Caffis Cymru: Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016

image

Delwedd | Cofnodwyd ar gan | Rhowch sylw

Adolygiad Theatr: Ga i Fod? (Theatr Bara Caws)

photo 3 (5)

Mewn byd ben-i-waered sy’n llawn peli Pokemon, bendigedig oedd cael dianc i’r coed, ar gyfer un o dair sioe ’steddfod gan griw Theatr Bara Caws, sef perfformiad gwyllt o’r enw i Ga i Fod?. Sain defod ‘Dawns y Blodau’ a’m harweinodd at y sioe, ond wrth gefnu’n llwyr ar firi’r Maes, ces ysbaid braf dros dro.

Dyna hefyd oedd prif gymhelliant pum cymeriad Ga i Fod?, wrth archebu lle ar gwrs penwythnos ‘byw yn y coed’. Ond nid cynnau tân, fforio am fwyd  a dysgu sgiliau gwylltgrefft oedd y bwriad; ond cefnu ar fywyd dros-dro a ‘byw fel anifeiliaid’.

photo 1 (7)

Yn eu plith roedd dyn busnes  – Carwyn Meirion Tomos (Llyr Evans) – a’i ffôn yn sownd i’w glust – ac Anwen (Carys Gwilym), oedd awydd ‘rhywbeth gwahanol’,  tra r’oedd Glyn (Emyr ‘Himyrs’ Roberts) yn fwy cyfarwydd â chyrsiau o’r fath, ac yn ysu i archwilio cylch bywyd brân.

Taflodd Bleddyn (Iwan Charles) ei hun yn llwyr i’w rôl fel twrch daear – er edrychai’n debycach i armadillo; ac er iddi gyrraedd braidd yn hwyr, ar ras yn ei sodlau uchel, fe wnaeth Mari hefyd ymroi – am gyfnod byr – i chwarae llyffant.

Yn raddol bach, wrth ddiosg eu dillad a thensiynau eu bywydau bob-dydd, aeth y pump ohonynt ati i gofleidio natur. Canwyd corn bob hyn a hyn i ddynodi ‘amser te’ i gael trafod a chymharu eu datblygiad. Yn bur anochel, y sinig mwyaf a ymgollodd yn llwyr – a hyd y gwn i mae Carwyn y carw yn dal yn y coed…

photo 2 (6)

Difyr iawn oedd gwylio’r pump yn trawsnewid o flaen ein llygaid, gan fynd ati gyda’u giamocs doniol iawn. O wylio Anwen, fel y wiwer, yn cesio’i gorau i ddringo’r coed, i frwydr diriogaethol ffyrnig rhwng Mari a Bleddyn. Diddorol hefyd oedd arsylwi  frisson rhwng dau yn dwyshau ar ffurf anifeiliaid. Fel cyd-weithwyr, ni allai Mari a Carwyn gyfathrebu yn glir eu gwir dyhaeadau am ei gilydd. Ond fel carw a llyffant?   Doedd dim angen troslais gan David Attenborough i egluro eu greddfau naturiol.

Ychwanegwyd hanen drwchus o hiwmor gyda’r gwisgoedd oedd i’w canfod mewn cistiau cochion; yn gydradd gyntaf ydoedd MAMIL Glyn y frân, a Carwyn y carw a’i goesau ôl fel toilet rolls!

Bun’n sicr yn werth trosi sioe wreiddiol Madeleen Bloemendaal o’r Iseldireg i’r Gymraeg, ac mae addasiad Tony Llewellyn a Bryn Fon yn gweithio’n dda  Er mor syml oedd y darn, gwelwyd astudiaeth graff ar waith, a heriwyd ein  cysyniad arferol ni o beth yw’n blaenoriaethau. Wedi’r ‘steddfod yn y Fenni, rhwng Rhith Gân a Ga i Fod?, rwy’n digwyl agwedd  mwy gofalgar ymysg  y Cymry Cymraeg – tan diwedd y gwyliau haf, ta beth!

Mae Ga i Fod? ymlaen am 13.00 a 17.00 yn y Goedwig ger y Pentref Drama ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn y Fenni ar Awst y 4ydd a’r 5ed, 2016. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Theatr | Rhowch sylw

Adolygiad Theatr; Rhith Gân (Theatr Genedlaethol Cymru / Eisteddfod Genedlaethol Cymru)

photo (12)

Lluniau gan Betsan Evans – Celf Calon

Ga i’ch annog chi gyd i fachu ‘tocyn aur’ Maes Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016 – cynhyrchiad arbennig sy’n ddol Rwsiaidd o brofiad theatrig, sydd ymlaen yn y cwt Drama tan  nos Wener, y 5ed o Awst.  Yn seiliedig ar albwm Y Bardd Anfarwol gan Gareth Bonello o The Gentle Good  –  a enillodd wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Llanelli, 2014 – fe gipiodd Rhith Gân y Fedal Ddrama i’r dramodydd Wyn Mason yn Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau, 2015.

Eleni felly, profwn benllanw taith annisgwyl a gychwynodd  yn Tseina yn  2011; drama gyfoes, trasi-comig a gyflwynir yn yr iaith y Gymraeg, sydd hefyd yn fyfyrdod ysgubol o hardd. Plethir athrawiaethau oesol ar dreigl amser, natur, hapusrwydd a chariad, sydd a’u gwreiddiau’n dyddio nol i’r 8ed Ganrif yn y Dwyrain Pell.  Dychmygwch ddilyniant  theatrig-gerddorol i gyfrol John Cale, What’s Welsh For Zen?, a fyddwch chi ddim yn bell ohoni…

Cawn gyflwyniad i ddyn canol oed or enw Orin (Rhodri Evan), wrth iddo agor bocs  cardfwrdd Amazon. Tra’n byseddu cyfrol o gerddi gan Li Bai o gyfnod Brenhinlli Tang –  y ‘Bardd Anfarwol’ ei hun – daw ei ferch Elen (Saran Mrogan) ar ei draws i’w darfu,  yn llawn bustl am Hanna (Nia Roberts), ei mam. Gydag Elen ar drothwy ei denaw oed, daw’n amlwg fod na agendor mawr yn bod rhwng y ddwy, a’i bod yn nes o lawer at ei thad – tybed pam?

photo (10)

Wrth i Orin bori ymhellach trwy’r gyfrol,  daw’r awdur  yn fyw o’n blaenau; ‘bardd y dao’ Li Bai (Llion Williams), mewn kimono du, yn llonydd ond yn llawn cynghorion doeth.  Daw’r ffigwr hwn yn feistr Zen o fath i Orin, mewn cyfnod hynod heriol o’i fywyd;  mae’i wraig yn llawn straen – ‘yn annuwiol o anghennus’, a channwyll ei lygaid ar fin hedfan y nyth. Beth sy’n bod ar droi at gysur y gitar – ac nid yr hwfyr – pan fo’i fyd ar fin torri’n deilchion?

photo 4 (2)

Wrth i’r stori ddwyshau, darganfuwn yn wir, i’w fyd droi tu chwith ers tro byd. Daw’n amlwg i’r meistr estyn allan am reswm; i achub Orin oddi wrth ei hun.

Mae’r berthynas rhwng y ddau yn ddifyr tu hwnt, diolch i  act ddwbwl arbennig, a gydbwysir yn berffaith dan gyfarwyddyd Sara Lloyd. Cydweithiodd Rhodri Evan a Llion Williams yn arbennig o dda yn Difa (Theatr Bara Caws), drama nid anhebyg am  iechyd meddwl yn 2015; yma, mae’r cemeg comig rhwng y ddau ar ei orau, a’u haelioni tuag at ei gilydd yn amlwg iawn.

photo 3 (4)

Enillodd Rhodri Evan y wobr am Actor Gorau y Theatr Gymraeg eleni – a byddai’n talu i bawb ei weld yn Rhith Gân, fel dyn wedi cyrraedd pen ei dennyn. Daw â haneau anhymig i’w bortread o ddyn go iawn –  un bregus ond hollol hurt yr un pryd-  ddaw, wrth ystyried ei sefyllfa a newid er gwell,  yn raddol yn ôl at ei goed.  Ymddangosai Llion Williams fel pe bai wedi cyrraedd Nirvana, wrth gynnig  perfformiad tan gamp fel y Yoda Cymreig; dylid datblygu ap ‘Ymwybyddiaeth Gofalgar’, â llais ‘Li Gweld Bai’ i leddfu cur y Cymry Cymraeg.

photo (13)

Er y cyflwynir hanesion y merched o berspectif Orin ei hun, gweithia’r ddwy actores yn wych i ennyn ein cydymdeimlad. Diolch i sgript eofn ac afieithus Wyn Mason, caiff Saran Morgan rwydd hynt i greu sioc, a hoelio sylw’r dorf.

photo 1 (6)

Try Nia Roberts y ddelwedd o’r wraig  ‘needy’ ar ei phen, wrth gyflwyno dosbarth meistr mewn rhwystredigaeth, gan gydbwyso fflachiadau o byd o boen Hanna ag amseru comig craff.

photo 2 (5)

Fe’n denir ni  fewn i seintwar y stori gan set ardderchog Luned Gwawr Evans; camp ynddo’i hun yng Nghwt Drama y Maes, sy’n pwysleisio’r ‘mini’ ym ‘minimalistaidd’. Cyffyrddiadau cynnil a geir, sy’n asio â’r darn, gan gynnwys sgrîn gefndirol, sy’n taflunio delweddau heddychlon – pwll adlewyrchol, o liwiau amrywiol, yn eu plith. Ategwch at hynny ‘lleuad lawn’, blanced wlân, coed pîn, a soffa syml; byddai meistres y ddysgeidiaeth tacluso KonMari,  Marie Kondo, wrth ei bodd. A gair i ganmol y goleuo i’r entrychion, gwaith clodwiw gan Ceri James; pan safodd Li Bai o’n blaenau mewn cwmwl glas hardd, fe’m saethwyd innau’n syth i fy seithfed nef!

Plethwyd y ddrama â pherfformiad byw gan Gareth Bonello, o ganeuon yr albwm, a ysbrydolwyd gan ei  ysgoloriaeth i Tseina yn 2011; ymunwyd ag ef gan ganu’r actorion, a weithiodd yn gelfydd yn ystod y darn.

photo 5 (1)

Clywyd clychau cefndirol, ynghyd â darnau gitâr, a’r Pipa, a greodd naws heddychlon dros ben.  Sôn am danio sawl awen, cael gwerth am arian ‘run pryd, heb sôn am ddihangfa dros dro  i’r Cymry Cymraeg  ; dyma brofiad theatrig aml-gyfryngol sy’n  cyffwrdd â’r enaid trwy gerdd a chân.

Wedi sawru’r ddrama ar ei noson gyntaf, carwn ei phrofi eilwaith er pleser pur . Ac os fydd y tocynnau wedi’u gwerthu, gallaf droi at yr albwm, lle gall y siwrne hyfryd hon barnhau.

Bydd Rhith Gân i’w gweld yng Nghwt Drama Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni a’r Cyffiniau 2016 tan y 5ed o Awst, 2016; cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Theatr | Rhowch sylw

Adolygiad Ffilm: Y Llyfrgell (15)

Y Llyfrgell / The Library Suicides

Adolygias ffilm Y Llyfrgell ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul ar BBC Radio Cymru, ar y 24ain o Awst, 2016. Cliciwch yma i wrando eto.  

Mae na rywbeth go ellyllaidd am efeilliaid, yn ôl mawrion y sinema. O chwiorydd sinistr The Shining gan Stanley Kubrick hyd frodyr twyllodrus Dead Ringers gan David Cronenberg, ceir enghreifftiau di-ri o ddihirod o’r un wy. Hyd yn oed â comedïau, fel The Parent Trap a Twins, llechai gyfrinachau lu islaw.

I’r canon o anfarwolion, cyflwynir Ana a Nan – gwrth-arwresau Y Llyfrgell gan Euros Lyn. Dyma ffilm a greodd argraff fawr yng Ngŵyl Ffilm Caeredin ym Mehefin, ac sy’n agor ledled Cymru ym mis Awst. Mae’n addasiad o nofel gomig a hynod grefftus gan Fflur Dafydd, a gipiodd wobr Daniel Owen yn 2009. Ond peidiwch, bethbynnag wnewch chi, â’i hail-ddarllen cyn gweld y ffilm; y mae’n stori bur wahanol erbyn hyn.

Fe’m hudwyd yn llwyr gan y nofel gyfoethog honno, a’i chast o is-gymeriadau abswrd. Ond i’w throsi’n ffilm fawr, bu’n rhaid tocio, gwyrdroi, a ffocysu ar  y ddwy brif gymeriad. Mae’r broses ei hun yn adlewyrchu un o brif themau’r ffilm; sut mae straeon yn esblygu dros amser. Mae’n ffilm sy’n gafael yn gadarn tan yr olygfa olaf-ond-un, cyn cymeryd un cam yn ormod, yn fy marn i.

Fe’n cyflwynir i’r ddwy chwaer, y llyfrgellwyr Ana a Nan, mewn agoriad eofn sy’n  tanio’n chwilfrydedd. Dwy efaill unwy yn canfod eu mam – y nofelydd Elena Wdig (Sharon Morgan) – yn marw ger  prom Aberystwyth. Fe neidiodd hi i’w marwolaeth o’i fflat fry uwchben; pam felly iddi yngan y geiriau olaf, ‘Eben nath e’? Arweinia’r amwysedd at gynllun y ddwy i ddial ar gofiannydd tawedog eu mam, Dr Eben Prydderch (Ryland Teifi). Dilynwn noson dyngedfennol yn y Llyfrgell Genedlaethol, wrth i’r ddwy chwaer ddarganfod y gwir.

Ond fel y darganfuwn ni, mae gwahanol fersiynau o’r gwir i’w canfod yng nghrombil cof ein cenedl. Mae sefydliad eiconig y Llyfrgell Genedlaethol yn lwyfan sinematig perffaith i stori gyffro athronyddol.

Dan ofal hynod brofiadol y cyfarwyddwr Euros Lyn (Happy Valley, Broadchurch, Doctor Who, Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw), symud yn slic wna’r antur afaelgar drwyddi draw. A dwyshau wna’r dirgelwch i guriadau hypnotig seinlen electro-synthetig Dru Masters (The Apprentice, Dispatches). I goroni’r cyfan, yn weledol, mae sglein sylweddol i’r ffilm, diolch i gyfarwyddyd ffotograffiaeth cyfareddol Dan Stafford Clark a chynllunio treiddgar Thomas Pearce.

I genedlaethau o Gymry, hafan heddychlon, hamddenol yw’r ‘Llyf Gen’, ag yno agwedd ‘mañana, mañana’, dim-brys, dim chwys.  Camp fwyaf y criw cynhyrchu yw troi’r sefydliad ar ei ben, wrth ei gyflwyno o’r newydd ar ffurf labyrinth arswydus . Does dim peryg, fodd bynnag, i’r tim rheoli golli cwsg; mae’n hysbyseb fendigedig i bensaerniaeth clasurol Sidney Greenslade a chyffyrddiadau Art Deco Charles Holden.

Yn wir, mae modd meddwi’n llwyr ar gyffyrddiadau gweledol y cynhyrchiad, sy’n gyforiog o fanylion Cymraeg; o Gofeb Tryweryn, hen rifynnau cylchgrawn Lol i res o Gyfansoddiadau amryliw – hyd at at gyfeiriad at chwedl y ‘Jack the Ripper’ Cymraeg. Cyfosodir hyn oll â delweddau i godi ias, o’r angylion dialgar yn crwydro’r coridorau oeraidd. Gyda dryll ym mhob llaw, a blows ysgarlad yr un, fel arwresau Tarantino neu Almodovar.

Catrin Stewart

Mae Catrin Stewart yn rhagorol fel Ana a Nan – rôl deublyg sy’n mynnu cryn gynildeb ganddi hi, a chyfarwyddo hynod grefftus gan Tim Hodges. Fe gydbwysa’n llwyddiannus rhwng yr efaill ‘dda’ a ‘drwg’, gan rannu’n cydymdeimlad rhwng y ddwy. Gyferbyn â hi, daw Dyfan Dwyfor (Yr Ymadawiad) â chryn ysgafnder i’w ran fel Dan, y swyddog diogelwch direidus. Ganddo ef y mae rhai o berlau comig gorau y sgript, sy’n arbed y ffilm rhag troi yn felodramatig.

Dyfan Dwyfor

Er cystal actor yw Ryland Teifi, mae gen i ofn i rym ei ran, fel Dr Eben Prydderch, gael ei golli yn yr addasiad i’r sgrîn fawr. Yn y nofel drasi-comig, efe oedd yr arwr mawr abswrd;  yma, mae’n llipryn ymylol mewn cymhariaeth. Ond hyd yn oed heb wybodaeth gefndirol o’r Eben a fu, ni wyddwn braidd dim amdano i falio rhyw lawer, tan ddatguddiad allweddol yr ail act. Mae’r un peth yn wir i raddau am yr efeilliaid enigmatig, gaiff gyfle i hawlio’u hunaniaeth eu hunain tua’r diwedd.

Ond wrth i’r haenau o wirionedd gael eu datgelu bob yn dipyn , cynyddu’n raddol wnaiff rym emosiynol y ffilm. Ac er i’r cynhyrchiad wyro’n llwyr o stori’r nofel a’i diweddglo, cyrhaeddir grescendo nid anhebyg tua’i therfyn. Trueni felly i’r cynhyrchiad gyflwyno un datguddiad  olaf, Christopher Nolan-aidd, sy’n taro’n chwithig ac sy’n bygwth  tanseilio’r ffilm. Er yn asio â’r neges ‘grym galar’ a chloddio i haenau gwirioneddau, mae’r cynhyrchiad, i mi, yn datgymalu yn ei sgil. Efallai y bydd eraill yn anghytuno, o brofi’r  première yn y Fenni –  dwi’n dal i bendroni fy hun, gan edrych ymlaen at drafodaeth frwd!

Serch hynny, mae Y Llyfrgell yn ffilm hyderus dros ben sy’n cynnig llwyfan i rai o dalentau gorau’r Gymraeg. Mae gofyn canolbwyntio’n llwyr i sawru sgript mor aml-haenog, ac mae na ffresni a chryn ffraethineb ar waith. Wrth i’r ffilm ddryllio ambell eicon, mae’n dyrchafu eraill fry uwchben, ac oherwydd hynny, mae’n hawlio’i  lle yn y cof Cymreig.

Bydda i’n holi’r awdur-gynhyrchydd Fflur Dafydd a’r cyfarwyddwr Euros Lyn yn dilyn dangosiad o’r ffilm Y Llyfrgell yng nghanolfan Chapter, Caerdydd, ar nos Wener, Awst 5ed, 2016. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Ffilm, Llenyddiaeth | Rhowch sylw

Adolygiad Theatr: Dilyn Fi (Cwmni Fran Wen)

photo 3 (3)

Lluniau gan Geraint Thomas

Yn dilyn taith fach ddechrau’r flwyddyn, cafwyd cyfle bendigedig i brofi perl o sioe i blant ar faes y Brifwyl yn Y Fenni. Ond fel yn achos cynyrchiadau eraill or fath i blant bach, cynigir gwersi a phleserau yn ogystal i oedolion yn sioe dyner, llawn dychymyg, Dilyn Fi (Cwmni Frân Wen).

Braf iawn oedd gweld plant  bach yn cael eu denu’n syth bin i eistedd at sêr y sio. Fe hoeliwyd eu sylw, a cafwyd gwrandawiad  astud iawn am dri charter awr yn Theatr y Maes. Crewyd naws fyfyriol iawn ar hyd y cynhyrchiad, a’n tywysodd trwy ddrws y dychymyg. Ond dihangfa dros dro oedd cyrchfan y sioe, ymhell o ddwndwr newydd-ddyfodiad; baban bach swnllyd, a fynnai sylw pawb, er mawr siom i Nansi, ei chwaer fawr.

Fe wylion ni Nansi (Cêt Haf) yn chwarae â Cai (Elgan Rhys), ei ffrind gorau mewn bow tei melyn a dyngarîs denim; yn dawnsio a chwerthin, gan ddynwared anifeiliaid, ar goll ym mhleserau’r dychymyg. Ategu at awyrgylch freuddwydiol eu hwyl wnaeth cefnlen gerddorol Gruff ab Arwel (Eitha Tal Ffranco, Palenco, Y Niwl) – ar adegau’n arallfydol, ar brydiau eraill yn brudd, yn syrthio’n hamddenol braf rhwng gwaith Y Niwl a Moon Safari.

Daeth cwmwl mawr du i darfu ar y ddau, yn achos crio cefndirol ‘Babi Bleddyn’. Tywyllodd gwyneb Nansi ar achlysur pob bloedd – prun a’i’n wich neu’n chwerthiniad bach braf.

photo 2 (4)

Fe  ymgollodd hi ymhellach i fyd yr ‘eliffant’, gan fygwth dieithrio Cai yn llwyr. Ond camodd Cai i esgidiau prif ‘arwr yr awr’, wrth ei darbwyllo nad bygythiad mo Bleddyn. Fe dywysodd yntau Nansi i ‘Affrica’, lle ddaeth hi wyneb yn wyneb ag eliffant go iawn, a hwnnw’n un go debyg i’w brawd iau…

Pleser pur oedd ymgolli’n llwyr ym mherfformiadau disglair Cêt Haf ac Elgan Rhys; plethwyd cyffyrddiau dawns i’w symudiadau sionc, oedd mewn cytgord llwyr â’i gilydd.

photo 1 (5)

Ymgorfforwyd ryddmau bychain – ynghyd â thrac sain cynnil iawn – i gynorthwyo antur fawr y dorf. Ag ychydig iawn o eiriau, fe’n hudwyd dros y dŵr – ar awyren, cwch a thrên – gan chwysu a chwerthin bob cam.

Ond siwrne ddwysach fyth a gymerwyd mewn gwirionedd, am natur cariad ac empathi. Rhannwyd emosiynau cymhleth – fel yn achos dryswch Cai, wrth wylio’i ffrind yn troi yn gas; ‘stopia, plis… ti’n neud fi’n drist’. Ac wrth i Nansi ddiosg maneg i gyffwrdd â’r babi eliffant, datgelwyd ei thynerwch a’i dynoliaeth hi.

photo 4 (1)

Dyma gydweithrediad wych rhwng Cwmni Frân Wen a’r awdur Sarah Argent, dan gyfarwyddyd hynod deimlawy Iola Ynyr. Bydd cynulleidfaoedd rhyngwladol Gŵyl Caeredin ar eu hennil wrth brofi’r fersiwn Saesneg, Follow Me,  ym mis Awst. Ond dychwelyd i Gymru wna Dilyn Fi  yn yr hydref, felly da chi, profwch drysor dros eich hun.

Cliciwch yma am wybodaeth pellach am gynhyrchiad Dilyn Fi.

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Theatr | Rhowch sylw

Cylchgrawn Golwg: Caffis Cymru

image

image

image

 

Cyhoeddwyd yn Caffi, Caffis Cymru | Rhowch sylw

Cylchgrawn Barn: Sir Flasus – Bwytai Sir Fynwy a’r Cyffiniau

Mynydd y Blorens, Sir Fynwy

Gan fod  Eisteddfod Genedlaethol 2016 wedi ei lleoli ym ‘Meca’ bwyd-garwyr Cymreig, dyma, o bosib, yw’r cyfle gorau ers tro i sawru’r gorau o Gymru ar blât.

O fewn cyrraedd i’r Fenni mae dau fwyty safon seren Michelin a phum bwyty a enillodd gymeradwyaeth The Good Food Guide, gyda changen o Waitrose lai na chanllath o’r Maes. Ond does dim rhaid gwario fortiwn i brofi  bwytai bro’r brifwyl, ac mae tafarndai a chaffis gwerth chweil yn yr ardal.

O’r Maes trowch eich golygon at afon Wysg gyda mynydd y Blorens o’ch blaenau. Ar ochr ddeheuol y bont hynafol saif tafarn The Bridge Inn, gyda’i golygfa o Ddolydd y Castell o’i gardd gwrw.

The Bridge Inn, Llanfoist

Ymysg y dewis o gwrw crefft mae cynnyrch gwobrwyol Bragdy Tudor – yn wreiddiol o’r Fenni, cyn symud i Lanheledd, Blaenau Gwent – a Chwrw’r Afr Serchog gan Fragdy Twt Lol o Drefforest.

Ond os am beint a phryd bwyd, trowch i’r dre heibio gerddi Linda Vista ger y Maes. Gyda bwydlen sy’n brolio cynnyrch lleol Cymreig, mae The King’s Arms yn dafarn fwyd i gystadlu gyda’r gorau, mewn sir sydd yn orlawn ohonynt. O’r sewin tymhorol, salad Cesar neu granc, i’r gateau llysiau rhost a chaws Pant Ysgawn, mae’r fwydlen yn un helaeth, a’u platiad o ’sgod a ’sglods yn boblogaidd iawn.

Gerllaw, ar Stryd Fflanel mae tafarn Brains yr Hen & Chickens, drws nesaf i gigydd gwobrwyol  H J Edwards.

Hen & Chickens, Y Fenni

O Stryd Fflanel, trowch i’r dde i wynebu neuadd y Farchnad,  sy’n dyddio o’r 13g. Yno cynhelir Gŵyl Fwyd y Fenni bob mis Medi ers 1999,  ac mae miloedd o ymwelwyr yn parhau i dyrru iddi. Ni ellir pwysleisio digon  y fath les a wnaeth y ‘Brifwyl Fwyd’ hon i ddatblygiad Cymru fel cyrchfan gastro-dwristiaeth ryngwladol, yn sgil dyddiau du argyfyngau BSE a’r clwy traed a’r genau .  Yn 2008, yn yr Observer Food Monthly, cymharwyd perthynas y Fenni â bwyd ag un Cannes â’r sinema. .

Gerllaw mae Iard y Bragdy, gofod cyhoeddus a ddodrefnwyd gyda chasgenni llechi a meinciau derw o waith Howard Bowcott, yr artist o Benrhyndeudraeth, a naddodd eiriau adleisiol Menna Elfyn i’r colofnau. Lle cynt y safai bragdy’r dre  (tan 1960) ceir y geiriau ‘Gwag yw’r bragdy heb wres yr eples’, ond mae’r lle yn orlawn dros benwythnos yr Ŵyl.

O Iard y Bragdy trowch at hen Gapel Bethania am baned a thamaid i fwyta.

The Art Shop & Chapel, Y Fenni

Yng nghaffi The Art Shop & Chapel, gweinir coffi cwmni rhostio Carvetii o Cumbria – cwmni Gareth Kembel o Nanmor, sydd hefyd yn cyflenwi caffi’i fam Meg a’i frawd Tomos, sef TH Roberts, Dolgellau.

The Art Shop & Chapel, Y Fenni

Ceir yno fwydlen hyfryd o fore gwyn tan nos, er enghraifft brechdan facwn neu gaws pob  a ‘sôs coch’ rhiwbob i frecwast neu gawl dulys a phersli ginio. Ceir dewis diddorol i lysieuwyr neu gig-garwyr, a lloches o firi’r Maes.

The Art Shop & Chapel, Y Fenni

Yr un teulu sy’n rheoli gwesty’r Angel ar Stryd y Groes, gyda’i far chwaethus am goctel min nos. Ac os am gynnal aduniad yn ystod yr wythnos, beth gip ar eu bwydlen te prynhawn?  Yn 2011, cipiodd yr Angel wobr yr Urdd  Te am y Te Prynhawn Gorau ym Mhrydain. Am £21.80 yr un, gweinir detholiad frechdanau, sgon a chacennau, a baratoir bob bore gan y pobydd Sally Lane. Gyda’r Maes mor gyfagos, beth am wydraid o fizz, i nodi’r achlysur mewn steil?

Dihangwn o’r dref ar gyfer ein cyrchfan nesaf, ac anelu am Landdewi Ysgyryd ar y B4521, bedair milltir o’r Fenni. Yma, yng nghysgod yr Ysgyryd Fawr saif The Walnut Tree, bwyty a enillodd seren Michelin iddo’i hun.

The Walnut Tree, Llanddewi Ysgyryd

Cafodd ei sefydlu yn y 1960au gan yr Eidalwr Franco Taruschio a’i wraig Ann. Daeth clod a bri i’w ran, gwobrau lu a theithwyr bwyd o bell, tan i’r ddau ymddeol yn 2001. Ond yn 2004 profwyd hunllef cysylltiadau cyhoeddus go-iawn, wrth i’r perchennog newydd estyn gwahoddiad i’r cogydd-gyflwynydd Gordon Ramsay ffilmio ei gyfres Kitchen Nighmares. Pa ryfedd i’r bwyty gau ar ôl hynny! Ond dechreuodd cyfnod newydd ffyniannus eto yn 2008,  pan ail-agorodd dan arweiniad cadarn y cogydd Shaun Hill, sy’n parhau wrth y llyw heddiw.

Sut le sydd dan gangau’r ‘Gollen Ffrengig’ hon felly? Rhowch eich rhagfarnau am fwytai seren Michelin fel llefydd oeraidd a ffroenuchel o’r neilltu; mae i’r bwyty â’i ddarluniau amryliw, gan William Brown, naws hamddenol serch y llieiniau gwynion. Ac mae’r cynnig amser cinio – dau gwrs am £25 neu dri am £30 – yn rhodd i eisteddfodwyr.

Ar ymweliad diweddar, ces i wledd a hanner, gan ddechrau â ffrwydriad o liw; draenog y môr blas tanbaid tandoori gyda raita ciwcymbrr i’w dawelu.

The Walnut Tree, Llanddewi Ysgyryd

Dilynwyd hynny gan y prif gwrs sef cwningen a chorizo mewn saws mwstard Ffrengig ysgafn.

The Walnut Tree, Llanddewi Ysgyryd

Ac i bwdin cyfosodwyd cynhesrwydd pwdin reis saffron euraid  â ias sorbet oren lliw gwaed – dymunol dros ben.

The Walnut Tree, Llanddewi Ysgyryd

Tua’r gogledd-dwyrain yng Nghroes Onnen, mae coetsiws hynafol 1861, bwyty a enillodd gymeradwyaeth Michelin. Hyfforddodd y cogydd Simon King dan oruchwyliaeth y brodyr Roux cyn treulio cyfnod yn y Waterside Inn at Bray; yna aeth gyda Kate ei wraig i weithio gerllaw yn Llansantffraed Court, cyn sefydlu 1861 yn 2010. Ceir pwyslais ar wneud defnydd o gynnyrch lleol Sir Fynwy gan gynnwys llysiau o ardd tad Kate yn Nant y Deri. Rhoddir tro cyfoes ar seigiau clasurol, fel yn achos y tart tatine a gyflwynir ar y cyd â sorbet sinsir.

A sôn am Llansantffraed Court, ymgollwch yn llwyr yn rhamant y maenordy crand y gosodwyd ei seiliau ’nol yn y 14g.  Pan ymwelais â’r lle ganol haf roedd y fynedfa o ffordd fawr yr A40 yn fôr o flodau menyn.

Llansantffraed Court

Wrth nesáu at y neuadd, gwelir ei fod wedi ei  adfer yn null y Frenhines Anne; gwnaed hyn ar droad yr 20g.

Llansantffraed Court

Mae enw da iawn i fwyty The Court, gyda’i de prynhawn a’r olygfa braf at y llyn. Llogwch eco-gar ‘Tipyn’ i grwydro’r ystad, sy’n cynnwys ugain erw o dir; neu os  fyddwch ar ras wyllt i ddychwelyd i’r Maes, anelwch am yr helipad.

Am beint yn yr haul, gwta filltir i ffwrdd, mae tafarn hynod braf y Clytha Arms.

The Clytha Arms

Dyma enillydd teitl ‘Tafarn Wledig Orau’ gwobrau CAMRA unwaith eto eleni.  Mae’r Clytha ar dudalennau The Good Beer Guide ers dros ugain mlynedd bellach, a chynhelir gwyl seidr a pherai bob mis Mai. Diweddarir y dewis o gwrw’n gyson, ond un o’r ffefrynnau mawr yw’r cwrw aur Sundown gan fragdy lleol Untapped yn Rhaglan.

The Clytha Arms

Wedi awren yn crwydro parc Clytha drws nesaf ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol byddwch yn ysu am lenwi’ch bol. A choeliwch chi fi, chewch chi ddim cystal  bwyd tafarn yn unman yn Sir Fynwy, cartref ysbrydol y gastro-pub. Gellir barnu bwydlen dda ar sail ei dewis llysieuol, ac mae’r Clytha yn pasio’r prawf gydag anrhydedd. O’r  risols cennin a bara lawr, neu soufflé llyrlys a chaws gafr, dyma fwydlen wirioneddol ddiddorol. Ystyriwch y Clytha am ginio Sul, sy’n £21 am 3 chwrs, fydd yn siwr o godi’r galon ar ddiwedd yr wythnos.

Os am anelu’n uwch na hynny, ond am gynnal naws hamddenol, trowch yn syth ’nol o Clytha ar hyd yr A40 at fwyty The Hardwick  rhwng Penpergwm a’r Fenni.

The Hardwick

Trawsffurfiwyd hen dafarn The Horse and Jockey gan y cogydd serennog (Michelin) Stephen Terry, a hyfforddodd dan adain Marco Pierre White a Michel Roux Jr.

The Hardwick

Datgela wreiddiau ei hyfforddiant clasurol yn nifer o seigiau’r fwydlen, ynghyd â llu o ffefrynnau cyfarwydd. Ar f’ymweliad â’r Hardwick es i’n syth am y stecen; golwyth llygad-yr-asen 8 owns o fferm Johnny Morris, Willersley Court, ar lannau’r afon Gwy.

The Hardwick

Cafodd ei weini’n syml  â menyn garlleg gwyllt a sglodion a goginiwyd deirgwaith. Nefoedd i gig-garwraig fel fi; mae gyda’r gorau yng Nghymru.

Byddai’n bechod dirwyn hyn o lith i ben heb grybwyll ffefryn arall yn y fro, chwe milltir o’r Fenni yn nhre Crughywel.

The Bear, Crughywel

Mae tafarn glyd The Bear yn glasur o’i bath, gyda bwydlen sylweddol iawn trwy gydol y flwyddyn.

The Bear, Crughywel

P’run ai’n frechdan ham a mwstard, neu’n blatiad o ffagots a phys, mae arlwy bar yr Arth yn plesio ar bob ymweliad.

The Bear, Crughywel

A pheidiwch, da chi, â gadael heb brofi pwdin – neu ddau ! Mae’r hufen iâ bara brown yn brofiad a hanner, a’r crymbl afal a llus yn taro deuddeg.

Gair hefyd i’ch annog i flasu gwinoedd y fro tra byddwch yn ciniawa yn y cyffiniau. Gwin pefriog ystad Ancre Hill ger Trefynwy a weinir fel aperitif yn y Walnut Tree a’r Hardwick. Sefydlwyd y winllan yn 2006, a dilynwyd canllawiau bio-ddeinamig Rudolph Steiner ers 2011. Ymgorfforir grawnwin Albariño, Chardonnay a Pinot Noir, ac ar ymweliad â’r winllan, cewch flasu’r gwin dros blatiad o gawsiau Cymreig.

Sugarloaf Vineyards, Y Fenni

Yn nes at y Fenni, mae Gwinllan Sugarloaf ar lethrau Pen-y-fâl yn cynnig caffi sydd â chwip o olygfa; blaswch dri gwin am bedair punt, neu gall y sawl sy’n gorfod gyrru gael paned a chacen!

Sugarloaf Vineyards

Dewis arall fyddai ymweld a gwinllan White Castle wrth odre’r Ysgyryd Fawr, sydd, fel y dywedodd colofnydd gwin y cylchgrawn hwn rai misoedd yn ol, yn canolbwyntio ar rawnwin Almaenig sy’n ffynnu mewn tywydd oer (er nad tywydd felly fyddwn ni’n ei ddymuno ar gyfer y Brifwyl wrth gwrs).

Ac yn olaf, wedi teithio yr holl ffordd i Fynwy am wythnos o greu atgofion, beth am brofiad bwyd bythgofiadwy? Y tu hwnt i Drefynwy, yng Ngwenffrwd, y mae’r goron ar wythnos o wledda. Gyda’m llaw ar fy nghalon, ni chefais erioed y fath noson â’m hymweliad â bwyty The Whitebrook.

The Whitebrook

Ceir yno groeso cyfeillgar, decor cynnes cyfoes braf a naws sy’n ymlaciol dros ben. Mae prisiau’n rhyfeddol o resymol, o ystyried y safon, gan ddechrau â £25 am ginio dau gwrs. Am £67 cewch brofi bwydlen flasu saith cwrs sy’n hawlio seren Michelin i Chris Harrod. Fe’m gadawyd yn gegrwth gan ansawdd y bwyd wrth sawru blasau newydd sbon.

The Whitebrook

Anghofiwch Noma Copenhagen; gwneir defnydd yma o flasau Dyffryn Gwy a fforiwyd o’r caeau a’r coed o’ch cwmpas, fel berwr y torlannau a bara caws y cog i gyd-fynd â chig carw rhagorol.

The Whitebrook

Ond yr uchafbwynt i mi oedd y mouuse mafon a parfait fioled, yn atalnod gwych ar brofiad cwbl drosgynnol.

image

Beth bynnag fo’ch dileit ar hyd yr wythnos fawr, neilltuwch gyfle am wibdaith i’r synhwyrau. Mae ’na fwyty gerllaw i siwtio pob poced, felly ‘amdani’ yn ardal y Fenni!

Mae rhifyn Gorffennaf / Awst 2016 o gylchgrawn Barn ar werth yn eich siop lyfrau leol.

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Bwyd, Caffi, Caffis Cymru, Celf, Cylchgrawn Barn, Dihangfa o'r Ddinas, Tafarn/ Bar | Rhowch sylw