Am flwyddyn yn hanes y sinema… dyna fy ymateb wrth lunio fy rhestr 10 uchaf o 2019. Ydy, mae’n Ionawr yr 2il 2020, ond wedi brêc llwyr oddi wrth popeth ond darllen llyfrau, a gwylio teledu Nadolig (Uchafbwynt? Dwy ffilm Billy Wilder gefn wrth gefn ar BBC2 – The Apartment a Some Like it Hot), mae fy sgiliau beirniadol wedi eu miniogi! A pha well ffordd na sicrhau ‘2020 vision’ eleni nag wrth gymeryd un cip olaf yn ôl ar sgrin arian 2019.
Yn gyntaf, y gwanaf; y ffilmiau hynny wnaeth fy nghythruddo, ac rwy’n eich rhybuddio i osgoi fel y pla du. Yr ysfa i wneud pres yn unig a diogi pur oedd yn sail i Yesterday a Last Christmas yn fy marn i – ffilmiau gwaetha’r flwyddyn o bell ffordd. Bisâr, a dweud y lleiaf, oedd penderfyniad yr awduron Richard Curtis, ac Emma Thompson, i danseilio cyfraniadau cerddorol y Beatles a George Michael i’r byd gan gyflwyno ‘teyrngedau’ hunanol a sinigaidd. Dim rhagor am y rheiny; just say no!
Yn ail, mae cyhoeddi ffilmiau mawrion ar wasanaethau ffrydio bellach yn ‘big business‘ erbyn hyn, gyda Roma, Marriage Story a The Irishman ymysg y ffilmiau mawrion hynny i ennill bri ar Netflix ar y cyd â’r sgrîn fawr (heb sôn am enwebiadau gwobrau di-ri). Dwi dal o’r farn mai’r sinema yw cartref naturiol cynychiadau ffilm – does dim i gystadlu â’r wefr o brofi sioe dafluniau epig i gyffroi’r synhwyrau i gyd. Ond peth braf hefyd mewn bywyd yw opsiynau. Ôl Nodyn; dyw’r ffaith fod cynhyrchiad bellach yn deillio o wasanaeth ffrydio ddim yn arwydd o safon bob tro. Murder Mystery gyda Jennifer Aniston ac Adam Sandler oedd ffilm fwyaf ‘llwyddiannus’ o ran niferoedd gwylio Netflix eleni. Serch presenoldeb y Cymro carismataidd Luke Evans yn y ffilm hon, ‘peidiwch a boddran’ yw fy adolygiad ‘tri gair’ i.
Ac yn drydydd, allai’m coelio faint o ffilmiau am (neu gan) ferched sy’n gor-lenwi fy neg uchaf o 2019. Ydw, dwi’n ferch, ond ynghyd â thuedd naturiol fy rhywedd, roedd na opsiynau lu o ffilmiau benywaidd O BOB SAFON! Yn draddodiadol, mae’r ychydig ffilmiau am ferched wedi gorfod ‘gweithio i bawb’ ac unrhyw ‘wendidau’ sy’n perthyn iddynt yn gyfiawnhad dros ddefnyddio’r esgus arferol i gadw’r ‘cwotas’ ffilmiau merched yn isel, oherwydd ‘dy nhw jyst ddim yn apelio i gynulleidfaoedd y sinema’. Wel, ‘ceilliau’ i hynny, ac fel y gwelwch o’r deg uchaf, mae’r ffilmiau a mhlesiodd i i gyd yn ffilmiau gwych am bobol. Period. Sy’n fy arwain, without further ado, at y rhestr…
11. The Aeronauts (PG)
Gosh, sut allen i hepgor The Favourite, Judy, Terminator: Dark Fate, Official Secrets a Frozen 2 o fy neg uchaf eleni? Dyma felly ychwanegu rif 11 i gynrhychioli’r rhain oll, Cwffiodd y ffilm gymharol fechan hon gan Tom Harper i fewn i nghalon heb ddisgwyl dim cyn mynd i’w gweld, gan rowlio’n llygaid braidd wrth weld enw’r Old Etonian ‘Eddie Redmayne’ ar y posteri yn nhymor yr hydref. Wel rhag fy nghywilydd am fod mor ragfarnllyd, oherwydd ffilm Felicity Jones yw hon, yn ddi-os. Stori bur annisgwyl a theimladwy tu hwnt, am arloeswraig ym mlynyddoedd cynnar nid y unig meteoroleg, ond byd y syrcas, a hefyd hedfan awyrennau. Digon teg, mae ei chymeriad blaengar yn greadigaeth cwbl ffuglennol, ond dan gochl biopic am wyddonydd gwrywaidd mae The Aeronauts yn cynnig teyrnged i nifer o ‘Baloon Girls’ arwrol canol y 19eg Ganrif wnaeth gyfraniad aruthrol o ddewr i ddatblygiadau rhyfeddol wnaeth arwain at gyflawniadau syfrdanol yr 20fed Ganrif. Hefyd, mae’r cemeg rhyngthi hi ac Eddie – wnaeth gyd-chwarae mor naturiol â’i gilydd yn The Theory of Everything – yn brawf o barch a haenlioni’r ddau actor at ei gilydd. Bendigedig!
10. Always Be my Maybe (12)
Yep, rom-com fflyffi o’r hen ysgol wedi’i sgriptio gan y ddiddanwraig Ali Wong, un o’r stand-yps mwyaf doniol (h.y. masweddus, outrageous a gogoneddus o onest) sydd ar y sîn gomedi ar hyn o bryd (GWYLIWCH ei sbesials comedi ar Netflix, gan gychwyn gyda Baby Cobra – wnewch chi DDIM difaru). Mae’r ffilm gan Nahnatchka Khan, gydag Ali Wong a Randall Park, yn nes at dystysgrif PG na 18, ond mae’n hynod annwyl ac yn canolbwyntio ar y gymued Asiaidd-Americanaidd cyfoes yn San Francisco, ac yn adlais o’r berffeithbeth When Harry Met Sally (a’i sgript o eiddo Nora Ephron) am ffrindiau bore oes yn ail-gysylltu fel oedolion. Mae hefyd yn cynnwys cameo AMHRISIADWY gan Keanu Reeves. Ynghyd â gweld cynydd mewn ffilmiau am ferched, agorodd lifddorau #timesup a #metoo at gynrhychiolaeth mwy o actorion o ‘leiafrifoedd’ o bob math, ac fel yn achos Always Be My Maybe ar Netflix, mae The Farewell gyda Awkwafina yn berl fach hyfryd am deulu yn gwynebu colli eu Nain.
9. The Kitchen (15)
Tra’n aros am The Irishman – ffilm gangster ddiweddaraf Martin Scorsese – ges i siom ar yr ochr orau gyda The Kitchen, oedd yn troi holl tropes ffilmiau gangster gwrywaidd ar eu pen. Dyma stori am ddial, ail-afael mewn hyder ac amddiffyn eich tiriogaeth, o berspectif tair merch badass sy ‘di laru ar gael eu sathru dan draed. Ceir yma adlais ysgafnach o Widows gan Steve McQueen (oedd ei hun yn seiliedig ar gyfres deledu Lynda LaPlante o’r 80au) , ond digon di-gyfaddawd a hard-boiled, wedi’i gosod yn Hell’s Kitchen (hence y teitl mwys-eiriog) yn Efrog Newydd y 1970au. Penderfyniad gwych ar ran y gyfarwyddwraig Andrea Berloff (Straight Outta Compton) oedd castio’r actores gomig Melissa McCarthy yn y brif ran, i oresgyn disgwyliadau’r gynulleidfa yn llwyr, ar y cyd â Tiffany Haddish a hefyd Elisabeth Moss, yma’n dod a llwyth o agwedd Offred (The Handmaid’s Tale) i’r parti. Dwi’n cofio gadael y sinema ar don o endorffins llwyr, fel ar ôl gweld Wonderwoman a Furiosa yn Fury Road!
8. Marianne & Leonard: Words of Love (12A)
Woah… ffilm ddogfen dorcalonnus o dda gan Nick Broomfield am hanes y ferch go iawn a ramanteiddiwyd yn llwyr gan y Bardd o Montreal. Archwiliwn ramant Marianne Ihlen a’r canwr Leonard Cohen o’u dyddiau cynnar ar ynys hudolus Hydra, gwlad Groeg, ble castiwyd y Norwyes fel ‘awen’ hardd i’r bardd hunanol. Ond roedd hi’n llawer mwy na hynny, yn fam sengl, a merch anibynnol, a wrthododd fantell felltigedig o’r fath. Ond fel mae llwybr bywyd yn profi, roedd mwy i hanes y ddau na’i farwnad hiraethus ‘Goodbe Marianne’ ef; dyma agoriad llygad go iawn ar greadigrwydd a gwallgofrwydd a gwir ystyr ‘cariad mawr’.
7. Midsommar (18)
Gosh, be sy’n digwydd i mi? Canmoliaeth i A Quiet Place a Get Out yn 2018, a kudos pellach i ffilm arswyd arall?? Aeddfedu ydw i sbo… neu bosib mai triniaethau mwy soffistigedig o’r cysyniad o arswyd sydd i gyfri am fy mharch cynyddol at y genre. Teg yw dweud nad oedd Midsommar gan Ari Aster (Hereditary) ddim byd tebyg i UNRHYW ffilm arswyd arall o’i fath. Dilynwyd perthynas bregus pâr ifanc Americanaidd sy’n hedfan i Sweden am ‘brofiad unwaith mewn bywyd’; gwahoddiad i seremoni traddodiadol yn dathlu hirddydd haf, cyn i bethau fynd yn HOLLOL honco. Hawdd fyddai gweld y ffilm arswyd-gwerin hon fel diweddariad o ffilm fel Wicker Man… ond na, roedd o’n brofiad mwy llawer mwy rhyfedd ac anesmwyth na’r clasur iasoer o’r 70au. Roedd o hefyd yn gignoeth a shocking, mewn ffordd cymaint llai schlocky na slasher pics anferthol yr 80au… ac mi nath o esgor ar lawer mwy o sgyrsiau dadansoddiadol nag unrhyw ffilm arall. Be ddiawl oedd yn mynd ymlaen…? Wel, falle taw dyna’r pwynt. Acid trip o ffilm, a’r arswyd i gyd yn digwydd yng ngolau dydd, dan belydrau tanbaid yr haul ganol haf, yng nghwmni merched mewn ffrogiau folkloric a thorchau blodau Insta-chic, a pherfformiad aruthrol gan Florence Pugh. Ai beirniadaeth byd natur am werthoedd cyfalafol oedd dan sylw, neu pseudo snuff movie i snobs? Dwi’n dal i weithio fo allan fy hun…
6. Star Wars: The Rise of Skywalker (12A)
Anrheg Nadolig perffaith, a diweddglo wych i gyfres ragorol wnaeth newid hanes Hollywood am byth. ‘Nid pawb sy’n gwirioni run fath’, dwi’n meddwl , yw’r prif wers o saga Star Wars, a rannwyd yn dair trioleg – heb sôn am yr holl bobol hynny ddaeth allan o’r woodwork gyda’r linell ryfeddol ‘dwi heb weld un ohonyn nhw’ – helooo, ble ma NHW wedi bod ers 1977?!! Siom oedd fy ymateb gwreiddiol i The Last Jedi gan Rian Johnson (wedi gorfoledd pur The Force Awakens), ond dwi hefyd yn deall rhwystredigaeth nifer gyda phenderfyniadau JJ Abrams yn y rhifyn olaf (cymeriad Rose, druan, am un) ac arswydus braidd oedd darganfod na chynlluniwyd dilyniant pendant rhwng pob ffilm, ag ystyried y gwariant syfrdanol. Ond o ran fy mhrofiad cyntaf o’r ffilm olaf, wel, ro’n i’n wên o glust i glust yng nghwmni Fin, Poe Dameron a Chewbacca (a C3P0 a D-0), cyffrodd yr atyniad amwys rhwng Rey a Kylo Ren tan y diwedd un, a denodd holl ysbrydion o’r gorffennol ddagrau mawr. Welai chi ger y bar trwy gydol mis Ionawr am ddadansoddiad dwys o’r saga… wedi i mi ffeindio’r amser (eeeek!) i wylio’r naw ffilm yn olynol.
5. The Irishman (15)
Nawr, ag ystyried bod Heat yn un o’m hoff ffilmiau erioed, ar y cyd â chyfres The Godfather, Casino a Goodfellas, fe allech chi fentro mod i’n llawn cyffro ar gyfer ffilm newydd Scorsese eleni. Yn seiliedig ar y cyfrolau I Heard You Paint Houses a Closing The Case on Jimmy Hoffa, mae’r ffilm yn cynnig portread o fywyd ‘fixer’ i aelodau Mafia Philadelphia o’r enw Frank Wheelan, sef Gwyddel enigmataidd y teitl. Ymhell dros deirawr o hyd, es i weld hon yn y sinema, cyn ei hail-wylio dros Nadolig ar Netflix gyda fy nhad. Opsiynau, ch’wel, mae’n gweithio’r naill ffordd neu’r llall, ac roedd y ddau ohonom wrth ein boddau. Wedi gyrfa gyfan o fawrygu gangsters treisgar (ac fel yn achos The Godfather III gan Coppola) mae i’r ffilm adlewyrchol goda crefyddol am fod yn atebol am bechodau mawr. Perfformiad oeraidd o lonydd a gyflwynir gan Robert De Niro fel y Frank sosiopathig, gaiff ei groesawu i fyd ‘atyniadol’ yr Eidalwyr-Americanaidd, ac yn bennaf gan Russell Bufalino (Joe Pesci, ardderchog), cyn cael ei apwyntio yn gynorthwy-ydd i Jimmy Hoffa – pennaeth carismataidd undeb y Teamsters dylanwadol, a bortreadir yn rhagorol gan Al Pacino. Fel pob gangster movie gwerth chweil, trasiedi Shakespeareaidd a geir yma, a chast syfrdanol (er digon ceidwadol) sydd hefyd yn cynnwys Bobby Cannavale, Ray Romano a Harvey Keitel. Mae e’n chwerthinllyd nad yw’r un ferch yn hawlio rhan sylweddol yn y ffilm, ond dyma deyrnged (a marwnad) i machismo gwrth-arwyr Scorsese, a dameg gref sy’n debygol o blesio ffans y genre.
4. Once Upon a Time in Hollywood (18)
Dyma’r unig ffilm yn ystod 2019 yr es i’w gweld ddwywaith yn y sinema, a sôn am revenge thriller annisgwyl o hoffus. Roedd y cemeg rhwng Leonardo DiCaprio a Brad Pitt oddi ar y raddfa, ar furff bramant rhwng actor b-list a’i stynt-man ffyddlon, wrth iddynt faglu yn ddigon ffarsaidd i ddrama llawer tywyllach ar eu stepen drws. Wedi gyrfa o gynnig teyngedau i ffilmiau cowboi, byd rhyfel a kung-fu, trodd Tarantino ei drem at gariad mawr ei fywyd, sef byd ffilm Hollywood – a chyfnod penodol ddiwedd y 60au, ar achlysur llofrudiaethau ‘Teulu’ Charles Manson, a esgorodd ar ddegawd mwy chwerw y 70au. Er i nifer feirniadu penderfyniad yr auteur i ganolbwyntio ar straeon ffantasïol y dynion, ar draul hanes trasig go-iawn Sharon Tate, yn fy marn i fe gynigodd Margot Robbie deyrnged hyfryd i’r actores addawol oedd ar ei phrifiant, a ddiffiniwyd am byth gan ei diweddglo hunllefus. Ro’n i wedi disgwyl bod ar bigau’r drain ar hyd y ffilm yn barod i wingo ar yr holl drais arferol Tarantino. Ond diolch i pace hynod hamddenol, cerddoriaeth adleisiol a chomedi twymgalon, ymgollais yn llwyr yn LA y cyfnod, cyn cael fy llorio tua’r diwedd gyda diweddglo mor ‘outrageous’ o dreisgar nes i mi chwerthin yn afreolus. Nawr doeddwn i DDIM wedi disgwyl hynny… Dyma Tarantono ar ei fwyaf hiraethus, yn cyflwyno ‘fan-fic’ rhamantus i gystadlu â ffilmiau ‘wish-fulfillment’ o stabal Disney. Jyst efo mwy o drais ar y diwedd. Obvs.
3. Marriage Story (15)
Diolch i ddwy ffilm drawiadol tua diwedd 2019, Adam Driver i mi oedd wyneb y flwyddyn. Yn llythrennol, yn achos ei benglog, sy’n efelychu un o feini Easter Island. Ond sôn am actor i ddenu gwaed o garreg. Fe dorrodd o nghalon fel Kylo Ren yn The Rise of Skywalker (‘I’m the type of guy to kiss you and ghost you after our first date 😂 ‘ – chwedl @SadKyloRen ar Twitter), a’r un oedd hanes ei gymeriad Charlie yn Marriage Story gan Noah Baumbach, a ysbrydolwyd i raddau gan brofiad personol y cyfarwyddwr. Ar y cyd â Scarlett Johansen, cyflwynwyd darlun o’r cwpwl delfrydol – actores a chyfarwyddwr priod, sy’n rieni i fachgen wyth mlwydd oed. Ond serch y teitl, nid stori am briodas a gafwyd yn y ffilm; yn hytrach, astudiaeth chwerwfelys o’u hysgariad. Brechdanwyd y cynhychiad yn berffaith gan agoriad a diweddglo llawn cariad, yn ffrâm i gymhlethdod prydferth dau unigolyn – ynghyd a’u plentyn, a’u ‘teulu’ ehangach. Nid date-movie mo hwn o bell ffordd, ond ffilm angenrheidiol o rybuddiol i bawb, prun ai mewn perthynas ai peidio. I atgyfnerthu athrylith Baumbach, ffilm gomig yw hon, ar ben popeth! Yn wahanol i stori debyg Kramer v Kramer o’r 1970au cyflwynwyd portread cytbwys a chredadwy o berspectif y gŵr a’r wraig; mae’r ddau brif actor yn cynnwys perfformiadau gorau eu gyrfaoedd hyd yma, ac yn haeddu pob llwyddiant dros y tymor gwobrau.
2. Joker (15)
Tan Ionawr y 1af, 2020, dyma’r ffilm a hawliodd fy rhif 1 yn 2019, diolch i berfformiad trydanol gan Joaquin Phoenix fel y Joker bondigrybwyll; wel, ffigwr bregus y clown truenus Arthur Fleck a dweud y gwir. Ond roedd hynny cyn gweld y ffilm sydd ar frig fy rhestr, a ryddhawyd ar Ŵyl San Steffan, so jaman ar Joker, braidd. Mae popeth yn ffilm Todd Phillips (o’r gerddoriaeth, y golygu, a’r cyfarwyddo celfyddydol) ar y naill llaw yn anesmwytho’r gwyliwr, ac eto’n denu ein cydymdeimlad llwyr. Serch y testun – sy’n deillio o’r byd comics – nid ‘superhero movie’ Marvel sydd yma dan sylw, ac nid Jared Leto fel y Joker dros ben llestri chwaith, diolch i’r drefn. Yn hytrach, dyma feirniadaeth tanbaid o gymdeithas ddi-deimlad Trump a’r Torïaid, trwy lygaid dioddefwr truenus sy’n trigo ar ei chyrion, a goblygiadau (posib? anochel?) byw dan bwysau o’r fath. Na, nid un o ffilmiau Ken Loach sydd yma, mae’n llawer mwy ‘stylized’ na Sorry We Missed You (clasur arall o blith ffilmiau eleni), ond mae Joaquin Phoenix yn syfrdanol fel yr Arthur annwyl, annifyr, sy’n brwydro problemau iechyd meddwl mawr. Ffigwr ymylol iawn yw Bruce Wayne yma – wedi’r cyfan, ffilm sy’n rhagflaenu hanes Batman yw hon – ond mae’r troad sy’n datgelu perthynas y ddau yn sioc, ac yn ddigon i gyfiawnhau’r diweddglo, yn fy marn i. Penderfyniad yr actor i blethu elfennau dawns creadigol i ddwyshau ei bortread hypnotig sy’n debygol o sicrhau’r Oscar am yr actor gorau iddo eleni. Ardderchog.
1.Little Women (U)
Chwyrligwgan o ffilm lawn cariad sy’n gadael y gwyliwr yn hollol benysgafn. Cynhyrchiad ysbrydoledig gan Greta Gerwig, wnaeth fy nghyffwrdd i i’r byw. Doeddwn i erioed wedi darllen nofel Louisa May Alcott o 1868, nac wedi gwylio’r un addasiad sinematig o’r blaen, ac felly roeddwn i’n wyryf i hanes y chwiorydd March. Fel gwaith Austen a’r chwiorydd Brontë, caiff y nofel yn aml ei diystyru fel ‘stori i ferched’, ond beth sy’n fwy dynol na stori adeg rhyfel am obaith ac uchelgais, y tyndra rhwng cariad a chreadigrwydd, rhyddid a rhwystredigaeth, a’r teulu sy’n sail i bob dim? Does dim byd ‘stuffy’ am ffilm gyfnod Greta Gerwig sy’n gorwynt o egni drwyddi draw. Fel yn achos War and Peace gan Leo Tolstoy (a gyhoeddwyd flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1869), ry’ chi’n uniaethu â phob cymeriad, sydd yn rhannu’r un pryderon dynol ac aelodau’r gynulleidfa gyfoes. Mae Saoirse Ronan fel arian byw fel y Jo anibynnol, a Florence Pugh yn canfod dynoliaeth cymeriad ei chwaer fach gystadleuol Amy. Cyfleir sgil-effaith marwolaeth un cymeriad mewn distawrwydd pur, sy’n croesawu’r gwyliwyr i rannu’r golled mewn ffordd ingol. A bydd mamau ledled y byd yn cydymdeimlo â Laura Dern fel Marmee, sy’n perchnogi’r geiriau, ‘I am angry nearly every day of my life’. Yn wir, dyna un enghraifft yn unig o eiriau oesol Louisa May Alcott, sy’n dathlu merched yn eu holl gymhlethdod. Efallai mai’r linell sydd wir yn llorio, ac yn datgelu grym yr hanes i’r dim, yw myfyrdod Jo: ‘If I were a girl in a book, this would all be so easy’. Ysblennydd!
Bydda i’n adolygu Little Women, ac yn edrych ymlaen at ffilmiau mawrion 2020 ar raglen Prynhawn Da ar S4C ar ôl 2 o’r gloch ar brynhawn Gwener, Ionawr 3ydd, 2020. Cliciwch yma i wylio.
Hysbysiad: Adolygiad Ffilm: Gwledd (The Feast) (18) | Lowri Haf Cooke