Archifau Categori: Cegin Lowri

Cegin Lowri: Mojito ‘Barti Dda’

Mae’n ddiwrnod cenedlaethol y Mojito heddiw, mae’n debyg, ac felly bydda i’n trafod y coctel o Giwba ar raglen Cat a Carl ar BBC Radio Cymru ar ôl 4yh ar BBC Radio Cymru, Gorffennaf 11eg, 2020. Gyda’r haul yn tywynnu … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Cegin Lowri, Tafarn/ Bar | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Rhosliw Rhewllyd

Gorffennaf! Mis mabolgampau, gwylie haf, a phencampwriaeth tenis Wimbledon! Mae’n flin gen i, gyfeillion. Maddeuwch fy ansensitifrwydd – ymddengys fy mod i’n sownd mewn capsiwl amser o 1988. Wel os na cha i gystadlu mewn ras ŵy ar lwy, na … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri, Tafarn/ Bar | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Enchiladas

Gyfeillion, mae gen i gyfrinach… rysait dwi di’i guddio i mi fy hun. Ond dros y misoedd diwethaf, dwi wedi troi ato fwy nag unwaith am ginio sy’n berffaith ar benwythnos. Mae’n bryd bwyd lliwgar, llawn hwyl, ac mae’r blas … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Pisco Sur

Un o’r coctels nos Wener diweddaraf i mi’i greu oedd un â waw ffactor go iawn yn perthyn iddo. Mae’r prif gynhwysion yn rhai syml, ond mae’r canlyniad yn drawiadol, fel y gwelwch yn y llun! Yr hyn efallai sy’n … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri, Tafarn/ Bar | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Moliant i’r Madarch ar Dôst!

Fel cogyddes, fel bwytwraig, ac fel awdur sgwennu bwyd, dwi’n ymfalchio yn y ffaith y gwna i fwyta ac yfed unrhywbeth! Bwytais falwod ym Mharis, yfais Raki yn Istanbul, a llowciais Tripe (ymysgaroedd) mewn bwyty yn rhanbarth Tseineaidd dinas Toronto, … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Swigod ’Sgawen

Ges i gynnig difyr iawn gan griw Tafwyl ganol mis Mai, wrth iddynt baratoi arlwy Tafwyl Digidol (Mehfin 20fed) eleni; a fydde diddordeb gen i baratoi fideo yn egluro sut i greu Fizz Ysgawen, er mwyn i wylwyr fwynhau arlwy … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri, Delweddau o'r Ddinas, Tafarn/ Bar | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Machlud Pinc

A hithe eto’n gaddo haul ar gyfer penwythnos gŵyl y banc, ffansiais flas gwahanol ar gyfer fy Nghwarantini wythnosol ar nos Wener. Ydy, mae’r Machlud Pinc yn mynnu cam ychwanegol (24 awr o flaen llaw) o ran paratoi, ond coeliwch … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri, Tafarn/ Bar, Uncategorized | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Potes Cig Oen

Ffefryn mawr efo’r teulu ers blynyddoedd mawr ydy’r potes (hot-pot) cig oen eithriadol o flasus hwn. Dwi’n credu i Mam ffeindio’r rysait gyntaf mewn taflen Hybu Cig Oen Cymru, a dros y blynyddoedd dwi wedi’i addasu rhyw fymryn i ychwanegu … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Negroni Eirin

Roedd yr Eidal, yn amlwg, ar fy meddwl gryn dipyn dros y penwythnos gan mai fy nghoctel nos Wener diweddaraf oedd Negroni Eirin. Mae gen i far bach yn y gegin sy’n llawn gwirodydd o fy nheithiau, cyfnod dathlu’r Nadolig, … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri, Tafarn/ Bar, Uncategorized | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Wylys, wylys, Parmesan

Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer fy Swper Sadwrn diweddaraf o weld bod wylys (aubergines) ar bris gostyngol ar fy stondin farchnad leol yr wythnos hon! Fel gweithiwr rhyddgyfrannol dwi’n cadw at gyllideb ers blynyddoedd, a dim ond annog creadigrwydd yn … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri | Rhowch sylw