Adolygiad Theatr: Dwyn i Gof (Theatr Bara Caws)

Yn 2016, aeth holidaur yn y New York Times yn ‘feiral’ gan ymledu dros  y cyfryngau cymdeithasol. Dan sylw oedd 13 cwestiwn y dylai pawb sy’n ymrwymo i briodas, yn y gymdeithas sydd ohoni,  eu hateb. Yn eu plith, ‘beth yw dy chwaeth – a dy kinks – pan mae’n dod at ryw?’, a ‘beth yw dy ddiffiniad di o ‘fflyrtio’ ag eraill’? ‘Fase gwylio pornograffi yn ‘deal-breaker’ i’n perthynas?’ –  ac (efallai’n fwyaf dadleuol), ‘Beth yw dy farn go-iawn am fy rhieni’?

Diweddariad yw’r holiadur o’r ddefod draddodiadol o drafodaeth ag arweinydd crefyddol. Yr unig wahaniaeth yw fod y cwestiynau yn tyrchu gryn dipyn dwysach i ‘nitty-gritty’ priodas hir-dymor. Yn y cyfnod ‘mis mêl’, a’r cynnwrf cychwynnol, osgoi rhoi pin yn y swigen ‘rhamant’ yw’r nod . Ond os mai’r gôl yw cynnal perthynas ddedwydd am gyfnod sylweddol, rhaid bod yn onest a chyfathrebu’n gyson.

Mae’n amlwg na chafodd pedwarawd y ddrama Dwyn i Gof y ‘memo’, gan arwain at sefyllfa go chwerw. Ar ddechrau drama derfynnol y diweddar Meic Povey, paratoadau priodas pâr ifanc sydd dan sylw. Ar fin ymrwymo ‘mewn glân briodas’ y mae Gareth (Rhodri Meilir) a Cerys (Sara Gregory), ond yn gyntaf, rhaid trafod y cynlluniau a’i rieni, Huw (Llion Williams) a Bet (Gwenno Elis Hodgkins). Yn anffodus, mae sawl cysgod yn llechu dros y cyfarfod hwn, sy’n ymledu megis gwenwyn ar hyd y ddrama. Yn gyntaf,  cafodd Gareth ei ddal gan ei ddyweddi yn cusanu â chyd-weithwraig  tra’n feddw. Yn ogystal, mae gan Huw Early-Onset Dementia, sy’n ychwanegu cryn ddryswch i’r berw.

Ymysg ei symtomau, mae’n anghofio’i fab a’i wraig, ac yn drysu rhyngddi hi a dynes arall. Fe ddaw i’r amlwg y bu Gareth, yn bum mlwydd oed,  yn bresennol ar ‘drip ’sgota’ â’r ddynes honno. Ond beth yw hyn am Gwyn, y cymydog cyfeillgar, sy’n gefn mawr i Bet ar hyn o bryd?  Ynghyd ag astudiaeth o ‘bechodau’r tad’ a chyhudiadau di-ri, daw ambell ddatgeliad ymfflamychol i’r golwg. Wrth wraidd mae rhyw, ac adlais dyfyniad Oscar Wilde; ‘Everything in the world is about sex except sex. Sex is about power.’

Un peth sy’n bendant am y ddrama gyfoes hon; fe’i chrewyd i gorddi’r dyfroedd. Ar yr arwyneb, roedd yn ddrama Gymraeg (arall) am sgil-effeithiau Dementia, ond ‘Ceffyl Troeaidd’ o thema oedd hwnnw. Mewn gwirionedd, beth a gafwyd, yn y termau mwyaf amrwd, oedd astudiaeth o ryw ac archwiliad newydd o ystyr ‘cariad’. Yn hynny o beth, cafwyd drama Gymraeg gyfoes ag iddi naws Ewropeaidd, a chryn steil a soffistigeiddrwydd.

Set syml oedd yn gefnlen i droadau’r sgript nadreddog, a gwisgodd y pedwar arlliwiau amrywiol o lwyd. Am gyfnod maith roedd y grym ym meddiant y gŵyr, wrth iddynt guddio fersiynau o’r gwir. Ond yn sgil datgeliadau, y merched oedd oruchaf, mewn fflachiadau trawiadol o liw. Bu i’r dramodydd Meic Povey farw y llynedd, yn dilyn  corwynt datgeliadau #metoo. Yn ei ddrama olaf un, mynodd ‘wirionedd a chymod’ gan ei bedwarawd, gan sicrhau’r nesaf peth at ‘ddiweddglo ddedwydd’ i bawb.

Drama anorffenedig oedd hi, a gofynwyd i’r gyfarwyddwraig Betsan Llwyd i gymeryd yr awennau i’w ‘chwblhau’ er mwyn ei llwyfannu eleni. Ar y cyfan, mae’n gweithio, ond mae na ddryswch cyd-amserol, wrth i’r Alzheimer’s chwarae ei ran. Bu perfformiadau’r pedwar yn drydanol drwyddi draw, gyda’r sgript yn ddigon cadarn i Llion Williams gynnig dehongliad wahanol – a mwy cyfrwys  – o glefyd Dementia, na’i ran gwobrwyol yn Perthyn / Belonging.

Llwyddodd y ddau actor iau i greu gwreichion credadwy, ac roedd yn ddifyr gweld y tensiwn rhyngthynt yn cronni. Caiff ‘Cerys’ gyfle gwych i ddisodli’i dyweddi, a’r dorf  yn ogystal (a herio’n synaidau am y ‘wraig ddioddefus’) â ‘coup de théâtre’ o lw priodas.

Ond yn dilyn perfformiad annwyl a thorcalonnus  yn Ŵy Chips a Nain (Frân Wen) – fel cymeriad sy’n graddol ddatblygu Alzheimer’s, er mawr siom i’w hwyr – mae Gwenno Elis Hodgkins yma  yn cynnig tour de force go iawn, wrth ryddhau blynyddoedd o rwystredigaeth ar bawb. Mae’i datgeliad yn sioc a hanner, a trawyd y gynulleidfa’n fud –  ‘squeaky bum time’, yn llythrennol, i’r dorf Gymraeg.

Ond daeth y diweddglo teuluol â joch da o hiwmor, yn benllanw teilwng i yrfa theatrig y dramodydd. Mae’n wir na fydd pawb wedi gwirioni ar y ddrama, ond un peth sy’n bendant –  Meic Povey a hawliodd y gair olaf.

Teithiwyd drama Dwyn i Gof  gan Theatr Bara Caws o amgylch Cymru rhwng y 9ed-27ain o Hydref, 2018. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Theatr. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s