
‘Daw hyfryd fis Mehefin cyn bo hir, Pan glywir y gwcw’n canu’n braf yn ein tir. Braf yn ein tir, braf yn ein tir. Cwcw, cwcw, cwcw’n canu’n braf yn ein tir.’ Dyma un o fy hoff ganeuon Cymreig yr arferwn ei chanu â’m ffrindiau yn Ysgol y Wern, gan ffoli ar hud ei hailadrodd gyda’n gilydd (roedd ‘Dacw ti yn Eistedd y Deryn Du’ yn un arall!). Hyd heddiw mae’r geiriau yn cyfleu rhyw ddiniweidrwydd mawr, wrth gael ein taro o’r newydd gan ryfeddod byd natur ar drothwy tymor yr haf.
Wel daeth mis Mehefin, wedi heulwen mis Mai, ac agorais fy ‘wardrob’ haf (bag IKEA glas!). Sôn am ryddhad – dwi wastad yn teimlo fel ‘fi fy hun’ mewn ffrog ysgafn, sandalau, a sbectols haul.
O ran bwyd, dyma fis pan edrychaf ymlaen i sawru blasau tymhorol fel mefus a hufen, gwin rhosliw, a saladau o bob math.
Ond dyma hefyd fis arbennig pen-blwydd fy Mam, a dros y Sul ail-greais un o’i hoff ryseitiau hi. Clasur o Ffrainc yw’r Boeuf Bourguignon, sy’n flasus pob mis o’r flwyddyn. Fel mae’r enw yn ei awgrymu, mae’n cyfuno darnau cig eidion a joch da (iawn) o win coch o’r Bwrgwyn.
Mae’n rysait hynod hawdd ac er ei fod yn cymeryd rhai oriau, mae’n glasur sy’n werth buddsoddi eich amser ynddo. Mae’n berffaith ar gyfer cinio Sul, oherwydd unwaith bod y cynhwysion i gyd mewn un ddesgyl, gallwch ymlacio’n llwyr wrth fynd am dro neu ddarllen y papurau.
Roedd Mam yn bencampwraig ar y grefft o ymlacio (roedd hi’n caru darllen, teithio, gwylio’r tenis a Chymru yn chwarae rygbi, wedi gyrfa lawn fel Athrawes Gymraeg), ac ar baratoi Boeuf Bourguignon! Bydde hi wedi troi’n 81 oed wythnos ma – pen blwydd hapus Mam xxx
Boeuf Bourguignon

Cynhwysion
(Digon i 2 yn ystod y Clo Mawr, felly dwblwch ar gyfer 4, ac ati)
400g Ciwbiau Cig Eidion
50g Cig Moch Pancetta neu 3 Darn Bacwn wedi’u torri
2 Llwy Fwrdd Olew Olewydd
1 Nionyn Wedi’i Sleisio
1 Llwy Fwrdd Blawd Plaen
3 Glasied o Win Coch
3 Gewin Garlleg Mân
1 Deilen Llawryf (Bay Leaf)
1 Llwy De Teim Sych
Halen a Phupur
Madarchen Portabello
150g Nionod Shallots
Dull
Estynwch ddesgyl caserôl ac ar dymheredd cymhedrol browniwch y ciwbiau cig eidion yn yr olew olewydd. Yna tynnwch y cig o’r ddesgyl a’u gosod ar blât am y tro.

Yna, yn yr un olew, ffrïwch y nionod a’r pancetta / darnau bacwn, cyn dychwelyd y cig eidion i’r ddesgyl. Taenwch y blawd dros y gymysgedd cyn troelli’n dda â llwy bren, gan adael i’r blawd amsugno’r suddoedd i gyd.

Ychwanegwch lasied o win coch, yna troellwch y gymysgedd, cyn ychwanegu glasied arall. Ychwanegwch y garlleg, deilen llawryf, halen a phupur a theim sych, a chymysgwch yn dda.

Yna, ychwanegwch y nionod shallots a’r fadarchen Portabello wedi’i sleisio’n ddarnau, a chymysgwch yn dda.

Ychwanegwch hyd at 1 glasied arall o win coch, cyn gosod caead ar y ddesgyl, a’i adael i ffrïo ar wres isel am 3 awr. Cyfle i gael bath, neu fynd am dro, neu ddarllen y papurau Sul!
3 awr yn ddiweddarach a bron yn barod i weini…

Rhyw hanner awr cyn y bydd yn barod, paratowch eich llysiau. Mae tatws newydd, neu datws stwnsh yn wych gyda’r pryd cyfoethog hwn, ac fe wes i ei fwynhau gyda thatws stwnsh a chennin wedi’u stemio, ar ôl gadael hanner y Boeuf Bourguignon ar stepen drws Dad! Bon apetit xxx