Amdanaf i

BC3A127E-0FE8-4BD7-8964-99084CCF3579(Llun: Emyr Young)

Awdur o Benylan, Caerdydd. Dwi’n sgrifennnu ac yn darlledu ar y radio a’r teledu, yn dilyn 11 mlynedd yn ymchwilio a chynhyrchu rhaglenni gyda BBC Radio Cymru. Rydw i hefyd yn olygydd ar gylchgrawn Taste / Blas, sy’n dathlu bwyd a diod ledled Cymru.

img_1715

img_8858

Fy llyfr diweddaraf, a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2018, yw Bwytai Cymru (Gwasg Gomer), ac mae modd ei brynu yma.

83617EED-7CF8-4D38-9938-B37621EE984A

img_8597

Yn 2012, cyhoeddwyd fy nghyfrol gyntaf, Canllaw Bach Caerdydd (Gwasg Gomer), yna yn 2014,  Pobol y Cwm – Pen-blwydd Hapus 40 (Gwasg Gomer). Dilynwyd hyn yn 2016, gan Caffis Cymru (Gwasg Gomer).

image

Ar ôl dilyn gradd mewn Daearyddiaeth a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, enillais radd M.A. mewn Theatr, Ffilm a Theledu.

Dwi’n adolygu ffilmiau’n rheolaidd ar raglenni S4C a BBC Radio Cymru ac ar y blog hwn, yn dilyn 5 mlynedd o gyhoeddi adolygiadau ar wefan BBC Cylchgrawn

image

Dwi wedi llywio sesiynau holi gydag enwau mawr yn y diwydiant yng Nghymru, gan gynnwys Rhys Ifans, yn dilyn dangosiad ar ran BAFTA Cymru, a noson arbennig yng nghwmni aelodau cast Pobol y Cwm i i ddathlu pen-blwydd y gyfres yn 40 oed.

Lowri Cooke, Jake Chapman, Colin Vaines & Rhys Ifans - BAFTA Cymru

Lowri Cooke gydag Arwyn Davies (Mark Jones), Siw Huws (Kath Jones) a Shelley Rees-Owen (Stacey Jones) - llun gan Emyr Young

Ro’n i’n un o feirniaid gwobr Welsh Music Prize 2015-16, ac yn aelod o reithgor BAFTA Cymru,  ynghyd a Gwyl Ffilm Ryngwladol Iris yn 2014 a 2012.  Cyflwynais seremoni wobrwyo gyntaf Gwyl Ffilm Bae Caerfyrddin yn 2012. Bues i’n gadeirydd ar bwyllgor Cymraeg Gwobrau Theatr Cymru rhwng 2013 – 2018.

img_1930(Llun: Robert Melen)

Roeddwn i hefyd yn aelod o banel beirniadu Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2014, gyda Gareth Miles ac Eurig Salisbury.

EmyrYoung_Beirnniaid2014_LC_001 (1)(Llun: Emyr Young)

Yn fwy diweddar, ro’n i’n feirniad y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, 2017.

Lowri Haf Cooke

Dwi hefyd yn cyfrannu erthyglau bwyd a chelf i gylchgawn Barn, papur bro Y Dinesydd a chylchgrawn Red Handed. Cyn hynny, bum yn cyfrannu adolygiadau llên i gylchgrawn Taliesin, ac yn un o gyfranwyr gwreiddiol blog diwyllianol Y Twll.

Ym mis Mawrth 2013 enillais un o ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru i ddilyn hanes Cymro colledig yng Nghaliffornia. Dychwelais i’r dalaith yn 2014 ac mae’r ymchwil yn parhau.

Yn 2011 ces fy nerbyn i Raglen Ddatblygu Beiriniaid Celf Cymru dan ofal Celfyddydau Rhyngwladol Cymru; rydw i bellach yn cynnal gweithdai adolygu, a sesiynau chwedloniaeth Cymru gyda grwpiau ac mewn ysgolion ledled Cymru.

Lowri Haf Cooke - Blodeuwedd

Dwi’n casglu celf o Gymru, yn hoff iawn o goginio ac yn ffan mawr o gerddoriaeth, llenyddiaeth a’r theatr. Dwi hefyd yn dwlu ar deledu da, ac ar deithio rhyngwladol pan fo ‘nghyllideb yn caniatáu.

Hoff Ddinasoedd: Caerdydd, Dulyn, Efrog Newydd, Havana, Stockholm, Miami, Berlin, Melbourne, Copenhagen, Paris, Barcelona, Oslo, San Francisco, Donostia, Istanbul, Fflorens, Fenis, Los Angeles

Lle Nesa? Lisbon

image

Dinasoedd Fy Mreuddwydion: Hong Kong, Reykjavik, Modena, Buenos Aires, Marrakech, Sydney, Tokyo, Jaipur, Milan, Petra, Budapest, Montreal

Manylion Cysylltu: lowri.cooke@live.co.uk

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s