Gwobrau’r Cookies – Ffilmiau 2018… Y Da, Y Drwg a’r Hyll!

Do, fe aeth blwyddyn arall heibio ym myd y sinema; gwelwyd y gwych a’r gwachul fyny fry ar y sgrin arian, a serch atyniad y cysyniad o Netflix and chill, dal i heidio y gwna nifer am wefr dorfol!

Pleser pur i mi yw adolygu ffilmiau mawrion y sinema yn rheoliadd ar raglenni S4C a BBC Radio Cymru. Ac felly, wrth grynhoi’r flwyddyn, dyma i chi gip ar fy neg uchaf i, gydag ambell un yn hawlio’r greal sanctaidd wrth sicrhau 5 cookie. Ond er tegwch, dyma hefyd restr o’r 5 ffilmiau salaf hynny oedd yn artaith pur i adolygydd ffilm.

Caveat, gyfeillion; oedd, roedd na lawer o ffimiau canolig, a nifer o ffilmiau nes i fwynhau a chasau, ond sydd heb stwffio eu ffordd i’r deg uchaf na’r pump isaf. Chaiff nifer o’m ffefrynnau i mo’u cydnabod gan unrhyw academi. Ond ers chwyldro cymdeithasol #timesup a #metoo ar ddiwedd 2017, rydw i wedi cael gwledda ar gymaint mwy o ffilmiau am ferched (Molly’s Game), neu gan ferched (Ladybird), neu â phrif gymeriad fenywaidd (gormod i’w crybwyll – yay!), na chaiff eu brolio gan y rhelyw – nid oherwydd nad ydynt werth y sylw, ond oherwydd nad yw adolygwyr eraill yn  uniaethu, a hynny am ba bynnag reswm (Ahem! Datgelodd astudiaeth eleni fod 88% o feirniaid ffilm yn ddynion).

Yn bersonol, dwi’n chwilio bob tro am brofiad trosgynnol, ac annisgwyl, sy’n cynnig gwefr i’r synhwyrau a gwledd i’r emosiynau. A gall hynny olygu popeth rhwng ‘Niagra Falls’ o ddagrau, neu hernia a hanner wrth chwerthin. Neu, yng ngeiriau  fy arwres fawr, Pauline Kael , ‘… films that just left me reeling’.

Yn gyffredinol, gwnaeth yr holl sylw Brecsitaidd-jingoistaidd am berfformiad Gary Oldman yn The Darkest Hour droi arna i’n llwyr – pam dathlu Prif Weinidog oedd yn fastard pur?  (Plus, cynigodd John Lithgow ddehongliad cymaint mwy nuanced yn The Crown.) Ges i fy llsugo yn erbyn fy ewyllys eleni i weld ffilmiau arswyd o fri; nawr dyna i chi genre lle mae straeon diddorol am ferched i’w gweld yn glir!

Fel arfer, roedd y rhan fwyaf o ecstrafagansas Marvel yn siomiannau aruthrol, ag eithrio Black Panther, oedd yn bleser pur. Ac er cymaint ydw i’n addoli ger allor Joaquin Phoenix, mae gen i ofn na wnaeth yr un o’i berfformiadau ‘White Knight’-aidd ef eleni fy nghyffwrdd i i’r byw – caf mond gobeithio gwell gyda’i Joker ef yn 2019. A dwi dal methu coelio mod i heb weld Call Me By Your Name – cam mawr, a hefyd dwi’n addunedu i gynrhycholi mwy o ffilmiau tramor yn 2019.

O’r 52 ffilm welais i eleni, mae 15 ohonynt wedi derbyn ystyriaeth ddifrifol, ond crynhoi y bu’n rhaid, i’r ‘deg uchaf’ traddodiadol. Gan ddechrau felly o’r gwaelod, dyma gyfri’n raddol bach at begwn perffeithrwydd ‘pum Cookie’ fy marn i!

10. I Feel Pretty

Adlais cyfoes o’r holl gomedïau wish-fulfillment hynny o’r 80au/90au (Freaky Friday, Vice Versa, Big, 13 Going on 30 ac ati), dyma gynhyrchiad girl-power, am ferch hunan-dybiol o’r enw Renee (Amy Schumer) sy’n taro’i phen mewn dosbarth spin gan ddeffro yn grediniol ei bod hi’n hottie llwyr. Be sy’n ddiddorol am y ffilm gadarnhaol hon ydy fod Renee yn datblygu i fod yn hunllef pur, gan ddangos feod merched yn gallu bod yn  dwats, yn ogystal â dynion. Mae’n ffilm fflyfflyd â negeseuon pwerus dros ben; mae’n bownd o ddyddio, ond mae’n cynrhychioli zeitgeist  2018 i’r dim.

9. First Man

Wna i ddim clywed gair yn erbyn Gosling; mae popeth mae o’n ei gyffwrdd yn aur i mi (hyd yn oed Only God Forgives); mae’n actor llonydd iawn, oedd yn berffaith ar gyfer ‘biopic’ Neil Armstrong. – cymeriad eiconig, ac eto dieithr iawn yr un pryd. Ac wrth chwarae gyferbyn â’r Saesnes Claire Foy – actores lonydd, sy’n mynegi popeth â’i llygaid – roedd hwn yn ffilm a gynigodd astudiaeth eithriadol o intimate o gymeriad dwys, dan ofal medrus Damien Chazelle (La La Land). Fel yn achos Gravity a Moon, roedd hwn yn ffilm ofod dirfodol, a phur annisgwyl, am effeithiau galar dwys. Dwi dal yn groen gwydd ers yr olygfa pan laniodd y llong ofod ar y lleuad; roedd penderfyniad y cyfarwyddwr, a’r cyfansoddwr Justin Hurvitz, i hepgor cerddoriaeth ar yr eiliad fawr yn athrylith pur.

8. Widows

Do’n i ddim yn gyfarwydd o gwbl â’r gyfres deledu wreiddiol gan Lynda LaPlante, ac felly roedd y cynhyrchiad gangster ma yn agoriad llygaid i mi. Mae Heat yn un o fy hoff ffilmiau erioed, ac roedd y gwaith ensemble a’r golygu oedd ar waith yn ffilm Steve McQueen bron iawn cystal â chlasur cyfoes Michael Mann. Mae’n dilyn argyfwng pedair gwraig weddw yn sgil marwolaeth eu gwyr – gangsters milain, oedd yn ddyledus i ddihirod di-enaid. Roedd yn bleser annisgwyl cael gweld ffilm lawn-tensiwn, a pherfformiadau o fri gan  yr actoresau llai amlwg, Viola Davis, Michelle Rodriguez, Elizabeth Debicki a Cynthia Erivo (roedd hi’n rhagorol hefyd yn Bad Times at the El Royale) – a chwip o droad wnaeth fy ngadael yn gegrwth. Bravo!

7. Mary Poppins Returns

Ohhhh…  sôn am ffilm berffaith i orffen y flwyddyn hon, a rhodd dymhorol o fri i ni gyd; ofn pawb wrth gwrs oedd y byddai’r adnewyddiad hwn yn ail-bobiad siomedig iawn o glasur Disney o 1964. Ond symud y stori yn ei flaen wnaeth cynhyrchiad Rob Marshall, gan ddal ei afael yng ngwerthoedd y gwreiddiol, gyda chast perffaith dan arweiniad Emily Blunt. Mae rhai wedi awgrymu bod ei Mary Poppins hi yn llai ‘neis-neis’ na Julie Andrews, ond fe weithiodd hynny i’r dim i mi, gan lynnu’n fwy triw i weledigaeth wreiddiol ei hawdures, PL Travers. Diolch i oruchwyliaeth gerddorol gan Richard Sherman, un o gyfansoddwyr y ffilm  wreiddiol, mae’r caneuon gystal bob tamed â’r hen glasuron. Dwi’n ysu i’w ail-weld, er mwyn meddwi eto ar glyfrwch y geiriau – dyliwn i wir fynd i brynu’r trac sain a dweud y gwir…

6. A Star is Born

Sôn am brynu trac sain, ro’n i gyntaf yn y ciw i brynu hwn ar CD wedi rhag-ddangosiad o A Star is Born. Do’n i ddim yn gyfarwydd ag un o’r pedwar rhagflaenydd, ond fe es i ati i wylio Streisand a Judy Garland wedi hynny. Yn fy marn i, mae gystal â chlasur George Cukor o 1954, gan ei fod yn cynnig astudiaeth decach o ddwy seren fawr – y naill ar fin esgyn i’r uchelfannau , a’r llall ar fin ffrwydro a diflannu am byth – na vanity project Babs o 1976 (er fod Kris Kristofferson ar dân yn honno, rhaid dweud). Maddeuwch yr ystrydeb ond mae Gaga / Stefanie Germanotta yn ddarganfyddiad  sinematig, a dewis perffaith ar gyfer stori  sy’n adleisio ei gyrfa i raddau helaeth. A Bradley Cooper? Who knew , ys dywed yr Yanks, fod ynddo gymaint o dalentau – fel cyfarwyddwr, cynhyrchydd, cyd-gyfansoddwr a chanwr gwlad, ac mae ei olygfeydd â Sam Elliott (fel ei frawd) yn  annwyl dros ben. Am dros ddwywawr, ry chi’n buddsoddi popeth yn rhamant Ally a Jackson Maine, ac mae’r ffilm yn eich tywys chi ar wibdaith i’r sêr, cyn troi’n drasiedi pur drachefn. Rwy’n rhagweld Oscars galôr.

5. Three Billboards Outside Ebbing Missouri

Dau air – neu ddau enw; Mildred Hayes. Un o’r creadigaethau gorau ers tro byd, diolch i fynegiant gwynepsyth Frances McDormand. Diolch hefyd i ddoniau sgrifennu y Gwyddel Martin McDonagh (In Bruges), am lunio gwrth-arwres gwerth ei halen; mam i ferch gafod ei chipio, ei threisio a’i llofruddio ond sy’n gwrthod chwarae rôl yr alarwraig angylaidd. Nawr, tydy hon ddim yn ffilm berffaith ; yn wir mae gen i gryn issues â hi. Am un peth Abbie Cornish  (fel gwraig Woody Harrelson) yw’r actroes waethaf erioed, ac mae ‘achubiaeth’ Jason Dixon, yr hillbilly hiliol, yn llawer rhy gyfleus, serch fy edmygedd o’r actor Sam Rockwell.  Ond am stori â throadau annisgwyl, a chymeriadau dynol, cymhleth dros ben, does na’m un ffilm arall i gyffwrdd â hi.

4. McQueen

Wel dyna fi wedi’i dweud hi nawr, a dyma fi’n gorfod gwrth-ddweud fy hun yn llwyr. Dwi’n dotio at ffasiwn ers yn ferch ifanc iawn, ac ro’n i’n credu bo fi’n eitha cyfarwydd â naratif trasig Alaxander ‘Lee’ McQueen – un o arwyr mwyaf y byd ffasiwn tan ei hunanladdiad yn 2010. Nes i hyd yn oed weld ei retrospective (rhagorol) yn y Met yn Efrog Newydd, ond ar ôl profi’r ffilm ddogfen hon, sylweddolais nad o’n i’n gwybod braidd dim am y dyn ei hun. O’r cychwyn cyntaf, mae McQueen yn datgelu’i hun fel ffilm ffasiwn wahanol, mewn cymhariaeth ag eraill sy’n dathlu adar amryliw. Am un peth mae’n cynnwys swmp helaeth o ‘home-movies’ personol iawn, sy’n taenu goleuni ar dywyllwch dudew McQueen. Mae’n ffilm am awen ac athrylith, a dawn naturiol ‘Lee’,  a’r obsesiynau a’r iselder a’i blagiodd ers yn blentyn. Ond serch yr hagrwch, mae yma brydferthwch, sy’n esgor ar alar o’r newydd am ddyn oedd yn artist o fri.

3. A Quiet Place

Mae’n gas gen i ffilmiau arswyd. Na wir, mae’n GAS gen i ffilmiau arswyd. Mae gen i ffrindiau sydd yn ffoli ar ar y chwyrligwgan o adrenalin sydd yn hyrddio trwy eu gwaed wrth wylio Freddy Krueger a Saw, a’r holl ffilmiau Torture-Porn ond dwi’n eitha siwr mai dyma fy unig alergedd i. Ond fe es, yn erbyn f’ewyllys, i wylio A Quiet Place, ar ol deall ei fod yn nes at ffefrynnau fel Alien a Jaws. Fel yn achos Bradley Cooper, ges i’n syfrdanu yn wir at allu John Krakinski (Jim o fersiwn Americanaidd The Office) i lywio fy nghalon a fy nerfau mewn glân briodas o bleser iasoer, heb orfod unwaith sgrensian fy llygaid, na stwffio mysedd yn fy nghlustiau mewn ofn. Yn y bôn, mae’n ffilm am gariad anorchfygol Mam, ac mae Emily Blunt yn rhagorol, wir.

2. Tully

A sôn am gariad anorchfygol Mam! Ry ni’n dychwelyd at y thema hynny; wel cariad gorchfygol a dweud y gwir – ar gyfer perfformiad rhagorol gan Charlize Theron. Mae hi’n adlais o gymaint o ffrindiau gen i sy’n boddi dan bwysau cymdeithas i weithio a chynnal perthynas tra’n magu plant, a hoffwn gyflwyno Tully i bob un ohonynt wir. Dwi’n dwlu ar ddewisiadau’r actores Charlize Theron o Aileen Wuornos i Imperator Furiosa; am ddynes brydferth, mae hi’n fwy na hapus i rwygo ei delwedd yn rhacs, ac yma mae hi’n brwydro i afael yn ei hunaniaeth ei hun.  Mae’r sgript, gan Diablo Cody, yn ddoniol a direidus, ac mewn mannau mae’n cyffwrdd i’r byw. Fel yn achos I Feel Pretty, mae Tully yn cydio yn ysbryd yr oes, wrth gyffwrdd ar themau digon gwynepsyth fel iechyd meddwl a chydraddoldeb, a’u troi ar eu pen yn llwyr. Bydden i hefyd yn dadlau  fod hon yn ffilm bwysicach na’r un, hyd yn hyn, i ddynion ei gweld, yn ddi-oed.

  1. Phantom Thread

Mae’n rhyfedd, ond tydy, pan edrychwch chi nol ar yr holl ffilmiau hynny wnaeth daro deuddeg gyda chi – a gyda llaw, roedd The Grinch a Black Panther yn eu plith! Ond y ffilm ryfedd, ryfeddol hwn am obsesiwn a rheolaeth pur sydd wedi gadael ei hol fwyaf gyda mi. Mae Daniel Day Lewis yn berffaith (PERFFAITH! Cafodd gam ENFAWR yn yr Oscars)  yn y rhan fel y cynllunydd ffasiwn Reynolds Woodcock, sy’n sownd mewn triongl hunllefus rhwng ei gariad a’i chwaer. A sôn am anghenfil gwych o chwaer… mae Lesley Manville (cyn-wraig Gary Oldman – cam ARALL yn yr Oscars!)  yn chwarae Cyril â gwenwyn pur… tra fod rhan Alma (Vicky Krieps), y weinyddes fach ddistaw, yn tyfu’n raddol mewn nerth, cyn datblygu i fod yn nemesis o fri . Mae cymaint am ffilm  Paul Thomas Anderson – o’r cynllunio celfyddydol, a’r dillad rhyfeddol, i’r gerddoriaeth gyfareddol gan Johnny Greenwood – yn WYCH. Dyma hefyd yw’r ffilm yr wyf wedi dyfynnu ohoni fwy na’r un, wrth ryddhau fy Reynolds (a Cyril) Woodcock mewnol  ar y byd!  Yn wir, mae un dyfyniad yn crynhoi 2018 i’r dim a dweud y gwir; ‘I don’t like to hear it because it hurts my ears.’

Y Pum Pothell…

… sydd ddim hyd yn oed yn hawlio hanner Cookie, wedi’u crynhoi mewn UN GAIR

5.  Avengers: Infinity War – SIAMBLS

4. Deadpool 2 -DIOGI 

3.  Robin Hood   – SIOLEN

2. Oceans 8  – GWARTH

1. Tomb Raider  – ECHRYDUS

Am ychydig bach o gefndir fy system sgorio’r Cookies cliciwch yma am esboniad cynhwysfawr! Ac os fwynheuoch chi’r blogbost hwn, ac yn ysu i glywed mwy, wel mae croeso i chi ‘ddal fyny’ a rhai o fy adolygiadau diweddar i ar BBC Radio Cymru ac S4C.  

Beth am ddechrau gyda fy adolygiad i o The Grinch ar Heno, a Nativity Rocks, neu Mary Poppins ac Aquaman ar Prynhawn Da, cyn graddio i werthfwrogiad o rai o fy hoff ffilmiau Nadolig erioed ar Bore Cothi, ac adolygiad o Morfydd ar raglen radio Dewi Llwyd. Bydda i nol ar soffa felen Prynhawn Da ar ddydd Gwener, Ionawr y 4ydd, yn rhagweld uchafbwyntiau sinematig 2018. Gan ddymuno Cookies galôr, a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!  Diolch am ddarllen, Lowri Haf Cooke Xx

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm, Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s