Cegin Lowri: Spag Bol Mam

 

Ganol mis Ebrill, aeth hashnod Twitter yn ‘feiral’, wrth i filiynau o bobol rannu lluniau ohonyn nhw’u hunain yn ifanc, gyda’r geiriau #meattwenty #ugainoed. Pwy all feio pawb ‘dan glo’ yn eu cartrefi am fynd i hela hen luniau o gyfnod, i nifer ohonom, cyn google a ffonau symudol, ac – yn bendant – y cyfryngau cymdeithasol. Ar ôl cwpwl o ddyddiau, trois i at fy hen albymau lluniau, oedd yn orlawn o luniau coleg, yn Aberystwyth. Roedd wastad Kodak ‘disposable’ yn fy mag ar noson allan, rhag peri niwed i fy nghamera Canon ffyddlon.

Dewisais gwpwl o luniau i rannu ar Instagram, ac un ffefryn mawr ar Twitter . Fel y gwelwch chi, ro’n i’n denau fel styllen… o ie, ac yn ‘brunette’! Ges i gymaint o fwynhad yn pori dros y lluniau gyda ffrindiau annwyl – dim un ‘hunlun’ yn eu plith, ‘mond cofnodion hwyliog o anturiaethau gwallgof. Dwi’n cofio chwerthin trwy gydol y flwyddyn honno, ac eto ro’n i’n llawn ansicrwyddau, ac mae gwylio cyfres ysgubol Normal People (BBC Three) wedi tanlinellu hynny! Dyma fi’n dechre meddwl beth fyddai fy nghygor i rywun sy’n 20 oed nawr..?

Wel fy mhrif ddarn o gyngor fyddai; peidiwch a gwrando ar neb dros eu deugain! Ond hefyd, peidiwch a gwastraffu’ch amser yn pryderu am beth mae eraill yn ei feddwl ohonoch, achos ma nhw’n rhy brysur yn poeni amdanyn nhw’u hunain. ‘Cofia pwy wyt ti’, fel ddwedodd ffrind da i mi. Byddwch yn arwr neu arwres eich stori fawr chi a dangoswch barch mawr atoch chi’ch hun. Does dim angen rhywun arall arnoch i’ch ‘gwneud yn gyflawn’, a pheidiwch a theimlo dan bwysau i ‘achub’ neb arall. A pan mae rhywun yn dangos i chi’n gynnar pwy ydynt, coeliwch nhw – er gwell neu er gwaeth. Hefyd, i ddyfynnu’r awdures Norah Ephron, gwisgwch bikinis DRWY’R AMSER. Ac i ddyfynnu Baz Luhrmann, peidiwch anghofio’r eli haul.

Dwi’n caru’r llun olaf hollol random o fi a Mam yn ‘Speedy Snaps’ – un llun ar ôl yn y ffilm, ‘say cheese!’. Bu farw fy Mam bron i chwe mlynedd yn ôl erbyn hyn, ac alla i ddim pwysleisio faint o falm yw cipluniau o’r fath o eiliadau hapus iawn o’n bywyd efo’n gilydd.

Yr un pleser a gaf wrth ailgreu ryseitiau Mam, sydd gen i ar gof a chadw. Bwyd cysur yw’r rhan fwyaf o’r ryseitiau hyfryd hyn, ac mae ailgreu’r blasau a’r arogleuon yn ei hatgyfodi dros dro, ac yn ei gwahodd i rannu’r wledd.

Dyma rysait sy’n berffaith ar gyfer nos Sadwrn, ac sy’n mynnu potel o win coch ar y bwrdd. Peidied neb â chysylltu i fynnu nad yw pobol Bologna mewn gwirionedd yn hwyta ‘Spaghetti Bolognese’. Dwi’n malio dim, dyma oedd ‘Spag Bol Mam’ (efo cwpwl o esblygiadau, doedd hi ddim yn mawr un am tsili) – ac mae’r blas yn hollol wych.

Spaghetti Bolognese Mam

500g o Friwgig (Mins) Cig Eidion

30g o Pancetta neu 3 darn Cig Moch (bacwn) wedi eu torri’n fân

2 Llwy Fwrdd o Olew Olewydd

1 Nionyn mawr

6 Gewin Garlleg

1 Moronen wedi’i Gratio

1 Tun Tomatos wedi’u Torri

1 Llwy Fwrdd o Bâst Tomato (Tomato Paste)

1 Ciwb Isgell (Stoc) Cig Eidion mewn 300ml o Ddŵr Berw

1 Llwy De o Oregano Sych

Llwy Fwrdd o Saws Swydd Caerwrangon (Worcestershire Sauce)

Opsiynol; 1 Tsili Coch NEU Hanner Llwy De o Greision Tsili (Chilli Flakes)

1/3 Potel o Win Coch Ffrwythog

75g o Sbageti

Llwy Fwrdd o Gaws Parmesan wedi’i Gratio

Llwy Fwrdd o Ddail Persli (Dail Gwastad) Ffres

Dull

Yn gyntaf, ffrïwch y pancetta neu 3 darn bacwn wedi’u torri mewn 2 llwy fwrdd o olew olewydd, mewn desgyl caserôl ar dymheredd cymhedrol. Ar ôl i’r bacwn frownio ymhen pum munud, tynnwch y cig o’r olew, a’i osod i’r neilltu mewn powlen.

Yna, ffriwch 500g o friwgig eidion yn olew y bacwn / cig moch  am ddeg munud ar dymheredd cymhedrol, gan droi yn gyson â llwy bren nes bod y cig yn dechrau brownio.

Torrwch y nionyn a’r garlleg yn fân a gratiwch y foronen, a’u hychwanegu i’r gymysgedd. Parhewch i droi’r gymysgedd tra’n ffrïo am 10 munud.

Nawr, am yr hwyl! Ychwanegwch y cig moch a ffrïwyd eisoes, cynnwys y tun tomatos, y stoc cig eidion mewn dŵr berw, y saws Swydd Caerwrangon (neu Lea & Perrins i mi!) a gwydr mawr o win coch. Ar ben hynny, ychywanegwch llwy fwrdd o bâst tomato, llwy de o oregano sych (neu berlysiau eich dewis, brenhinlys / basil neu berlysiau cymysg), pinsiad da o halen a phupur, ac OS y dymunwch bach o gic, y creision tsili NEU tsili coch wedi’i dorri’n fân. Gadewch y gymysgedd i ffrwtian am 20 munud, gyda’r caead ymlaen ar wres cymhedrol, i adael i’r holl flasau stwytho, ac i’r saws ‘leihau’ ychydig.

Ymhen 20 munud, blaswch. Beth sydd ar goll? Gwrandewch ar eich greddf…

  • Bach yn blaen? Pinsiad arall o halen a phupur, ac oregano, ac ysgwydiad arall o Lea & Perrins.
  • Bach yn hallt? Sgwaryn o siocled, neu llwy de o siwgwr.
  • Dim digon o halen? Beth am ychwanegu brwyniad (anchovy) wedi’i dorri’n fân, neu hanner llwy de o Marmite neu Bovril

Yna ychwanegwch lasied arall o win coch. Gadewch y gymysgedd i ffrwtian am awr ar dymheredd cymhedrol. A cerwch i gael bath, i ymlacio!

Wrth i’r Bolognese neshau at fod yn barod, estynwch y sbageti. Pawb yn gwbod sut mae berwi sbageti? 75g (neu fwy!) yr un o spaghetti mewn sosban o ddŵr berw, gyda phinsiad o halen neu joch o olew olewydd. Berwch y pasta am hyd at 10 munud tan yn ‘al dente’ (blaswch – dylai fod yn feddal ond dal ‘â brathiad’).

Tywalltwch y sbageti i fewn i gogor, cyn ei osod ar blât neu bowlen lydan, cyn ychwanegu llwyaid hael o’r Bolognese am ei ben. Taenwch faint bynnag o bersli a chaws Parmesan ag y dymunwch, a mwynhewch y wledd â glasied o win coch!

 

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Bwyd, Cegin Lowri. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael sylw