
Un o’r coctels nos Wener diweddaraf i mi’i greu oedd un â waw ffactor go iawn yn perthyn iddo. Mae’r prif gynhwysion yn rhai syml, ond mae’r canlyniad yn drawiadol, fel y gwelwch yn y llun! Yr hyn efallai sy’n wahanol yw’r gwirodyn sylfaenol, sef Pisco – sef ‘hummus’ y byd coctels!
Na phoener, nid oes corbys – neu chickpeas – ar gyfyl y rysait, er bod chwa bach ‘daearol’ yn perthyn iddo. Fel yn achos y Dwyrain Canol, a’r ddadl danbaid dros pa wlad yn union sy’n hawlio hummus, mae dwy wlad yn Ne America yng ngyddfau’i gilydd dros Pisco Sur.

Gwirodyn tryloyw, eau de vie a brandi clir, yw Pisco, gaiff ei ddistyllu o rawnwin yr Andes. Caiff ei gynhyrchu fry ym mynyddoedd Chile a Pheriw, ac mae’n ddiod cenedlaethol y ddwy wlad. Ond dim ond ym Mheriw y ceir y dathliad blynyddol ‘Día del Pisco Sour’ ar ddydd Sadwrn cyntaf pob mis Chwefror, a diwrmod cenedlaethol Pisco ym mis Gorffennaf. Ymddengys hefyd mai yn Lima, prifddinas Periw y cafodd y Pisco Sour ei ddyfeisio yn y 1920au.
Felly beth sydd mor arbennig am y Pisco Sur, a’i flas nid anhebyg i Margarita? Wel yn goron ar y ddiod y mae haen o ewyn gwyn, sef gwynwy a gymysgir yn y cocktail shaker.
Ar ben hynny taenir ysgwydiad o ‘Bitters’ Angostoura i ychwanegu chwa o flas y pridd! Coeliwch nu beidio, mae’r hyfrydbeth hwn yn hawdd iawn i’w greu,’mond bod angen nerth bôn braich i roi shigwdad da i’r Pisco Sur!
Pisco Sur

Cynhwysion
2 fesur Pisco
1 Mesur Gwynwy
1 Mesur Surop Syml
1 Mesur Sudd Leim
Ysgwydiad o Bitters Angostoura
Rhew
Dull
Paratowch surop syml o flaen llaw. Mae’n gynhwysyn eithriadol o handi yn yr oergell ar gyfer pob math o goctels. Yn syml, mae angen berwi yr un pwysau o ddŵr ag o siwgwr (e.e. 400g o ddŵr a 400g o siwgwr) tan y bydd y siwgwr yn toddi’n llwyr yn y sosban, yna diffoddwch y gwres, cyn botelu’r surop syml, a’i gadw yn yr oergell am hyd at fis.
Gwahanwch y gwynwy oddi wrth y melynwy – un fford syml ydy i dorri ŵy ar blât yn ofalus, cyn gosod ecob am ben y melynwy, a thywallt y gwynwy o’i gwmpas i fowlen bach. Arllwyswch y melynwy i flwch bach, a’i gadw yn yr oergell am rai oriau – bydd yn iawn ar gyfer eich brecwast drannoeth.
Gwasgwch 2 leim i greu 1 mesur sudd leim, felly lluoswch er mwyn creu mwy nag un Pisco Sur.

Arllwyswch y sudd leim, 1 gwynwy, ac 1 mesur surop syml, ynghyd â 2 fesur Pisco a llond llaw o rew i fewn i ‘cocktail shaker’ cyn gosod caead y ‘shaker’ yn dynn. Ysgwydwch am hyd at funud. Arllwyswch yr hylif yn syth i’ch hoff wydr coctel – ewyn ysgafn y gwynwy fydd yr elfen olaf i gael ei arllwys ar ben y sudd.
Yna ysgwydwch y botel Bitters Angoura yn sydyn dros y coctel gan adael smotiau oren ar arwyneb yr ewyn gwyn. Sawrwch yn syth. Salud!