Helo ers tro! Son am gorwynt o dri mis – gadewch i mi egluro fy absenoldeb o’r byd blogio dros fisoedd y gaeaf…
Yn gyntaf, dwi bellach yn olygydd ar gylchgrawn Taste Blas – sy’n golygu llawer o deithio o amgylch Cymru. Yn frawd-gyhoeddiad chwarterol i gylchgrawn Red Handed, fe’i lansiwyd gan gwmni cyhoeddi Conroy ar ddechrau mis Rhagfyr.
Mae ar gael i’w ddarllen mewn bwytai, caffis, delis, a thafarndai o fri – felly byddwch yn barod i fachu copi ledled Cymru! Yr hyn sy’n gyffrous yw fod hyn yn gyfle i gyffroi darllenwyr di-Gymraeg , gyda bwyd yn abwyd i deithio’r wlad ac i ddarganfod mwy am ddiwylliant Cymru.
Dwi wrth fy modd yn cael comisynu sgwenwyr ac awduron o fri, fel Myfanwy Alexander a Jon Gower, sy’n golofnwyr gwych, ynghyd â meithrin sgwenwyr eraill i lunio gwaith gwybodus, byrlymus, teimladwy, a darllenadwy am faes llewyrchus yma yng Nghymru.
Peidiwch a synnu os welwch chi gyfeiriadau at hanes, chwedloniaeth, a’r iaith Gymraeg mewn portread neu adolygiadau o lefydd bwyta. Mae hyn yn gyfle amhrisiadwy i bontio rhwng dau ddiwylliant, ac i ddeffro’r dychymyg, a hunaniaeth Gymreig pawb, trwy sgwennu am fwyd a diod ledled Cymru – maes sydd bron yn ‘grefydd newydd’ yn ein cymdeithas gyfoes ni. Dyna’r bwriad bethbynnag – ac fel pob ‘work in progress’ gobeithiaf y bydd yn cryfhau o rifyn i rifyn. Rydw i eisioes wedi derbyn adborth gwych gan nifer fawr o bobol – yn ddarllenwyr, cigyddion, cogyddion ac yn berchnogion bwytai – yn bennaf am fod hwn yn gylchgrawn i Gymru gyfan. Rhowch waedd os hoffech gyfrannu, neu hysbysebu!
Hefyd, yn anffodus, yn sgil cyhoeddiad ddiddymu Gwobrau Theatr Cymru toc cyn Nadolig, daeth diwedd i Gronfa Beirniaid Theatr Cymru. Bu’r gronfa yn noddi fy holl adolygiadau theatr Cymraeg, ac mae’n destun siom na fydda i’n gallu adolygu theatr mor aml. Hoffwn ddiolch, yn fawr, i Mike Smith, am ei waith di-flino (heb geiniog o nawdd cyhoeddus) dros y blynyddoedd, a’i ymdrechion bob tro i roi statws cydradd i’r theatr Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru. Bydda i’n dal i gyhoeddi ambell adolygiad ar y blog hwn, ond heb nawdd, mae’n amhosib rhoi cymaint o amser, teithio pellteroedd ac ystyriaeth i gynyrchiadau theatr Cymraeg ledled y wlad. Gan obeithio y daw cyfle eto i adolygu’n amlach, ond yn y bôn, mae’n amhosib adolygu’n gyson i’r fath safon heb gael tâl teg am y gwaith.
Un prosiect arall sydd wedi nghyffroi dros y misoedd diwethaf, yw prosiect Bwyd a Bro y Bermo a arweiniais trwy gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol. Fel yn achos fy ngwaith ym Mlaenau Gwent a Bro Morgannwg, a gofnodais eisioes ar y blog, ces fy newis i arwain cynllun difyr iawn mewn ysgol sydd â chysylltiad teuluol.
Ym 1941, apwyntiad fy Nhaid, W. D. Williams, yn Brifathro ar Ysgol Gynradd y Bermo. Toc cyn cyraedd, fel sgrifennodd yr englyn ‘Wrth Fwrdd Bwyd’, a gipiodd y wobr gyntaf yn Eiseddfod Llawr Dyrnu’r Sarnau, ger y Bala ar Nos Calan y flwyddyn honno. Daeth yr englyn – sydd yn agor gyda’r geiriau ‘O Dad, yn deulu dewydd…’ yn adnabyddus ledled y wlad, am gyplysu ‘lluniaeth a llawenydd’.
Dyna’n union, a dweud y gwir, oedd fy mwriad i, wrth ddeffro dychymyg plant Ysgol y Traeth; es i ati i gyflwyno plant Blwyddyn 5 i flasau newydd, a Chymry Cymraeg sy’n gweithio ym maes bwyd yn ardal y Bermo. Yn eu plith, David Jones y cigydd, Alys a Melissa, caffi Goodies – a hefyd y cogydd José Antonio Fernandez, o Galicia, sy’n rhedeg bwyty bendigedig Bistro Bermo, sy’n pwysleisio pysgod a bwyd y môr.
Wrth arwain y plantos ar hyd ‘Llwybr Bwyd y Bermo,’ bues i’n eu hannog i fynegi eu teimladau am flasau bwydydd o bob math, cyn bwrw ati i adolygu sawl profiad newydd.
Penllanw’r daith faith oedd ymweliad â Gwesty Portemirion am wledd anhygoel i 27 o ddisgyblion; trwy gydweithio â’r cogydd Mark Threadgill – sy’n Gymro Cymraeg o Gricieth, ac yn un o sêr fy llyfr diweddaraf Bwytai Cymru – lluniwyd bwydlen flasu 5 cwrs unigryw ar gyfer y plantos. Wedi wythnosau o hyfforddiant, roedd y plant yn fwy agored i brofi arlwy eang o flasau gwahanol.
Alla i ddim pwysleisio gormod pa mor bwerus oedd hyn, yn arbennig wrth ddychwelyd i’r ysgol drannoeth i lunio’r adolygiadau. Gwelais gynnydd anhygoel yn hyder, mynegiant a chreadigrwydd, a gonestrwydd yr holl blant hyn, a hynny yn yr iaith Gymraeg. Roedd y gweithiau ysgrifenedig mor hyfryd o bersonol, dadlennol, a chreadigol. Diolch yn fawr i raglen Heno ar S4C am ddilyn y daith, a darlledu uchafbwyntiau’r prosiect hwn – ewch i’r wefan i weld y pytiau a ddarlledwyd ar Chwefror 11eg a Mawrth 11eg, 2019.
Soniodd nifer fel y bu Taid yn giamstar ar rigymau, gan annog plant y Bermo i gael hwyl yn yr iaith Gymraeg. Dwi’n eithriadol o falch y ces i brofi’r un wefr yn yr un ysgol wrth gael sbort efo bwyd yn y Gymraeg. Diolch yn fawr i dim gwych yr ysgol – ac i holl drigolion y dre, a fu mor groesawgar, ac a wirionodd yn llwyr ar weld Bermo ar y brig ar S4C.
Bydda i’n cynnal gweithdai ysgolion ar y prosiectau bwyd hyn yng Ngwyl Lledaenu’r Gair ar yr 11eg o Ebrill, 2019, yng Nghanolfan Soar, Merthur Tudfil.