
Ges i gynnig difyr iawn gan griw Tafwyl ganol mis Mai, wrth iddynt baratoi arlwy Tafwyl Digidol (Mehfin 20fed) eleni; a fydde diddordeb gen i baratoi fideo yn egluro sut i greu Fizz Ysgawen, er mwyn i wylwyr fwynhau arlwy yr ŵyl ar-lein tra’n sawru diod o flodau dinesig! Bydde, medde fi, â bant â mi i fynd ar grwydr yn fy milltir sgwâr ym Mhenylan a chasglu llond llaw o’r blodau, sydd yn eu tymor tan ddiwedd Mehefin.
Mae’r rysait isod yn un syml, ac yn creu 3 litr o ‘win’ pefriog, ond byddwch yn ymwybodol fod y broses yn cymeryd rhai dyddiau. Mae wir werth mynd amdani, fodd bynnag, ac mae’n ffordd hyfryd o ystyried eich milltir sgwâr o’r newydd.
Cliciwch yma i weld y fideo ar wefan Tafwyl, ac isod mae’r rysait.
Swigod ’Sgawen

Cynhwysion

8 o Flodau’r Ysgaw (8 ‘pen’ llawn petalau gwynion)
3 Litr o Ddŵr Oer
Sudd 1 Lemwn
Croen 1 Lemwn
465g o Siwgwr
4Llwy De o Finegr Gwin Gwyn (neu Finegr Seidr)
Dull
Diwrnod 1

Pigwch 8 o flodau’r ysgaw a gwaredwch y coesynau gwyrdd deiliog.
Yn gyntaf, ysgwydwch y blodau’n dda, i sicrhau nad oes pryfaid wedi glynnu i’r petalau. Estynnwch ddesgyl sy’n ddigon mawr i ddal dros 3 litr o hylif- fe wnaiff ddesgyl caserôl y tro yn iawn.
Gosodwch y blodau ar waelod y ddesgyl, ynghŷd â’r croen a sudd lemwn a’r finegr gwin gwyn (neu finegr seidr). Yna, tywalltwch 3 litr o ddŵr oer dros y cyfan, cyn arllwys y siwgwr i’r ddesgyl yn ogystal.
Troellwch y gymysgedd tan fydd y siwgwr wedi toddi’n llwyr, yna gorchuddiwch y ddesgyl â lliain ysgafn.
Gosodwch y ddesgyl mewn man oer a thywyll (fel cwpwrdd) am 24 awr. Trowch y gymysgedd bob hyn a hyn i annog y broses eplesu (fermentation).
Diwrnod 2
Gosodwch ridyll (sieve) dros bowlen fawr, cyn rhidyllu’r gymysgedd.

Fe ddylai’r bowlen gynnwys 3 litr o hylif melyn golau yn unig. Arllwyswch yr hylif i jwg, yna estynnwch 2 botel plastig mawr sy’n dal 2litr o hylif yr un (e.e. poteli dŵr).
Gosodwch dwndis neu dwmffat yng ngwddf y potel blastig gyntaf, gan arllwys yr hylif hyd at dri chwarter y botel. Gwnewch yr un peth gyda’r ail botel blastig. Os ydych chi’n defnyddio poteli plastig o feintiau eraill dylech sicrhau eich bod yn gadael 5cm o ofod rhwng yr hylif a chaead y potel.

Caewch y poteli, cyn eu gosod mewn man oer a thywyll am wythnos, o leiaf.
Mae’r broses eplesu (fermentation) yn cynhyrchu nwy, gan olygu y bydd y poteli yn ehangu ac yn teimlo’n dynn, felly unwaith y diwrnod dros y dyddiau nesaf agorwch gaead y poteli yn ofalus i ryddhau’r nwy. Dylech glywed sain yr hylif yn dechrau pefrio dros y dyddiau nesa, ond os na, ychwanegwch binsiad (chwarter llwy de) o furum sych i hylif y poteli.
Diwrnod 7
Wedi wythnos yn eplesu yn y poteli dylai’r ‘Swigod ’Sgawen’ fod yn barod i’w gweini yn syth o’r poteli plastig – byddant yn cynnwys tua 1.5% o alcohol. Neu, i greu argraff arbennig, arllwyswch yr hylif pefriog i 3 potel gwydr 1ltr yr un neu 6 potel 500ml (sy’n addas ar gyfer eplesu), yn ofalus trwy dwmffat, gan ofalu i beidio gor-lenwi.
Bydd yr hylif yn parhau i eplesu yn y poteli, felly gwell yfed o fewn rhai dyddiau/wythnosau, neu byddwch yn wyliadwrus os am eu cadw’n hirach na hynny.

Rhannwch y poteli gyda ffrindiau da, a mwynhewch. Iechyd da!
