Archifau Categori: Theatr

Adolygiad Theatr: Tylwyth (Theatr Genedlaethol Cymru)

Adolygais ail gynhyrchiad Llwyth yng Ngwyl Ymylol Caeredin ar gyfer BBC Cymru ym mis Awst 2011. Sôn am wthnos uwch-naturiol i lansio drama ddilyniannol i ffenomenon theatrig mwyaf Cymru erioed. Ro’n i wir rhwng dau feddwl ynglyn â mynd i … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Theatr | Rhowch sylw

Adolygiad Theatr: Nyrsys (Theatr Genedlaethol Cymru)

Mae canser yn ein cyffwrdd ni gyd y dyddiau hyn; ffaith arswydus ond cwbl ddiymwad. P’run ai’n aelod o’r teulu, yn gydnabod neu’n ffrind, neu hyd yn oed yn glaf eich hun; yr eiliad ceir diagnosis, ry’ chi’n myned byd … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Theatr | Rhowch sylw

Adolygiad Theatr: Dwyn i Gof (Theatr Bara Caws)

Yn 2016, aeth holidaur yn y New York Times yn ‘feiral’ gan ymledu dros  y cyfryngau cymdeithasol. Dan sylw oedd 13 cwestiwn y dylai pawb sy’n ymrwymo i briodas, yn y gymdeithas sydd ohoni,  eu hateb. Yn eu plith, ‘beth … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Theatr | Rhowch sylw

Adolygiad Theatr: Tuck (Neontopia, mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru)

‘Slay, Girl!’, ‘Werk’, a ‘Yaaas Kween’ – tri dywediad pur gyffredin erbyn hyn. Os na glywsoch chi’r un ohonynt yn eich byw, byddai’n werth ystyried cyngor euraidd y 5 Gs; ‘Good God Girl, Get a Grip’. Maent yn deillio’n uniongyrchol … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Theatr | Rhowch sylw

Adolygiad Theatr: Fel Anifail (Theatr Sherman)

Fe fynn y gwir ei le, medde nhw, ond pwy sydd i farnu beth sy’n wir ai peidio?  Dros y ddwy flynedd ddwetha daeth y gwirionedd dan warchae, a defnyddiwyd celwydd fel arf wleidyddol. A rhwng technegau maleisus Rwsia, shambls … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Theatr | Rhowch sylw

Adolygiad Theatr: Milwr yn y Meddwl (Eisteddfod Genedlaethol Cymru & Theatr Sherman & Theatr Genedlaethol Cymru)

Sut mae dehongli drama sydd, ar bapur, yn llawn elfennau llwyddiannus, ac eto – o’i brofi yn y cnawd – yn eich diflasu? Aeth penwythnos hir heibio ers i mi brofi Milwr yn y Meddwl, a dwi wedi methu’n lân … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Theatr | Rhowch sylw

Adolygiad Theatr – Rhybudd: Iaith Anweddus (Eisteddfod Genedlaethol Cymru & Cwmni’r Frân Wen)

ân  ‘Full disclosure’ yn gyntaf – dwi’n ffan mawr o lenyddiaeth Llwyd Owen, sy’n cynnwys nifer o nofelau ditectif, dehongliadau dychmygol o ‘isfyd’ Caerdydd a’r cyffiniau, mewn llais cras acen Gymraeg y Brifddinas. Aethon ni i’r un Ysgol Sul, Ysgol … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Llenyddiaeth, Llyfrau, Theatr | Rhowch sylw

Adolygiad Theatr: Gair o Gariad (Theatr Bara Caws) – Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Mae’n gwneud synnwyr pur i mi fod Theatr Bara Caws yn ail-lwyfannu Gair o Gariad wythnos ’steddfod. Oes na un achlysur arall yn niwylliant yr iaith Gymraeg sy’n ymdebygu i fformat ffilm Love Actually? Mae’r ‘Maes’ blynyddol ei hun yn … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Theatr | Rhowch sylw

Adolygiad Theatr – Anweledig (Cwmni’r Frân Wen) – Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Wedi dwy sioe un-dyn, dyma brofi sioe un ddynes, yn sgil coroni’r Prifardd newydd Catrin Dafydd. Ond nid  dynes gyffredin oedd dan sylw Anweledig, ym mhenllanw cynhyrchiad iasol Cwmni’r Frân Wen. ‘Dynas Debenhams’ fu Glenda (Ffion Dafis) erioed yn ôl … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Theatr | 1 Sylw

Adolygiad Theatr: Sieiloc (Miles Productions) – Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Sut goblyn mae e’n llwyddo, i gofio pob gair… yn chwys i gyd,  a phob anadl yn ei le? Os da chi’n chwilio am wefr, a pherfformiad tan gamp ar lwyfan yng Nghanolfan y Mileniwm, yna ewch ar eich union … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Theatr | Rhowch sylw