.

Cawn gip ar gyflwyniad Steve i’r byd yn dilyn apwyntiad prawf HIV, a’i rwystredigaeth wrth gynnal ei ffrind Patrick, sy’n gynyddol chwerw. Does gan Teifion ddim lot ‘lan top’, mae’n wir, ond mae ganddo uchelgais bersonol Byddai’n well ganddo ‘Lip-Syncio’ i Katy Perry na dynwared Cher, nawddsantes y gymuned, dros ei grogi. Mae gan Antoine, ar y llaw arall, ddyhead i symud sîn  Caerdydd yn ei flaen, gan archwilio elfennau o wleidyddiaeth a (gasp!) barddoniaeth. Mae nhw i gyd, mae’n gwbl wir, yn gymysg oll i gyd, ond mae na un – yng nghanol y cawdel – sy’n  dioddef yn dawel.

Rhaid dweud i mi fwynhau rhannau helaeth o’r sioe hwn, sy’n gyfuniad o sioe cabaret a chomedi trasig. Cafodd y pedwar yn unigol, gyfle i ganu, a disgleirio, ac fe gynheswn atynt i gyd, o’r agoriad trydanol. Archwilir densiynau cyffredin, am hierarchiaeth o fewn y criw, am stasis creadigol, gobeithion unigol,  ynghyd a’u bywydau rhyw. Ar ben hynny, cyflwynwyd yr iaith Gymraeg, fel elfen ‘arall’, naturiol, i astudiaeth o faes ‘queer’ Cymreig. Fel y gwaredodd Patsy Thatcher, y Gymraes gryfaf yn eu plith, wrth i Lola Bipolar ei galw hi’n ‘chi; ‘ ma hynny ar gyfer Taid neu Nain, a Beti George’.

Roedd perffomiadau’r pedwar, y gwisgoed a’r goleuo – a’r holl ryddm, dan gyfarwyddwyd Mared Swain, yn grefftus tu hwnt. Ond ces fy llorio â gwreiddioldeb A Good Clean Heart, a’i hergydion emosiynol – nid oedd hynny’n wir, ysywaeth, yn achos Tuck. Fe’m diddanwd, yn bendant, drwyddi draw – ac mae’r ddrama yn byrlymu o ‘one-liners’. Yn rhyfedd ddigon yr hyn a’m trawodd oedd fod yma driniaeth arwynebol o fyd sydd yn ei hanfod yn ‘arwynebol’, ond yn fwy na hynny, na dyrchwyd yn ddigonol i’r thema ganolog iechyd meddwl. Ar ben hynny, amlinelliad o’r pedwar cymeriad gawsom yn y bôn; ni chafwyd pedwarawd mewn tri deimensiwn.

Fe ddotiais at bob cân, yn arbennig ‘Sitting in My Car’ gyda’i harddull ôl-fodernaidd Stephen Sondheim.  Ond wrth ystyried – gwir ystyried – perfformiad hyfryd Stifyn Parri, teimlais efallai y gallai weithio’n well fel sioe un dyn. Ces f’atgoffa o gynhyrchiad grymus Pridd (Theatr Genedlaethol Cymru), am glown yn ceisio’i orau i guddio’r tywyllwch (a sôn am dywyllwch). Yn y cynhyrchiad hwnnw hefyd, ymgorfforwyd yr iaith fel is-thema, yn arbennig wrth bontio rhwng gwleidyddiaeth a iechyd meddwl.

Serch hynny, rwy’n prysuro i bwysleisio fod hwn yn sioe adloniant bendigedig, sy’n ddathliad pur o ddiwylliant ‘drag’ cyfoes. Mae’r hiwmor yn ffyrnig o ffiaidd a ffraeth, ac yn cydio yn y zeitgeist gerfydd ei geilliau. Mae’n gam pwysig ymlaen yn nhraddodiad Drag Cymreig, ac wrth bontio rhwng y Saesneg a’r Gymraeg.

Llwyfanwyd y cynhyrchiad Tuck (Neontopia) yn bar Ffresh, Canolfan Mileniwm Cymru rhwng Hydref 25ain – Tachwedd 3ydd, 2018. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s