
Mae’n ddiwrnod cenedlaethol y Mojito heddiw, mae’n debyg, ac felly bydda i’n trafod y coctel o Giwba ar raglen Cat a Carl ar BBC Radio Cymru ar ôl 4yh ar BBC Radio Cymru, Gorffennaf 11eg, 2020.
Gyda’r haul yn tywynnu ar y gorwel, a mintys yn yr ardd, dim ond un coctel oedd ar fy meddwl ar gyfer ‘Amser Cwarantini’ yr wythnos hon – y Mojito.
Mae’n ddiod ffantastic ar ddiwrnod braf, gan gynnwys blasau chwerwfelys siwgwr a leim, a phersawr mintys ffres o’r ardd.
Daw’n wreiddiol o Giwba – y prif alcohol yw rum, gwirodyn a ddistyllir o siwgwr cansen yr ynys. Ceir sôn mai morwyr a greodd fersiwn cynnar y ddiod, gan gyfuno rum a siwgwr yr ynys gyda sudd leim i osgoi scurvy, a’r dail mintys i guddio blas cas ‘dŵr tân’ y rum. Ond efallai mai’r lleoliad enwocaf sy’n gysylltiedig â’r Mojito yw bar La Bodeguita Del Medio ym mhrifddinas Ciwba, Hafana.

Bues i’n ffodus i sawru Mojito yno gyda fy chwiorydd yn 2004, cyn galw ym mar El Floridita gerllaw am Daiquiri. Mae’r ddau yn atyniadau poblogaidd gydag ymwelwyr i Hafana, gan mai yno, mae’n debyg, yr yfai Ernest Hemingway, yr awdur a’r anturiaethwr mawr oedd hefyd yn yfwr chwedlonol. Bu’n byw gyda’i drydedd a’i bedwaredd wragedd yng Nghiwba, ac arferai yfed Mojitos ar ei gwch, Pilar, pan oedd ganddo benmaenmawr.
Uwchben y bar bach yn La Bodeguita Del Medio ceir darn o bapur wedi’i fframio; arno mae geiriau a sgwennwyd gan Ernest Hemingway – ‘My Mojito in La Bodeguita, my Daiquiri in El Floridita’.
Ceir sôn mai ffuglen pur yw hynny gyda llaw… ond pam sbwylio stori dda? Mae’r ynys, gyda llaw, yn un o’r llefydd gorau i mi’i profi erioed, gyda Hafana yn ddinas gwbl unigryw; roedd rhyw hagrwch hardd i brofi ym mhob man, ceddoriaeth gitâr a phobol hyfryd tu hwnt.





Cyn gadael yr ynys, prynais botel rum Havana Club 3 oed, yr hyn a weinir yn La Bodeguita Del Medio.

Cofrodd yn unig yw hwnnw bellach, nawr fod y botel yn wag, felly defnyddiais y rum tywyllach o Gymru, Barti Ddu, a bedyddio’r mojito hwn yn Barti Dda!

Mojito ‘Barti Dda’

Cynhwysion
Sudd 2 Leim
Llwy Fwrdd o Siwgwr Brown Ysgafn
Llond Llaw o Ddail Mintys Ffres
1 Mesur Rum Barti Ddu
2 Fesur Dŵr Soda
Rhew

Dull
Arllwyswch y sudd leim a siwgwr i wydr tal (‘highball’) os yn bosib, cyn ychwanegu’r dail mintys.
Troellwch y cynhwysion yn ysgafn, er mwyn rhyddhau olew’r mintys.
Yna, arllwyswch y rum a’r dŵr soda, cyn ychwanegu’r rhew. Trowch y cyfan unwaith eto cyn gweini â gwelltyn neu fintys ffres. ¡Salud!