Cegin Lowri: Machlud Pinc

A hithe eto’n gaddo haul ar gyfer penwythnos gŵyl y banc, ffansiais flas gwahanol ar gyfer fy Nghwarantini wythnosol ar nos Wener. Ydy, mae’r Machlud Pinc yn mynnu cam ychwanegol (24 awr o flaen llaw) o ran paratoi, ond coeliwch chi fi, mae werth bob tamed o chwys, a gallwch ei fwynhau gyda’r ddiod gadarn neu ar ffurf ‘ffug’-goctel di-alcohol.

Mae’n rhaid i chi, fel fi, fodd bynnnag, GARU blas grawnffrwyth pinc neu goch i fwynhau hwn yn iawn. Mae’n ffrwyth perffaith dros frecwast, gan ddeffro’r system yn llawn, a chwipio’r dafod gyda’i chwa chwerwfelys gyda’r coctel hwn 12 awr wedi toriad gwawr!

Digon gwir, gallwn fod yn Aberystwyth neu Zanzibar yn llymeitian ar draeth pellennig fy mreuddwydion, ond i mi, mae’r coctel hwn fel sawru un o’r machludoedd pinc perffaith a ddisgynodd yn ddiweddar dros ffurfafen fy ngorwel innau, Parc y Rhath! 💕

Machlud Pinc

Cynhwysion

2 Grawnffrwyth Pinc / Coch

100g Siwgwr

50ml Dŵr

250ml Dŵr Tonic

Blwch Maint Canolig

O’r gorau! Y cam cyntaf yw creu sorbet grawnffrwyth pinc! Na phoener, gyfeillion, mae’n andros o hawdd, anhygoel o flasus, ac – os oes ganddoch rewgell siwpyrsonic – fe allech chi adael y cam hwn tan fore’ch awr goctel ddiwedd y prynhawn. Mae fy rhewgell bach i, fodd bynnag, braidd yn oedrannus ac yn mynnu 24 awr o baratoi o flaen llaw, ac i arbed siom, bydden i’n argymell hyn bethbynnag. Wir i chi, mae werth aros amdano!

I ddechrau felly, gwasgwch sudd 2 grawnffrwyth…

Byddant yn debygol o gynhyrchu digon o sudd i lenwi cwpan.

Yna, estynwch sosban a toddwch y siwgwr yn y dŵr, a dewch â’r gymysgedd i’r berw.

Yna, diffoddwch y gwres, a gadewch i’r gymysgedd oeri. Dyma’ch surop syml – cynhwysyn handi yn yr oergell ar gyfer bob math o goctels.

Estynwch flwch maint canolig, a rhidyllwch y sudd grawnffrwyth, gan ddefnyddio rhidyll (sieve) dros fowlen.

Yna tywalltwch y sudd grawnffrwyth yn y blwch, gyda’r surop syml a 250ml o ddŵr tonic. Gosodwch gaead ar y blwch a gosodwch yn y rhewgell.

Crafwch fforc drwyddo gwpwl o weithie – unwaith cyn amser gwely, ac unwaith ar ôl deffro drannoeth – i greu ‘crisialau’ yn lle bod y sorbet yn ymddangos fel ‘blocyn’ o rew lliw pinc! Drannoeth, pan fydd y cloc yn taro ‘amser Cwarantini’, estynwch y blwch o’r rhewgell, ac wele, grisialau pinc perffaith!

Estynwch hoff wydryn (gwydr Martini os yn bosib), a phentyrrwch â’r sorbet grawnffrwyth pinc.

Os am lwyrymwrthod tro ma, estynwch lwy ac ewch amdani, a’i sglaffio fel hufen iâ. Neu ychwanegwch fesur o jin, ac yfwch y Machlud Pinc fel Daiquiri, a joiwch tan y wawr!

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri, Tafarn/ Bar, Uncategorized | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Potes Cig Oen

Ffefryn mawr efo’r teulu ers blynyddoedd mawr ydy’r potes (hot-pot) cig oen eithriadol o flasus hwn. Dwi’n credu i Mam ffeindio’r rysait gyntaf mewn taflen Hybu Cig Oen Cymru, a dros y blynyddoedd dwi wedi’i addasu rhyw fymryn i ychwanegu garlleg, rhosmari, a gwin at y stoc.

Mae na rywbeth gwerinol, a syml am y saig, sy’n cynnwys blasau’n ‘cawl’ cenedlaethol mewn ffordd wahanol. Ac mae’n gweithio pob adeg o’r flwyddyn – yn wir, mae’n ymgorffori blas gwannwynaidd cig oen gyda llysiau pridd yr hydref a’r gaeaf. Rhannais y potes yn bedwar i rannu ag aelodau’r teulu (fi ’di Deliveroo y Cookes ar ddydd Sul!), ac yn wir, fe blesiodd pob aelod! (Mae hyd yn oed yn well drannoeth OS oes sbarion! Wedi’r cyfan, potes eildwym sydd orau 😉)

Potes Cig Oen

Cynhwysion

500g Darnau Ysgwydd Cig Oen (di-asgwrn)

3 Darn Cig Moch neu Pancetta

50g Menyn

25g Blawd Plaen

3 Gewin Garlleg mân

1 ciwb Isgell (stoc) Cig Oen mewn 125ml o ddŵr

Glasied o Win Gwyn Sych

3 Deilen Rhosmari

Hanner Llwy Fwrdd o Bupur

Pinsiad o Halen y Môr

750g o Hen Datws

2 Genhinen

Hanner Sweden / Rwdan

2 Foronen

Dull

Yn gyntaf, paratowch y llysiau: pliciwch yr hen datws, y moron a’r hanner sweden/rwdan, a’u torri mewn sleisiau tenau, yna torrwch y cennin yn ddarnau 1cm.

Parthed y cig, gofynnwch y cigydd i dorri’r ysgwydd cig oen yn ddarnau, neu darniwch y cig eich hun â chyllell finiog. Trowch y popty ymlaen ar wres 180 gradd Selsiws.

Estynwch ddesgyl caserôl, a ffrïwch y darnau cig oen a’r cig moch mewn 25g o fenyn ar wres cymhedrol. Pan fydd y cig oen wedi dechrau brownio, ychwanegwch y blawd a chymysgwch yn dda gyda llwy bren.

Yna ychwanegwch y garlleg mân a ffrïwch ymhellach am funud. Ychwanegwch yr isgell (stoc) cig oen (a gymysgwyd eisioes mewn 125ml o ddŵr), y gwin gwyn, 2 ddeilen rhosmari a phupur, a gafewch i’r hylif ‘leihau’ am 5 munud.

Diffoddwch y gwres, a dechreuwch gyflwyno’r llysiau mewn haenau.

Dechreuwch gyda’r cennin…

Yna’r sweden / rwdan…

Yna’r moron… (hei, paid a galw fi’n moron!)

Yn olaf, ond nid leiaf, gosodwch y tatws ar yr haenen uchaf. Taenwch halen a phupur a dail rhosmari dros y potes, a’r 25g olaf o fenyn mewn darnau dros yr arwyneb.

Gosodwch y potes yn y popty am 45 munud – gyda ffoil neu bapur pobi ar ei ben.

Ymhen 45 munud, tynnwch y gorchudd, a gadewch i’r potes bobi ymhellach am hyd at hanner awr (neu’n hirach, yn dibynnu ar eich popty), nes fod y tatws yn lliw euraidd.

Pan fydd yn barod, estynwch lwy fawr, gan weini’r potes ar blât, a mwynhewch!

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Negroni Eirin

Roedd yr Eidal, yn amlwg, ar fy meddwl gryn dipyn dros y penwythnos gan mai fy nghoctel nos Wener diweddaraf oedd Negroni Eirin.

Mae gen i far bach yn y gegin sy’n llawn gwirodydd o fy nheithiau, cyfnod dathlu’r Nadolig, a hefyd o fod yn casglu ffrwythau ar gyfer creu jins lliw rhuddem adeg y cynhaeaf. Dyma’r ffrwythau a gasglais y llynedd…

Ynghyd â’r jin eirin tagu (sloe gin) dwi’n gwneud ers blynyddoedd, dyma fentro creu jin eirin (damson) ym mis Medi y llynedd hefyd. Dwi’n rhewi’r eirin am ddiwrnod, yna’n eu gosod mewn jar mawr gyda jin, a’i adael tan fis Rhagfyr. Mae eraill yn ychwanegu siwgwr, ond yn bersonol, mae hynny’n rhy felys i mi. Dwi wir yn hoffi’r blas chwerwfelys naturiol y gallaf ei baru yn syml â thonic.

Gyda hanner jar o’r jin eirin yn weddill ers Nadolig, nes i ystyried pa goctel allen i greu ar nos Wener ganol mis Mai, y bydde bach fy cyffrous na’r G&T arferol. Yr ateb; Negroni Eirin!

Mae’r clasur Eidalaidd hwn yn ffasiynol ers rhyw ddegawd bellach – darllenais amdano gyntaf yng ngholofn coctels (!) y San Francisco Chronicle tra’n ymweld â’r ddinas honno yn 2013. Denwyd fy chwilfrydedd gan y cyfuniad o Jin, Vermouth aperitif ‘Bitters’ a chwa o oren, ynghyd â’r rhybudd: mae un yn hen ddigon!

Bu’n rhaid i mi ei flasu, ac felly dyma’r Negroni cyntaf i mi ei yfed ym mar Art Deco gwesty Topof The Mark, San Francisco yn 2013.

Sôn am olygfa! Ac am flas hynod wahanol, nid anhebyg i ffisig neu sinamwn ar y profiad cyntaf, ond a ffeindiais yn ei grefu o bryd i’w gilydd. Darllenwch y blogbost cyfan am hynny yma.

Rai misoedd yn ddiweddarach, es i a fy chwiorydd â Mam am benwythnos i Torino yng Ngogledd yr Eidal, cartref gwirodydd chwerw fel Campari, Aperol, a Cynar. Yn naturiol, cawsom flas ar y Negroni yno hefyd!

Ac ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno ges i’r Negroni gorau eto, yng nghwmni’r teulu ym Mwyty Mawddach, Llanelltyd, yn sawru’r machlud dros Gader Idris yn yr awyr agored, Bendigedig!

Ac y llynedd, ar achlysur pen- blwydd fy chwiorydd, es i â nhw i gartref ysbrydol y Negroni yn Llundain, sef Bar Termini yn Soho.

Dyma nhw… yn yfed Espresso Martinis! 😆

Ta waeth… nol at toc ar ôl 6 ar nos Wener, ‘amser Cwarantiti’, a chasglu’r cynhwysion at ei gilydd. Cofiwch, da chi, i bwyllo gyda’r Negroni. Mae un yn hen ddigon ar ddechrau’r noson… onibai bo chi ffansi dau!

Negroni Eirin

Cynhwysion

1 Mesur Jin Eirin (neu Jin Sych, os am Negroni clasurol)

1 Mesur Vermouth/Vermut Coch (Martini yw’r enwocaf ond ceir enwau eraill)

1 Mesur ‘Bitters’ Aperitif (Campari yw’r enwocaf, ond ceir enwau eraill)

Rhew

Cwrlen o Groen Oren

Dull

Estynwch wydr hardd – yn aml, gweinir Negroni mewn ‘tumbler’ gwydr – a gosodwch rew ynddo. Tywalltwch 1 mesur jin, 1 mesur Vermouth, ac 1 mesur Aperitif ‘ Bitters’ a chymysgwch â phren. Sylwer; ‘Stirred, not Shaken’! Yna gosodwch gwrlen croen oren ynddo. Yfwch, a mwynhewch – yn gymhedrol!

O.N. Wrth chwilota hen luniau, sylwais ar ddyddiad y blogbost ‘Merched y Ddinas yn Torino’. Union 7 mlynedd i wythnos dwethaf ❤️

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri, Tafarn/ Bar, Uncategorized | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Wylys, wylys, Parmesan

Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer fy Swper Sadwrn diweddaraf o weld bod wylys (aubergines) ar bris gostyngol ar fy stondin farchnad leol yr wythnos hon! Fel gweithiwr rhyddgyfrannol dwi’n cadw at gyllideb ers blynyddoedd, a dim ond annog creadigrwydd yn y gegin wnaiff hynny mewn gwirionedd.

Unwaith i mi fachu dau wylys, neidiodd fy meddwl yn syth i’r Eidal, at saig hynod flasus a weinir fel dechreufwyd, neu brif gwrs, sy’n creu argraff enfawr ar y sawl sy’n bwyta! Mae’n rysait sy’n deillio o Ogledd yr Eidal, lle buodd fy chwaer Catrin yn byw am gyfnod, a coeliwch chi fi, mae hi’n giamstar ar greu’r saig hwn ei hun. Mae’r cynhwysion isod yn creu digon ar gyfer 2 berson – felly dwblwch, er mwyn paratoi digon i 4. Cyflwynais hanner i Catrin i fwynhau dros ei chinio, ac ro’n i ar ben fy nigon i dderbyn neges whatsapp ganddi… ‘Mae’r Melanzane Parmigiana yn benigamp!! 😋. Grazie mille! xxx

Wylys, wylys, Parmesan

Cynhwysion

2 wylys (aubergine)

1 tun tomatos (400g) wedi’u torri

200g Caws Mozzarella wedi’i ddarnio

100g Caws Parmesan wedi’i gratio

2 Gewin Garlleg wedi’u gwasgu

Glasied o Win Coch

1 Llwy Fwrdd o Halen

Llwy De o Bupur

Llwy De o Oregano sych

Llwy De o Siwgwr

2 llwy fwrdd o Olew Olewydd

Llond Llaw o Dail Brenhinllys (Basil)

Briwsion Bara

Dull

Torrwch yr wylys (yn llyrhrennol, ‘eggplant’, fel y gelwir aubergine yn yr Unol Daleithiau) ar eu hyd yn sleisiau tenau. Taenwch halen drostynt a gadewch, mewn haenau, mewn gogor yn y sinc am hanner awr (bydd hylif yn diferu ohonynt).

Yn y cyfamser, estynwch ddesgyl caserôl a dechreuwch ffrïo 2 gewin garlleg wedi’u gwasgu (nes i eu bwrw â rholbren) am funud, mewn olew olewydd ar wres cymhedrol.

Yna, tywalltwch lasied o win coch a chynnwys tun tomatos wedi’u torri. Dewch â’r gymysgedd u’r berw, yna trowch y gwres i lawr. Ychwanegwch yr oregano sych, siwgwr, a phinsiad da o halen a phupur. Gadewch y gymysgedd i ffrwtian ar wres isel am 45 munud.

Ar ôl 45 munud, gadewch i’r saws tomato oeri, cyn cymysgu â chymysgydd llaw.

Wedi hynny, mewn ffrimpan, dechreuwch ffrïo’r sleisiau wylys fesul 4-5 darn, nes yn lliw euraidd…

… cyn eu gosod i sychu ar bapur cegin.

Estynwch ddesgyl rhostio, a dechreuwch osod mewn haenau; y saws tomato yn gyntaf, yn reit ysgafn, yna’r wylys, pinsiad o bupur, caws Parmesan a Mozzerella…

… ac ailadroddwch nes ddewch chi at yr haenen olaf o wylys.

Gorchuddiwch yr arwyneb â’r saws tomato. Yna, mewn powlen, cyfunwch 150g o friwsion bara gyda llond llaw o gaws Parmesan ac olew olewydd.

Gorchuddiwch arwyneb yr Wylys, wylys, Parmesan gyda’r gymysgedd briwsion bara, a gosodwch y ddesgyl rostio yn y popty ar wres 180 gradd Selsiws am hanner awr.

Wedi hanner awr, tynnwch y ddesgyl rostio o’r popty a gadewch i’r Wylys, wylys, Parmesan oeri ychydig cyn gweini â’r dail Bremhinllys (Basil). olto Bene! Bendigedig! Dyma swper i’r Frenhines! 👑

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Linguine Cranc

Wythnos cyn y ‘lock down’ ro’n i ar daith gwaith yng Ngogledd Cymru, yn teithio nol o Bortmeirion i Gaerdydd. Gan nad oeddwn ar frys aruthrol, penderfynais gymeryd tro hamddenol ar hyd arfordir Ardudwy, ble mae cymaint o hanes teulu Mam. Heibio garej Honda Talsarnau, lle brynodd Mam ei char cyntaf, a heibio’r Ynys, lle mae Anti Jini ac Yncl Griff – a’u hynafiaid i gyd – wedi’u claddu. Ymlaen, gan basio safle hen garej Yncl Griff yn Harlech, a ble chwaraewn efo Swsi, y ‘King Charles Spaniel’ annwyl, fel plentyn. Yna stopio ar hyd Ffordd Uchaf i sawru’r olygfa orau yng Nghymru, dros dwyni tywod Ardudwy tuag at Eifionnydd a Phen Llŷn. Ymlaen, heibio Llandanwg, trwy Lanfair a Dyffryn Ardudwy, heibio’r parciau carafanau rhwng Tal y Bont a Llanaber, lle fuodd Mam yn gweini’n ferch ifanc ac yn canu alwaon traddodiadol i ymwelwyr.

Wrth gyrraedd y Bermo, heibio‘r hen ‘Cardboard Castle’ (enw Mam a’i brodyr ar westy siâp sgwar Tŷ’r Graig), dyma nadreddu trwy’r strydoedd oedd eisioes yn dawel, at y traeth gogoneddus o faith.

Galwais i ddweud helo cyflym ar drothwy Ysgol y Traeth, ble ges i groeso cynnes gan y Brifathrawes a chyfle i gyfnewid barn am yr arswyd oedd i ddod. Treuliais fisoedd eithriadol o hapus yn gweithio yno y llynedd, a ble fuodd Taid Bala yn Brifathro am flynyddoedd mawr.

Yna pasio hen gartre Mam ar North Avenue, sy’n dal i lynnu at yr enw ‘Twyni’, cyn gyrru yn fy mlaen tuag at y cei, am un stop olaf yng ngaffi’r Lobster Pot.

Dyna fy nghyrchfan bob tro am granc ffres Pen Llŷn cyn dychwelyd i ddinas Caerdydd. Ond gyda’r strydoedd yn dawel, doedd dim galw am granc, a gadewais yn waglaw, yn deall yn iawn. Edrychais tuag at Fairbourne dros Bont y Fawddach, ble y collodd fy chwiorydd eu welingtons wrth gael eu dal yn y tywod (a’u hachub gan Dad) wrth i’r lanw droi flynyddoedd maith yn ôl…

Dilynais y ffordd heibio hen gapel Caersalem – lle y priododd fy rheini ym 1973. Yna ymlaen ar hyd y briffordd tua Bontddu Hall, lle gawson nhw eu brecwast priodas, cyn newid i’w gwisgoedd ‘going away’ (trouser suit swêd glas a blows pussy-bow felen Jaeger i Mam!) a chroesi o Gaergybi i Ddulyn y noson honno i dreulio eu mis mêl. ‘Diwrnod hapusaf fy mywyd’, medde Dad wrtha i, wrth hel atgofion ar ôl colli Mam yn 2014.

Nadreddais ymlaen ar y lôn ar hyd y Fawddach, gan basio mynydd Tyrrau Mawr ger Cadair Idris, a phont Pwll Penmaen islaw. Cofiais dyrchu i hanes trychineb y llong bleser a darodd y bont gan ladd 15 yn 1966, fel ymchwilydd i Radio Cymru yn 2010. A’r rhyfeddod o ddarganfod un a oroesodd y ddamwain (gweinyddes ifanc yng ngwesty George III ar y pryd), a gytunodd i sgwrsio ar raglen Cofio ar Radio Cymru, er nad oedd hi erioed wedi rhannu’r hanes yn gyhoeddus o’r blaen. Cofiais hefyd, tra’n ymchwilio i gyfrol Bwytai Cymru yn 2018, i mi groesi’r bont honno o Bwll Penmaen i Daicynhaeaf, tra’n rhedeg ar hyd Llwybr Mawddach, o Ddolgellau ac yn ôl. Ges i groesi am ddim, gan nad oedd gen i 20 ceiniog ar gyfer y tollborth. Bore da, o be gofia i!

Cyn ymuno â’r A470 ar gylchdro Llanelltyd (a nid nepell o byllau’r hen bont lle nofiais y llynedd) mae Bwyty Mawddach, lleoliad atgof arall hynod felys. Ym mhentre Portmeirion ceir cerflun o’r duw Groegaidd Atlas yn cario’r byd ar ei ysgwydd, ac arno mae cofeb i ‘Haf Hirfelyn Tesog 2013’. I aralleirio Max Boyce, ‘ro’n i yno’ bryd hynny, yng nghwmni fy nheulu, yn arnofio ar hyd y Ddwyryd, yn bwyta hufen iâ eirin mair a blodau’r ysgaw Hufenfa’r Castell, ac yn nofio efo fy chwiorydd ar lan y môr y Bermo. Roedd hi’n chwilboeth yno ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno. Fe arhosom yn Nolgellau, ac un noson cawsom swper o flaen Bwyty Mawddach yn yr awyr-agored yn gwylio’r haul yn machlud dros Gadair Idris.

Mwynheais Negroni chwerwfelys, a linguine cranc rhagorol gan y cogydd-berchennog Ifan Dunn, o’i gegin ar fferm y teulu.

Ochr arall i Ddolgellau mae tafarn fwyd y Cross Foxes, lle ges i linguine cranc gwych arall gan y cogydd o’r Bermo, Kyle Wilkinson – a buodd yntau mor garedig â rhannu hanfodion y saig gyda mi.

Nid pob platiad fwyd sy’n ysbrydoli taith feddyliol o’r fath, ond mae na ‘rywbeth yn y dŵr’ ym mro Meirionnydd. Rhyw fyfyrdodau felly sy’n troelli drwy mhen pan af ati i greu Linguine Cranc, gan sawru’r delweddau melys a fu, a chreu atgofion newydd.

Nid cranc o’r Lobster Pot ges i tro ma, ond yn hytrach, derbyniais archeb o stondin Ashton’s o’r farchnad ganlog ar stepen fy nrws, ac roedd y cranc Môr Celtaidd o Gernyw yn ysgubol.

O ddifri, gyfeillion, mae’r rysait yma’n hawdd ac yn gyflym… bydd yn barod ymhen yr amser i ferwi’r linguine, sef 8-9 munud, ac mae’n blasu’n ANHYGOEL!

Linguine Cranc

Cynhwysion

Cig Cranc Brown

Cig Cranc Gwyn

3 Gewin Garlleg män

1 Tsili Coch mân

2 Llwy Fwrdd o Bersli Dail Gwastad

2 Llwy Fwrdd o Olew Olewydd

Halen a Phupur

75g (neu fwy!) yr un o Linguine

Dull

Yn gyntaf, estynwch am sosban a’i lenwi â dŵr. Dewch â’r dŵr i’r berw, gan ychwanegu joch halem, cyn trochi’r asta linguine yn gyfangwbl. Gadewch am hyd at 9 munud, neu pan fydd y linguine yn feddal – ond nid yn rhy feddal; hynny yw, al dente (gyda brathiad).

Tra bod y linguine yn ffrwtian, estynwch am ffrimpan a dechreuwch ffrïo’r garleg a tsili mân ag olew olewydd ar wres cymhedrol, gan droi yn gyson am dri munud. Peidiwch â’u llosgi!

Yna, gostyngwch y gwres ychydig, ac ychwanegwch y cig cranc brown a’r glasied o win gwyn, gan droi â llwy bren i ‘leihau’r’ hylif am 4 munud nes bydd yn saws cyfoethog. Diffoddwch y gwres.

Pan fydd y pasta yn barod, gwaredwch y dŵr wrth osod y linguine mewn gogor. Yna tywalltwch y linguine ar ben saws cranc brown y ffrimpan, a throelli’r gymysgedd yn gyflym.

Ychwanegwch y dail persli a’r cig cranc gwyn, a chymysgu’n dda gyda phinsiad halen a phupur, cyn tywallt y pasta i bowlen. Taenwch â chaws parmesan wedi gratio, os y dymunwch, neu bwytwch fel y mae, a mwynhewch gyda glasied oer o win gwyn. Mama mia, dyna flasus!

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Bwytai Cymru, Cegin Lowri | 1 Sylw

Cegin Lowri; Coctels Dant y Llew

Mae cae mawr y Rhath ar hyn o bryd yn frith o ddant y llew.

Does neb yn cael torri’r gwair, ac felly mae’r ‘chwyn’ yn cael rhwydd hynt i dyfu a denu’r gwenyn a’r ‘cachgi bwm’ i beillio, a chadw’r byd i fynd. Gwelais Cadi, fy nith fach, o bellter wrth fynd am dro, yn chwythu’r paill a chwarae ‘faint o’r gloch yw hi?’.

Wedi i mi goginio â garlleg gwyllt a dalan poethion yr ardal leol , ro’n i’n ysu am flas melysach yr wythnos hon. Ystyriais felly flodau dant y llew…

Ges i andros o hwyl ar weithdy jin botanegol ym Mannau Brycheiniog y llynedd.

Felly, gyda’r ddefod wythnosol ‘coctel nos Wener’ ar y gweill, dyma benderfynu gwneud tro gwahanol ar ‘surop syml’.

Mae cymaint o goctels yn cynnwys siwgwr, neu ‘surop syml’ (hynny yw, siwgwr wedi toddi mewn dŵr berw) – gan gynnwys Margarita yr wythnos ddwetha. Mae’n gynhwysyn handi iawn – yn wir, dwi’n ei greu bob Noswyl Nadolig ar gyfer fy salad ffrwythau – a’r tro ma, dyma ychwanegu cynhwysyn lleol a thymhorol i’r gymysgedd.

Surop Dant y Llew

Dwy Law o Flodau Dant y Llew

Hanner Lemwn

300ml Dŵr

250ml Sigwr

Yn syml, casglwch lond dwy law o flodau dant y llew.

Golchwch y blodau mewn dŵr oer cyn eu gosod mewn sosban â 300ml o ddŵr a hanner lemwn. Dewch â’r dŵr i’r berw, yna diffoddwch y gwres, a gadewch y gymysgedd i stwytho am ddiwrnod.

Yna, rhidyllwch y blodau a’r lemwn o’r gymysgedd, a dychwelwch y dŵr melyn i’r sosban. Ychwanegwch 250ml o siwgwr, a dewch â’r dŵr melys i’r berw.

Pan fydd y siwgwr wedi toddi’n llwyr, gostyngwch y gwres ychydig, gan barhau i fudferwi am 20 munud. Yna diffoddwch y gwres, a gosodwch y surop dant y llew mewn jar (neu jariau) glân. Os ydych yn dymuno i’r surop dewhau, yn debycach i fêl, gadewch y gymysgedd i fudferwi am 10 munud arall. Profwch y gymysgedd; fe ddylai’r surop lynnu at gefn llwy.

Gyda’r surop syml dant y llew yn barod, dyma feddwl am goctels addas a fyddai’n gweddu’r blas melys, gwanwynaidd, fel mêl blodau gwyllt, nid anhebyg i flas blodau’r ysgaw (elderflower) a chwa ysgafn o sitrws lemwn.

Dychmygwch flas medd, neu jin Pollination distylldy Dyfi; dyma flasau ‘blodeuog’ reit fwsglyd mewn ffordd, felly peidiwch â boddi ysgafner dant y llew gyda blasau gwrth-gyferbyniol sy’n llethu neu chystadlu’n ormodol.

Penderfynais ar dri choctel gwahanol a fyddai’n gadael i’r dant y llew ‘ruo’, yn y gobaith na fyddai angen ‘blewyn y ci’ drannoeth!

Twm Collins Dant y Llew

Mae’r clasur jin, ‘Tom Collins’, fel arfer yn cynnwys siwgwr a sudd lemwn, felly dyma gyfnewid y siwgwr am surop dant y llew. Yn yr un modd, gallech chi’n hawdd greu coctel ‘Lemon Drop’ gyda vodka a surop dant y llew.

1 Mesur Jin Sych Llundain

3 Mesur Dŵr Soda

1 Mesur Surop Dant y Llew

Gwasgiad Sudd Lemwn

Rhew

Cyflwynwch 3 ciwb rhew ac 1 mesur Jin sych i wydr, cyn ychwanegu 1 mesur o surop dant y llew, a chymysgu â llwy. Tywalltwch ddŵr soda ar ben y gymysgedd, yna gwasgiad o sudd lemwn i orffen. Addurnwch â blodau Dant y Llew, yna ‘bottoms up’!

‘Hen Ffasiwn’ Dant y Llew

Un o fy hoff goctels i (a Don Draper o Mad Men!) yw’r clasur chwisgi Bourbon sy’n deillio o gyfnod gwaharddiad alcohol yr UDA; yr ‘Old Fashioned’, sydd hefyd yn cynnwys ‘shigwdad’ o ‘bitters’ Angostura, gwasgiad o oren a siwgwr brown. Rhaid dweud i’r syrop dant y llew gymeryd ei le yn ffantastig yn y coctel hwn, gan weddu i’r dim â blas cynnes a charamelaidd y chwisgi Bourbon. Dyma goctel hwyrnos hyfryd i gynhesu’r galon cyn dweud ‘Nos Da’.

2 Fesur Chwisgi Bourbon

1 Mesur Dŵr

1 Mesur Surop Dant y Llew

Shigwdad Da o ‘Bitters’ Angostura

Cwrlen Croen Lemwn

Rhew

Estynwch wydr chwisgi, a thywalltwch fesur o’r surop dant y llew, yna’r ddau fesur chwisgi Bourbon, a chymysgwch yn dda gyda llwy. Ychwanegwch un mesur o ddŵr ynghyd â shigwdad da (hynny yw, rhyw 5-6 ysgwydiad cyflym) o ‘Bitters’ Angostura. Ychwanegch y rhew, a’r cwrlen croen lemwn (wedi’i ‘blicio’ fel croen tatws), a sawrwch yr Hen Ffasiwn Dant y Llew tra’n swatio dan flanced, neu o flaen tanllwyth o dân!

‘Fizz’ Dant y Llew

Mae na gymaint o flasau a gyflwynir i win gwyn pefriog, o’r Bellini (sudd eirin gwlanog a Prosecco) i Kir Royale (liqueur cyrains duon mewn Champagne), neu’r Champagne Cocktail clasurol (sy’n cynnwys brandi, ‘bitters’ Angostura a cheirios Marashino). Tra’n crwydro yn Sir Fynwy ym mis Medi y llynedd, ges i Prosecco Blodau’r Ysgaw (Elderflower) bendigedig yn nhafarn y Bell at Skenfrith, felly dyma addasu hynny i gynnwys surop Dant y Llew.

1 Glasied o Prosecco

1 Mesur Surop Dant y Llew

Estynwch eich hoff wydr, neu coupe, Champagne, a thywalltwch fesur o’r surop Dant y Llew iddo, ac addurnwch â blodyn dant y llew. Agorwch potel o Prosecco (neu fe wnaiff un bychan y tro!), a’i dywallt i’r gwydr. Cymysgwch, a sawrwch y swigod dant y llew!

Blewyn y Llew

Yn ogystal â chyfrannu at goctels, daw’r surop yn achubiaeth drannoeth i leddfu’r cur pen OS fuoch mor ffôl â chael gormod o lawer o hwyl. Fe wnaiff y siwgwr yn bendant helpu i dawelu’r boen…

Paned o De

Tost

Surop Dant y Llew

Digon o ddŵr, paracetemol, paned o de a surop ar dost. Yna syth nol i’r gwely am awren o gwsg, a dwi’n addo, byddch fel y boi.

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri, Tafarn/ Bar | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Salad Caesar Cookie

Ers cychwyn y ‘Lockdown’ dwi di dod i ddibynnu ar fy ngawl blasus tomato a phupur rhost a garlleg gwyllt i ginio. Mae’n gwneud newid o’r omlets ro’n i arfer yn eu sglaffio tra’n gweithio ar fy liwt fy hun o nghartre. Ond, a hithe’n fis Mai, a thymor yr Haf ar y gorwel, ges i fy ysbrydoli i greu un o fy hoff saladau.

A dweud y gwir, rhaid diolch i un o nghymdogion, Samuel o Fadrid, adawodd focs llawn bwyd i’w rannu ymysg preswylwyr tri fflat ein tŷ teras. Mae yntau yn gogydd ym mwyty Viva Brasil, sydd ar hyn o bryd methu gweithio oherwydd y feiriws – diolch byth, mae e’n dal i derbyn cyflog. Wrth i minnau goginio yn y gegin gyda’r ffenest ar agor, dwi’n aml yn arogli ei fareciw ef a’i wraig Estela o’u gardd islaw. Rhyngthom ni mae actor ifanc sy’n gerddor dawnus, a rhwng y ddwy fflat mae sain piano a gitâr yn llenwi’r tŷ â seiniau llawen, ymlaciol.

Derbyniodd Samuel y bocs bwyd o’i eglwys ef, ond mynnodd rannu’r rhan fwyaf o’r cynhwysion â phobl digartref. Mynnodd hefyd mod i’n dewis o bethynnag oedd yn weddill, felly ges i fetys, leims – a bagiad o Letus.

Pan welais i’r letus Romaine hwnnw, yr oedd ei ddyddiad ‘cau’ yn prysur neshau, aeth fy meddwl i’n syth i Efrog Newydd, a fy hoff salad Cesar, llawn blas. Caiff y saig ei gysylltu’n aml â set y ‘ladies who lunch’ a dwi wedi mwynhau sawl un dros ginio yn hel clecs gyda ffrindiau gan rannu potel o win. Mae’n ginio ysgafn amlhaenog sy’n gyfuniad o flasau cyfoethog sydd, ar y naill llaw, yn sawrus ac, ar y llall, yn ffres – ac mae’n berffaith ar ganol diwrnod llawn gwaith.

Fy ffefryn oedd salad y Boathouse yn Central Park gyda fy chwiorydd, a glasied o Sauvignon Blanc. Er cof am y profiad hwnnw, creais fy salad Cesar fy hun sy’n cynnwys hanfodion y clasur New Yorkaidd, ond yn fy null di-ffwdan fy hun. Mae’n hawdd i’w baratoi, ac fel y rhan fwyaf o fy ryseitiau, roedd y cynhwysion eisioes yn yr oergell a’r cwpwrdd cegin.

Salad Caesar Cookie

Cynhwysion

Bagiad o Letus Romaine wedi’i ddarnio

Tafell o Fara Surdoes

Ŵy wedi’i botsio

2 Llwy Fwrdd o gaws Parmesan wedi’i gratio

4 Brwyniad (Anchovy) tun, wedi’i ddarnio,

Olew Olewydd

Halen a Phupur

Opsiynol: Brest Cyw Iâr wedi’i rostio

Dull

Yn gyntaf, torrwch y bara yn giwbiau 1 cm sgwâr, a’u gosod ar silff bobi yn y popty (ar wres 180 gradd Selsiws) i’w tostio am 10 munud.

Sicrhewch nad ydynt yn llosgi, na chwaith mor galed nes eu bod yn torri filling yn eich dannedd!

Opsiynol: Mae’r salad yn ddigon blasus heb gig, yn fy marn i, ond os hoffech chi ychwanegu cyw iâr ato hefyd, yna rhostiwch frest cyw iâr yn y popty gyda halen a phupur ac olew olewydd ar wres 180 gradd Selsiws am 45 munud. Yna torrwch y cyw iâr yn ddarnau.

Tra fo’r ciwbiau bara wedi’u tostio yn ychwanegu gwead crenshlyd at y salad, mae’r brwyniaid (anchovies) yn ychwanegu chwa sawrus, a hallt – torrwch 4 brwyniad o dun yn fân. Os nad ydych yn dymuno eu cynnwys, yna taenwch binsiad o halen y môr dros y salad yn lle.

Potsiwch ŵy mewn sosban llond dŵr berw, gydag 1 llond llwy fwrdd o finegr (sy’n helpu i’r wŷ gadw’i siâp yn y dŵr) am 3 munud. Yna tynnwch yr ŵy o’r dŵr yn ofalus gyda llwy fawr.

Estynwch powlen fawr, a cyfunwch y dail letus, ciwbiau bara, brwyniaid a darnau cyw iâr os y dymunwch, pupur a chaws Parmesan, joch da o olew olewydd, yna cyflwynwch yr ŵy di’i botsio ar ei ben. Mwynhewch!

Yr unig beth fyddai’n gwneud y salad yn fwy perffaith yw cwmni cyfeillion da a photel o win gwyn! Tan y tro nesa, ffrindiau xxx

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Pei’r Bwthyn

P’run ai’n noson rewllyd o Ragfyr, neu’n Sadwrn braf ganol Gwanwyn, mae na wastad le i hen ffefryn ar y fwydlen sy’n cynnig coflaid fawr gysurlon. Mae hynny’n fwy gwir nag erioed ar hyn o bryd wrth i’r cyfnod o encilio ymestyn. Ac mewn syfyllfa swreal o ‘unknown unknowns’ mae na bleser mewn clasur cyfarwydd.

Un o’r seigiau arbennig hynny i mi yw Pei’r Bwthyn (Cottage Pie) – does dim ffordd y gallech chi fethu a dweud y gwir. Ac mewn termau sylfaenol, mae’n cynnig tatws, cig a moron mor feddal nes cystadlu â bwyd babi!

Digon gwir, gallech brynu pei parod o archfarchnad, ond pa hwyl, mewn difri calon, fyddai hynny? Dyma un o’r seigiau hynny, wrth ei baratoi, sy’n llenwi’r tŷ â phêrarogleuon. Mae’n werth buddsoddi’ch amser mewn saig sy’n llawn atgofion, sy’n plethu’r gorffennol, presennol a’r dyfodol ynghyd.

Pei’r Bwthyn

Cynhwysion

500g o Friwgig (Mins) Eidion

2 Llwy Fwrdd o Olew Olewydd

1 Nionyn Mawr wedi’i dorri’n fân

4 Gewin Garlleg wedi’u torri’n fân

2 Foronen wedi’u torri’n fân

1 Llwy Fwrdd o goesynnau Persli

2 Llwy Fwrdd o ddail Persli

1 Ciwb Isgell (Stoc) Cyw Iâr mewn 300ml o Ddŵr Berw

1 Llwy Fwrdd o Marmite neu Bovril

1 Glasied o Win Coch Ffrwythog

1 Llwy Fwrdd o Bâst Tomato

3 Llwy Fwrdd o Sudd Swydd Caerwrangon (Worcestershire Sauce)

Halen a Phupur

1.2.kg o Hen Datws

Glasied Bach o Laeth

1 Melynwy

1 Llwy Fwrdd o Fenyn Hallt

1 Gewin Garlleg wedi’i gratio

Dull

Yn gyntaf, ffriwch y briwgig eidion ar wres cymhedrol am 10 munud, mewn desgyl caserôl. Yna, ychwanegwch y nionyn, garlleg, coesynnau persli a morn mân, a pharhewch i ffrïo gan droi yn gyson am 10 munud arall.

Yna, ychwanegwch yr isgell cyw iâr, y Marmite / Bovril, pâst tomato, gwin coch, dail persli a halen a phupur. Gosodwch y caead ar y ddesgyl caserôl a gadewch i ffrwtian ar wres cymhedrol gan adael i’r gymysgedd ‘leihau’ am hanner awr.

Yn y cyfamser, pliciwch y tatws, a torrwch nhw’n fân cyn eu gosod mewn sosban llawn dŵr. Ychwanegwch binsiad da o halen i’r dŵr, a gadewch i ferwi am hyd at 15 munud. Byddwch yn ofalus nad yw’r tatws yn toddi; fe ddylent fod yn feddal, nid yn edrych fel cawl! Profwch gyda chyllell i sicrhau.

Cynheswch y popty i 180 gradd selsiws.

Bydd cymysgedd y cig wedi ‘lleihau’ yn y cyfamser, gan droi’n saws mwy trwchus, ffrwythog a chyfoethog. Profwch i flasu gyda llwy, ac – os oes angen – ychwanegwch binsiad arall o bupur neu ddropyn o win.

Nol at y tatws; gwaredwch y dŵr o’r sosban mewn gogor. Yna dychwelwch y tatws i’r sosban gan ychwanegu’r menyn, melynwy ac ychydig o’r llaeth. Gyda stwnshwr, neu fforc, cyfunwch y cynhwysion yn dda tan y bydd y tatws yn llyfn a hufennog – heb lympiau! Ychwanegwch ragor o’r llaeth (os oes angen), pinsiad o halen a phupur a gewin garlleg wedi’i gratio, os y dymunwch.

Tywalltwch y cymysgedd cig i ddesgyl bobi, yna’r tatws stwnsh ar ei ben. Defnyddiwch fforc i ledaenu’r tatws stwnsh dros gymysgedd y cig.

Gosodwch yn y popty am hanner awr, tan bydd y tatws stwnsh yn euraidd a saws y cig yn ffrwtian islaw.

Dylai’r pei fod yn ddigon i hyd at 4 person, neu gallwch rewi neu gadw’r sbarion yn yr oergell am ddiwrnod neu ddau. Mwynhewch gyda llysiau gwyrdd, a glasied o win coch, a cofiwch – bydd popeth yn iawn.

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Margarita

 

Mae nos Wener wastad yn uchafbwynt yn ystod yr wythnos, ond yn arbennig nawr yng nghyfnod o encilio y ‘lockdown’. Mae nos Wener yn linell derfyn ar ddiwedd yr ‘wythnos waith’, sydd o gymorth wrth addasu i ac ymlacio ar gyfer y penwythnos. Un ffordd draddodiadol o dathlu nos Wener oedd cwrdd â ffrindiau am ddrincs ar ôl gwaith. Erbyn hyn, mae galwadau fideo Houseparty, Facetime, Zoom a What’s App wedi ennill eu tir fel dolen gyswllt handi iawn rhwng ffrindiau. Ac ar  nos Wener, mae’n braf mwynhau coctel  wrth ‘ddal-fyny’ efo cyfeillion, neu cyn paratoi am swper.

Yn bersonol, mae fy nefod ‘Quarantini Time’ i yn cychwyn toc ar ol 6 o’r gloch ar nos Wener. Dwi’n troi BBC Radio Cymru mlaen a gwrando ar raglen Jazz gan Tomos Williams sy’n cynnig cefnlen o seiniau ‘parti’ amryliw. Dros yr wythnosau d’wetha dwi ‘di mwynhau cymysgu Fflamingo Pinc a Caipirinha tra’n gwrando ar gerddorfa Duke Ellington a Gwilym Simcock a’i fand. Ond neithiwr, a hithe’n braf a phentwr o leims ffres yn y gegin, dim ond un coctel oedd ar fy meddwl – y Frenhines o Fecsico, Margarita.

Dwi’n mwynhau sawru Tequila – neu ei gefnder myglyd Mezcal – yn araf dros rew, fel chwisgi da. Mae’r gwiriodyn cryf deillio o ddail pigog y planhigyn Agave, sy’n ffynnu yn anialdir Mecsico. Ond does dim angen mynd i wario ar Tequila ‘drud’  ar gyfer ei gymysgu mewn coctel.  A dweud y gwir, y blas leim ffres ddylai serennu, yn ddelfrydol dan awyr las!

Mae gen i atgofion melys o fwynhau Margaritas chwerwfelys dros y blynyddoedd, fel arfer yng Nghaliffornia, lle ma pobol yn cwyno ei bod hi’n oer os yw hi’n 72 gradd Fahrenheit! Ges i Blood Orange Margarita wnaeth chwalu mhen (mewn ffordd dda)  yn Santa Monica, a Tamarind Margarita bendigedig yn Berkeley tra’n aros i swpera yn Chez Panisse. Ac roedd y Mezcal Margarita mewn bar o’r enw Hops ‘n Hominy yn San Francisco ymysg y gorau i mi eu blasu erioed.

Ond y fersiwn wreiddiol sydd oruchaf; yn syml ac effeithiol, mae fel chwistrelliad o heulwen yn syth i’ch gwaed. Peidiwch a thorri corneli wrth brynu sudd leim artiffisial neu ‘cymysgydd’ megis Triple Sec – ar ddiwedd wythnos faith, da chi’n haeddu gwell na ‘na!

Margarita

Cynhwysion

2 fesur (maint ecob yw un ‘mesur’) o Tequila Euraidd

2 llwy fwrdd o Sudd Leim Ffres

1 Llwy Fwrdd o Surop Syml (rysait isod)

2 Llwy Fwrdd o Ddŵr Oer

1 Cymysgydd Coctel (Cocktail Shaker)

Rhew

Dull

Yn gyntaf, estynwch sosban i greu syrop syml;  cyfunwch lond cwpan o ddwr a’r un faint o siwgwr, gan ferwi’r gymysgedd ar wres cymhedrol tan fydd y siwgwr wedi toddi’n llwyr. Mae’r cam hwn yn cymeryd llai na phum munud, a gallwch gadw’r surop mewn potel yn yr oergell am hyd at fis.

Gwnewch yn siwr fod rhaglen Jazz gan Tomos Williams ar BBC Radio Cymru ymlaen, neu gwrandewch nol ar app Sounds.

Yna, torrwch a gwasgwch hyd at ddeg leim ffres (neu lawer mwy ar gyfer parti!), a gosodwch y sudd mewn jar neu potel.

Estynwch eich cymysgydd coctel, a’i lenwi at ei hanner a rhew. Byddwch yn barod i sianelu Bryan Brown a Tom Cruise yn y ffilm Cocktail, os y dymunwch.

Tywalltwch 2 fesur o Tequila euraidd, 2 llwy fwrdd o sudd leim, 2 llwy fwrdd o ddŵr oer, ac 1 llwy fwrdd o’r syrop syml. Gosodwch y caead ymlaen, a cymysgwch am funud da. Sicrhewch bod y caead ymlaen yn dynn, neu fydd na gyflafan!

Tywalltwch yr hylif i’ch hoff wydr, a gosodwch sleisen o leim wedi’i dorri ar wefus  y gwydr. Gosodwch eich sbectols haul mlaen, a trowch y radio’n uwch a mwynhewch eich Margarita gyda bach o bop!

Dim o’r nonsens halen i mi, sy’ jyst yn fy atgoffa o’r ddefod ‘shots last orders’ yng Nghlwb Ifor Bach. Ond os ydych chi’n dymuno ychwanegu halen at eich Margerita, dilynwch y cynghorion hyn; cyn tywallt yr hylif o’r cymysgydd taenwch sudd leim o amgylch wefus eich gwydr. Trowch eich gwydr ben i waered. a’i osod mewn plât llawn halen y môr.  Pob Lwc!

Un tip olaf; os oes ganddoch gynlluniau o gwbl bore Sadwrn (Zoom Bwtcamp, er enghraifft!!); glynnwch at y ddeddf 2 Margarita, max! Newch chi ddiolch i mi drannoeth. A iechyd da!

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri, Tafarn/ Bar | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Omlet Cennin a Garlleg Gwyllt

Tra’n loncian o gwmpas ardal Parc y Rhath, dwi’n aml yn pigo llond llaw o ddail garlleg gwyllt. Mae nhw bellach yn eu blodau, sy’n arwydd nad oes llawer mwy o’u tymor ar ôl. Os fyddwn ni’n lwcus, byddan nhw dal yma ym Mehefin, felly gwell dechrau cynllunio am sut i’w cadw…

Yn y cyfamser, ar brynhawn dydd Gwener, ges i fy ysbrydoli ganddynt am ginio ysgafn…

Fel un sy’n gweithio o adre ar fy liwt fy hun ers bron wyth mlynedd, rhaid dweud, dwi’n caru omlet i ginio. Mae’n saig ysgafn, ond llawn blas ac egni protîn i nhanio ar gyfer gwaith y prynhawn. Ond ers cychwyn y ‘lockdown’ dwi mond wedi cael un – roedd yn berffaith, llawn blasau ysgafn a thymhorol, felly dyma fynd ati i’w ailgreu.

A hithe’n b’nawn Gwener, wedi wythnos faith, ystyriais eiriau un o fy hoff awduron bwyd, Elizabeth David yn 1984…

We are not considering the great occasion menu but the almost primitive and elemental meal evoked by the words; ‘Let’s just have an omlette and a glass of wine’.’

Omlet Cennin a Garlleg Gwyllt

Cynhwysion

2 Ŵy

2 Gewin Garlleg mân

I Niinyn Bach wedi’i dorri’n fän

2 fodfedd o Gennin wedi’i dorri’n denau

Llwy Fwrdd o Gaws (eich dewis) wedi gratio

4 deilen Garlleg Gwyllt

Opsiynol: Tsili Gwyrdd wedi’i dorri’n fân

Halen a Phupur

Llwy Fwrdd o Fenyn neu Olew Olewydd

Dull

Tywalltwch werth llwy fwrdd o Olew Olewydd neu fenyn mewn ffrimpan, ar dymheredd cymhedrol. Ffrïwch y nionyn a’r garlleg tan byddant yn feddal, yna ar ôl 7 munud, ychwanegwch y cennin (a’r tsili gwyrdd os ydych yn dymuno), a parhewch i droi tra’n ffrïo.

Yn y cyfamser, cymysgwch dau ŵy mawr â fforc yn gyflym mewn powlen, cyn eu tywallt dros y gymysgedd yn y ffrimpan. Taenwch halen a phupur dros y gymysgedd, a’r caws wedi’i gratio (Gran Padano sydd yma) a’r dail garlleg gwyllt.

Gadewch i’r omlet ffrïo am 4 munud ar dymheredd ychydig is na chanolig, tan na fydd cymysgedd yr ŵy yn wlyb mwyach. Peidiwch â’i adael i losgi!

‘Teimlwch’ eich ffordd o dan yr omlet yn ofalus gyda llwy bren, i sicrhau nad ydyw wedi llosgi ac er mwyn ei ‘ryddhau’ o’r ffrimpan. Plygwch yr omlet yn ei hanner wrth ei lithro ar blât ac – er cof am eiriau call Elizabeth David – mwynhewch gyda glasied o win gwyn!

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri | Rhowch sylw