Adolygiad Ffilm: The Fault In Our Stars

The Fault in Our Stars

Y Sêr: Shailene Woodley, Ansel Elgort, Nat Wolff, Willem Dafoe, Laura Dern a Sam Trammell

Y Cyfarwyddo: Josh Boone

Y Sgrifennu: Addasiad Sgript Scott Neustader a Michael H. Weber o’r nofel The Fault in Our Stars gan John Green

Hyd: 126 mun

Adolygais The Fault in our Stars ar raglen Prynhawn Da ar S4C ar ddydd Gwener, Mehefin 20fed, 2014. Cliciwch yma i wylio eto.

Yn 2012, rhyddhawyd nofel i oedolion ifainc a hawliodd deyrngarwch ledled y byd. Nid fampirod llysieuol na saethwraig o fri ddenodd 11 miliwn o bobol i ddarllen The Fault in Our Stars, ond cyfeillgarwch rhwng dau sy’n delio â chanser terfynnol.

Mae’r salwch yn bla, sy’n cyffwrdd pawb mewn rhyw ffordd – yn fy achos i, mae fy nau riant yn derbyn triniaethau ers tro. Pan glywais fod teen-romance mwyaf 2014 yn cyffwrdd â’r pwnc, es i weld y ffilm  gan ddisgwyl ei chasáu.

Rwy’n llawn syndod wrth adrodd i mi ddwlu ar y ffilm, a hoffwn ddarllen y nofel yn fawr. Mae’n adlais o gomediau hamddenol fy ieuenctid – gweithiau gorau Cameron Crowe a John Hughes yn eu plith.

Ces fy nghyffwrdd a ‘niddanu ac fe chwarddais drwyddi draw diolch i sgript soffistigedig tu hwnt. Dyw’r ffilm ddim yn gochelu rhag dangos effeithiau gwaetha’r salwch, ac mae’n cyffwrdd ag emosiynau dwys.

Dilynwn ferch yn ei harddegau o’r enw Hazel Grace, sy’n cario tanc ocsigen i bob man. Lledodd canser y thyroid i’w hysgyfaint dro yn ôl, ac mae hi’n derbyn triniaeth arbrofol. Caiff ei hebrwng gan ei mam i gylch trafod i bobol ifanc sy’n wynebu yr un her â hi.

Does gan Hazel ddim diddordeb mewn gwadu’r gwir; mae hi’n marw, a does dim byd all atal hynny. Ond mae gan un aelod o’r grwp agwedd hollol wahanol, a’r Augustus Walters ungoes yw e.

Tra fod Hazel yn mynnu darllen ei hoff lyfr yn ddi-baid, mae Augustus yn mynnu atebion gan yr awdur. Aiff Augstus â hi ar antur i Amsterdam i gwrdd â’r nofelydd enigmataidd.

Nid Love Story na Dying Young na hyd yn oed Endless Love yw’r ffilm hon- mae’n debycach i groes rhwng Ferris Bueller’s Day Off a Before Sunrise .  Ceir llwyth o sinigiaeth, a hiwmor  craff, a thrafod diddan rhwng dau enaid hoff cytun.

Mae’n wir i’r ffilm ffwndro ar ganol y ffilm, ar ymweliad â chartref Ann Frank. Ond gellid maddau hynny’n llwyr diolch i berfformiadau disglair gan Shailene Woodley ac Ansel Elgort.

Yn achos Elgort, fel Augustus,  mae’n dwyn John Cusack i gôf, gyda’i arddull naturiol fraeth. Creodd Shailene argraff dda fel merch George Clooney yn  The Descendants, ond yma ganwyd seren y sgrîn fawr.

Does dim dianc rhag y ffaith mai ffilm am ganser yw hon, ond mewn gwirionedd , y mae’n ddathliad o fywyd. Y mae’r ffilm yn brawf pendant nad oes angen triniaeth siwgwrllyd o bwnc sy’n cyffwrdd cymaint o bobol, o bob oed.


Sgôr Terfynol* 

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 4 Cookie yn cyfateb i 8 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael sylw