Cylchgrawn Barn: Bwytai Bro’r Brifwyl, Dyffryn Conwy a’r Cyffiniau

Beth bynnag sy’n eich denu, boed ginio dydd Sul neu dapas, pitsa neu gregyn gleision Conwy, mae digon o ddewis o lefydd bwyta, ynghyd ag ambell ddeli a chigydd gwych, yn y sir sy’n gartref i’r Eisteddfod eleni. Dyma wibdaith o’u cwmpas.

Mae gwledd yn ein haros ar ddechrau mis Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy. A thra bydd nifer yn canu am drindod  ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ Y Cyrff,  rhaid hefyd ystyried ‘ Brecwast, Cinio a Swper’ i borthi’n cyrff ninnau. Teithiais ledled y fro yn gynharach yr haf hwn yn hel syniadau am lefydd bwyta yn y sir. A lle well i gychwyn na chanolbwynt y Brifwyl – tref farchnad ddymunol Llanrwst.

Pr’un ai’n teithio o’r gorllewin, y gogledd, y dwyrain neu’r de, bydd y bont fawr a briodolwyd (yn anghywir efallai) i Inigo Jones yn groesffordd amlwg i Eisteddfodwyr. Ar lan orllewinol  yr afon mae tŷ te  Tu Hwnt i’r Bont yn denu ymwelwyr rif y gwlith ers blynyddoedd mawr. Oedwch yno am baned, cacen de neu gaws pob, ac archebwch fwrdd ymlaen llaw rhag cael eich siomi.

Dafliad carreg i ffwrdd mae gwesty’r Eryrod, a chaffi Contessa ar Sgwâr Ancaster. Cewch yn Contessa frecwast o dôst ag wyau a stwnsh afocado, neu ewch am espresso i gaffi La Barrica yng nghysgod tŵr y cloc. Yn nes at faes yr Eisteddfod, ar gaeau Plas Tirion a Cilcennus, mae Oriel Ffin y Parc.

Dyma gaffi godidog ac oriel gelf wych, yn arddangos gwaith artistiaid cyfoes gorau Cymru. Mwynhewch goffi tra byddwch yn edmygu celf Elfyn Lewis a Luned Rhys Parri, a bydd gwaith gan Dewi Tudur yn rhan o Arddangosfa Gymysg yr haf wrth iddo yntau ddychwelyd i’w hen ardal o’r Eidal ar gyfer y Brifwyl.

Bydd pererindotwyr bwyd Cymreig yn awyddus i dalu teyrnged i gwmni Deiniol ap Dafydd, Blas ar Fwyd. Galwch fewn yn y siop win a delicatessen i rannu cyfarchion pen-blwydd i’r cwmni arloesol sy’n 30 oed eleni. Ymysg y diodydd ar y silffoedd mae poteli Cwrw Llŷn – cwmni a gyd-sefydlwyd gan frawd Deiniol, yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd.

Gyferbyn â’r siop, mae’r chwaer-gaffi, Amser Da; bachwch fwrdd, a phowlen flasus o lobscows neu frechdan bacwn wedi’i thostio. Neu, am gam bach hiraethus yn ôl i’r gorffennol, trowch i fyny’r stryd at y Milk Bar bach cartrefol. Ceir chwa o Americana – gan gynnwys byrgers llysieuol – yn Lle Hari, yng Ngwesty Meadowsweet, uwchlaw ar Stryd yr Orsaf.

Ond dim ond un gyrchfan sydd am bysgod a sglodion o fri, sef Tir a Môr, a’u bwyty newydd drws nesaf.

Mae’r bwyty’n llawn gwaith haearn hynod gain gan Gerallt Evans; fûm i erioed mewn sglodfan mor chwaethus yng Nghymru o’r blaen. Ger y bar diodydd helaeth, ceir jins niferus Aber Falls, a chwrw crefft Eryri; neu beth am botel o pilsner Rees o Landdoged gyda’ch sglodion a phenfras?  Ceir hefyd ddewis helaeth o gynnyrch cigyddion y dref  gan gynnwys T.J.  Parry Jones, Elystan Metcalfe ac Arwyn Jones. Ac os am gyri Bangladesh, croeswch y ffordd i Tŷ Asha Balti House, sydd wedi ennill gwobrau niferus, gan gynnwys Tŷ Cyri Gorau Cymru 2014. Rhowch ddiwrnod o rybudd os am flas o’r Cig Oen Kurchi.

Rhyw filltir i’r gogledd-orllewin, ar ôl croesi’r hen bont, fe ddewch chi bentref Trefriw. Yno mae siop gigydd Maralyn sy’n cyflenwi bwytai lleol, fel Lle Hari, Llanrwst, a Chaffi Penaeldroch, uwchlaw ceubyllau afon Lledr, ar gyrion pentref Ddolwyddelan. Trowch i’r chwith ger siop y cigydd ac ymhen milltir neu ddwy,  fe gyrhaeddwch Gaffi Llyn Crafnant.

Carwn gadw ambell fan fel hyn yn gyfrinach i mi fy hun; sôn am le i enaid gael llonydd. Mae’r gwasanaeth o’r radd flaenaf, a’r bwyd yn flasus iawn;  ceir hefyd ddewis o fyrbrydau i figaniaid.  Wrth ddychwelyd  i Drefriw, cofiwch am gaffi’r Felin Wlân; archebwch baned a bara brith, ac os am gofroddion o fro’r Eisteddfod ar gyfer y gegin, mae’r matiau bwrdd brethyn yn ddelfrydol.

Gerllaw mae Chandlers Brasserie, bwyty o safon uchel iawn, dan arweiniad y cogydd disglair Arwel Williams.

Ymlaen â ni i gyfeiriad Conwy ar hyd yr B5106, gan basio canolfan Surf Snowdonia ar y dde. Os byddwch chi neu aelodau’r teulu awydd syrffio ar hyd y dyffryn, cewch adfywiad yn y caffi-deli, bar a bwyty, sy’n gwneud defnydd gynnyrch y fro.  Yna, yn nes gyrion Conwy, ceir tafarn fwyd gyffyrddus Y Groes, sy’n rhan o fragdy JW Lees o Fanceinion; rhowch dro yno ar gwrw ambr Tân y Ddraig, yng nghysgod Tal-y-Fan yn y Carneddau. I gyfeiriad y gogledd-orllewin,  cewch chwa o awyr iach ar draeth carregog Penmaen-mawr. I fyny’r bryn, yng nghanol y pentref, ceir bwyty Eidalaidd Ti Amo, a cheir clod hefyd i The Village Bistro. Neu os am Strudel neu Wiener Schnitzel, trowch at The Austrian Restaurant yn Nwygyfylchi – bwyty hyfryd, annisgwyl dros ben.

Gallech dreulio rhai dyddiau yn gwledda yn nhref Conwy, felly neilltuwch ychydig oriau o leiaf  i fynd yno am dro.  Ddwy flynedd yn ôl, yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, ces fodd i fyw ym mwyty tapas Cymreig ym Miwmares. Ers hynny agorwyd brawd fwyty o’r un enw, The Midland, ar Stryd y Castell yng Nghonwy, dan arweiniad y cogydd Andrew Tabberner, gynt o fwyty chwaethus The Loft yn nhafarn y Bull, Biwmares.  Yno cewch wledd o blateidiau bychain, gan gynnwys empanada ysgwydd cig oen o Fae Cinmel, oedd yn rhagorol ar fy ymweliad yno ym mis Mehefin.

Yn nes at y castell, saif bwyty pizza Johnny Dough – lle poblogaidd dros ben â theuluoedd. Gyferbyn â hwnnw, ceir deli, siop gaws a chaffi chwaethus The Press Room, yn dathlu’r gorau o ddanteithion Cymru a Sir Conwy.

Yna os ydych am hufen iâ, trowch yn syth at Parisella’s. Os mai awydd cwrw sydd arnoch, mae dafarndai’r Gloch Las a’r Liverpool Arms ddewis da o gwrw’r fro. A thra mae canol y dre yn frith o gaffis gwych (gan gynnwys Tŷ Te Pen y Bryn) , cofiwch hefyd alw yn siop te Seibiant.

Mae’r perchennog gwybodus Sian Wiliams yn donic ynddi’i hun, ac yn cyflenwi busnesau lleol fel bwyty Bryn Williams Porth Eirias a Gwesty Neuadd Caer Rhun;  mae hi’n angerddol am effaith adfywiol dail te anarferol, fel te Pu-erh o Tseina, a the gwyn o Siapan. Cyn ymadael â Chonwy, rhaid ymweld â’r  mecca bwyd hwnnw, Edwards; fel mae arwydd y siop yn ei ddatgan, dyma  ‘Gigydd o Fri’. Rydych yn siwr o gael eich temtio gan ddanteithion lu, fel pastai, selsig, bacwn a ffagots i fynd adref (neu i’r garafan) gyda chi.

Wrth groesi’r bont dros afon Conwy trowch i’r chwith i gyfeiriad Deganwy,  ac anelwch at  yr orsaf drenau – gyferbyn â’r fynedfa mae bistro chwaethus Paysanne.  Mae’r fwydlen glasurol yn un helaeth, ac yn llawn seigiau ag arnynt flas Ffrengig, wedi’u paratoi gan ddefnyddio cynnyrch gorau Sir Conwy. Erbyn cyrraedd Cyffordd Llandudno, byddwch angen eich adfywio; ewch, felly, i dŷ te a choffi cyfoes Providero.

Coffi Heartland o Landudno a weinir yno,  sydd wrth fodd yr hipsters coffi; dyma gartref y flat white gorau yn Sir Conwy, yn fy marn i. Drws nesaf mae sglodfan Enoch’s, sydd fel arfer â rhes o gwsmeriaid eiddgar o’i blaen. Ond am brofiad ychydig bach mwy heddychlon, trowch i draeth gorllewinol Llandudno ar eich union,  am botel o Gwrw Pen y Gogarth a byrbryd fydd wrth eich bodd, yn y West Shore Beach Cafe bach onglog glas.

A sôn am gwrw, trowch o’r fan honno at Stryd Madoc yn nes at ganol y dre; gamau’n unig o Siop Lyfrau Lewis, mae bar a siop gwrw ardderchog Tapps sy’n denu gurus y cwrw crefft.  Fy ffefryn i o bell ffordd ydi cwrw sesiwn IPA Wild Horse, Nintoka, a gaiff hefyd ei fragu yn Llandudno. Mae’r un cwrw ar gynnig ger bar bwyty Dylan’s, yn adeilad trawiadol y Washington, yng Nghraig-y-Don ar hyd y prom.

Ac am hufen iâ traddodiadol, trowch at Forte’s ar Stryd Mostyn –  mae’r parlwr Eidalaidd yr un mor boblogaidd heddiw â phan yr agorodd yn 1926.

Yn Llandrillo-yn-Rhos mae tŷ coffi ‘instagram chic’ Vintage Kitchen , sydd hefyd yn gweini coffi Heartland. Ar ochr arall Rhodfa Penrhyn, ceir siop a bar gwin The Grape to Glass, sy’n  llawn soffas lledr cochion cyffyrddus. Ceir yno enwau newydd sbon danlli o blith diodydd y fro, gan gynnwys liqueur fodca a jin Grandma’s Cupboard o Landudno a jin mefus cwmni pHure o Gonwy.

Dilynwch yr arfordir, i gyfeiriad Bae Colwyn, cyn cyrraedd bwyty bendigedig Bryn Williams, Porth Eirias.

Dyma i chi un o fwytai gorau’r sir, a’r nesaf peth at brasserie The Wolseley yng Nghymru. Hawliodd Bib Gourmand gan feirniaid Michelin am gynnig gwerth am arian. Mae’r bwyd o’r safon uchaf, a’r croeso’n agos-atoch; ewch am y fwydlen ginio drichwrs, a mynwch blatiad blasus o’r merllys, cyn sglaffio cregyn gleision Conwy, a’r Alasga pob!

Ar Heol Penrhyn yng nghanol y dre, ceir sawl caffi chwaethus iawn, gan gynnwys Haus a Flat White; am rywbeth cryfach, trowch at fragdy crefft Bae Colwyn, Black Cloak Brewing & Taproom ar Heol Abergele.

A sôn am Abergele, byddai’n werth galw heibio Caffi Crempog am frecwast i’r brenin. Ac os am wledd i ddathlu aduniad, neu ginio Sul godidog, trowch at fwyty’r Kinmel Arms ym mhentref cyfagos Llan San Siôr. Wrth grwydro’n ôl i ganol Sir Conwy dros fryniau hyfryd Bro Aled, gallech dorri’r siwrnai ym mhentref Llansannan. Gyferbyn â’r gofeb i Gwilym Hiraethog, William  Salesbury a Tudur Aled, mae tafarn hynafol Y Llew Coch; dyma le braf i gael peint ger y lle tân ysblennydd.  Yna bedair milltir i’r gorllewin,  ym mhentre Llangernyw, mae’r Old Stag Inn yn dafarn fwyd  sy’n llawn cymeriad, gyda bwydlen o glasuron i gynhesu’r galon.

Yn rhan ddeheuol Sir Conwy, cewch siocled poeth tra chofiadwy yn Tŷ Siocled ar lan afon Merddwr ym Mhentrefoelas.

Yna wrth ddilyn yr A5 i gyfeiriad Betws-y-Coed, anelwch am Barc Coedwig Gwydir ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Ar ôl ymweld â Thŷ Mawr Wybrnant – man geni’r Esgob William Morgan – ystyriwch alw yn Siop Coffi Plasglasgwm, ger pentre Penmachno. Ac wrth ddychwelyd i’r A5, gallech daro i mewn i Gaffi Rhaeadr y Graig Lwyd, a gynlluniwyd gan Clough Williams-Ellis.

Gweinir pitsas yno bob penwythnos, neu dewiswch o’r fwydlen helaeth ddwyieithog – dyma le gwych am ginio ysgafn ym Mro Garmon.

Yna ar gyrion Betws-y-Coed, ceir bwyty hanesyddol a bwywydlen fendigedig Tŷ Gwyn. Am olygfa a hanner dros yr afon Conwy, trowch at westy Craig y Dderwen;  y seigiau mwyaf poblogaidd yno yw’r ddeuawd cig oen a’r Wellington eidion, ar y fwydlen cinio Sul .

Yn nes at orsaf y dre, mae Hangin’ Pizza yn werth ymweliad, ynghyd â’r deli difyr Iechyd Da.

Ystyriwch hefyd dŷ coffi Alpine, sy’n gweini byrgers hynod flasus wedi’i gwneud o gig eidion fferm Cae Gwyn, Pentrefoelas. Yng nghanol y dref, mae Bistro Betws-y-Coed:  enillydd teitl Bwyty Cymreig Gorau yng Nghymru  2018 yng Ngwobrau Bwyd Cymru. Ac ychydig gamau i ffwrdd mae bwyty cyfoes braf Olif, sy’n gweini tapas sy’n cyfuno blasau Cymru a Sbaen.

Nac anghofier ger Capel Curig  am dŷ te Pot Mel Tŷ Hyll, lle tra dymunol am baned a chacen. Ac os am gyfuno’ch ymweliad â’r Brifwyl â dringo’r Wyddfa a Moel Siabod,  rhowch gynnig ar arlwy Caffi Siabod. Gallaf argymell ei frecwast llysieuol i roi dechrau da i’r diwrnod – a’i sgonsen anferthol unrhyw bryd. Wedi’r cyfan, mae cyrraedd y copaon yn gofyn am gryn dipyn o egni –  bron cymaint ag sydd ei angen i grwydro’r Maes a chlebran trwy’r wythnos!

Bethbynnag sy’n mynd â’ch bryd – prun ai cynnyrch y tir neu’r môr – fe gewch chi’n bendant ‘flas ar fwyd’ ym mro Llanrwst.

Am ganllaw gwych i fro’r Eisteddfod eleni, bachwch gopi o Gylchgrawn Barn o’ch siop Gymraeg lleol.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s