
Ffefryn mawr efo’r teulu ers blynyddoedd mawr ydy’r potes (hot-pot) cig oen eithriadol o flasus hwn. Dwi’n credu i Mam ffeindio’r rysait gyntaf mewn taflen Hybu Cig Oen Cymru, a dros y blynyddoedd dwi wedi’i addasu rhyw fymryn i ychwanegu garlleg, rhosmari, a gwin at y stoc.
Mae na rywbeth gwerinol, a syml am y saig, sy’n cynnwys blasau’n ‘cawl’ cenedlaethol mewn ffordd wahanol. Ac mae’n gweithio pob adeg o’r flwyddyn – yn wir, mae’n ymgorffori blas gwannwynaidd cig oen gyda llysiau pridd yr hydref a’r gaeaf. Rhannais y potes yn bedwar i rannu ag aelodau’r teulu (fi ’di Deliveroo y Cookes ar ddydd Sul!), ac yn wir, fe blesiodd pob aelod! (Mae hyd yn oed yn well drannoeth OS oes sbarion! Wedi’r cyfan, potes eildwym sydd orau 😉)
Potes Cig Oen

Cynhwysion
500g Darnau Ysgwydd Cig Oen (di-asgwrn)
3 Darn Cig Moch neu Pancetta
50g Menyn
25g Blawd Plaen
3 Gewin Garlleg mân
1 ciwb Isgell (stoc) Cig Oen mewn 125ml o ddŵr
Glasied o Win Gwyn Sych
3 Deilen Rhosmari
Hanner Llwy Fwrdd o Bupur
Pinsiad o Halen y Môr
750g o Hen Datws
2 Genhinen
Hanner Sweden / Rwdan
2 Foronen
Dull
Yn gyntaf, paratowch y llysiau: pliciwch yr hen datws, y moron a’r hanner sweden/rwdan, a’u torri mewn sleisiau tenau, yna torrwch y cennin yn ddarnau 1cm.

Parthed y cig, gofynnwch y cigydd i dorri’r ysgwydd cig oen yn ddarnau, neu darniwch y cig eich hun â chyllell finiog. Trowch y popty ymlaen ar wres 180 gradd Selsiws.
Estynwch ddesgyl caserôl, a ffrïwch y darnau cig oen a’r cig moch mewn 25g o fenyn ar wres cymhedrol. Pan fydd y cig oen wedi dechrau brownio, ychwanegwch y blawd a chymysgwch yn dda gyda llwy bren.

Yna ychwanegwch y garlleg mân a ffrïwch ymhellach am funud. Ychwanegwch yr isgell (stoc) cig oen (a gymysgwyd eisioes mewn 125ml o ddŵr), y gwin gwyn, 2 ddeilen rhosmari a phupur, a gafewch i’r hylif ‘leihau’ am 5 munud.

Diffoddwch y gwres, a dechreuwch gyflwyno’r llysiau mewn haenau.
Dechreuwch gyda’r cennin…

Yna’r sweden / rwdan…

Yna’r moron… (hei, paid a galw fi’n moron!)

Yn olaf, ond nid leiaf, gosodwch y tatws ar yr haenen uchaf. Taenwch halen a phupur a dail rhosmari dros y potes, a’r 25g olaf o fenyn mewn darnau dros yr arwyneb.

Gosodwch y potes yn y popty am 45 munud – gyda ffoil neu bapur pobi ar ei ben.

Ymhen 45 munud, tynnwch y gorchudd, a gadewch i’r potes bobi ymhellach am hyd at hanner awr (neu’n hirach, yn dibynnu ar eich popty), nes fod y tatws yn lliw euraidd.

Pan fydd yn barod, estynwch lwy fawr, gan weini’r potes ar blât, a mwynhewch!
