Adolygiad Ffilm: Gwledd (The Feast) (18)

Byddaf yn darlledu adolygiad llawn o Gwledd (The Feast) am 11.15yb ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru ddydd Iau, Awst 18ed, 2022.

Wel yn gyntaf, sôn am bleser cael sgwennu am ffilm Gymraeg ei hiaith gaiff ei rhyddhau mewn sinemau ledled Prydain ar Awst 19eg. Ac wedi hiiir ymaros, am ffilm o’r fath ansawdd, ar gynnig y mae bwydlen flasu chwe cwrs o gynhyrchiad, o safon seren Michelin.

Am loddest o ddelweddau i gipio’ch anadl ar adegau, o gartref, tirlun a theulu sy’n llawn deimensiynau. Mae’n ffilm iasoer uwch-naturiol sydd hefyd yn treiddio i psyche y Cymry Cymreig. Anghofiwch y clasur iasoer ‘Carrie’ gan Stephen King; byddwch yn barod i golli’ch pen dros ‘Cadi’!

Yn cyfarwyddo stori Roger Williams mae Lee Haven-Jones, gyda’r ddau wedi cydweithio droeon ym myd teledu. Ond yn wahanol i gyfres deledu, dyw’r ffilm ddim yn ‘dweud’ y cyfan ond yn hytrach yn ‘awgrymu’ ac felly mae’n rhoi’r rhyddid i’r gwyliwr weithio allan be sy’n digwydd, heb gael eu llethu gan ystrydebau.

Ry ni’n dilyn teulu Glenda (Nia Roberts), gwraig gyfoethog sydd o deulu fferm yn wreiddiol. Mae hi’n briod â Gwyn (Julian Lewis-Jones), Aelod Seneddol yn Llundain – ac yn byw breuddwyd wleb y ‘One-Percenters’ Cymreig. Tra bod y ddau yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn y ddinas gyda’u dau fab , Gweirydd (Sion Alun Davies) a Guto (Steffan Cennydd), mae nhw hefyd wedi dal eu gafael ar fferm y teulu. Yn wir, mae nhw wedi dymchwel yr hen ffermdy a chynllunio tŷ newydd sbon danlli – sy’n adleisio pensaerniaeth cynnil Siapan neu steil Scand-chic (hynny yw, dim byd tebyg i dŷ hir Cymreig). Mae nhw hefyd wedi comisiynu’u cyfaill Euros (Rhodri Meilir) i archwilio asedau’r tir hwnnw – cyfoeth y mineralau a’r metalau dan y pridd. Wedi canfod gwythîen addawol, mae nhw’n awyddus i ddwyn perswâd ar Mair (Lisa Palfrey) drws nesa, i ganiatau iddynt barhau i ymchwilio o dan y gors sy’n ffinio’r ddwy fferm – cors sydd â chwedl ofergoelus yn perthyn iddi. Ar y noson dan sylw, mae Glenda wedi trefnu swper i bawb ddod ynghyd, a threfnu bod merch leol, Cadi (Annes Elwy), yn dod i weini’r pryd. Merch ifanc enigmatig, bron yn fud ar adegau, yw hi, ac o’r cychwyn cyntaf aiff pethe o chwith yn ei phresenoldeb hi…

Beth yw ei chyfrinach, a beth fydd hanes y teulu? Byddwch yn barod am wledd o fri!

Mae na gymaint i edmygu am y cynhyrchiad caboledig hwn, sy’n gyfangwbl Gymraeg, a Chymreig. Mae’n ffilm arswyd cyfoes – yn stori iasoer gyda neges, a llawer mwy na dim ond trên sgrech o ‘slasher’ traddodiadol. Yn un peth, yn weledol, mae’n hynod drawiadol. Dan arweiniad Bjørn Ståle Bratberg, y cyfarwyddwr ffotograffiaeth, mae fel petai stori fer yn perthyn i bob ffrâm. Mae’r sain hefyd yn eithriadol o bwysig – mae’r 7 munud cyntaf bron yn gwbl ddi-ddeialog, ond sôn am gynnig dosbarth meistr o wers mewn creu tensiwn heb ddefnyddio dim ond seiniau anghynnes. Ceir sŵn drilio, saethu gwn, a chwareir ar boenau fel ‘tinnitus’ a sgleinio gwydr… ynghyd â defnydd clyfar o dorri ar y tensiwn gyda chân bop retro fel Watshia Di Dy Hun gan Meinir Lloyd. Dyma anthem sydd mewn gwirionedd yn cynnwys neges rybuddiol y dylai pob aelod o’r teulu estynedig wrando arno.

Yn wir, cynigir brofiad ymdrochol trwy’r effeithiau sain hyn – mae’r drilio yn y tir fel mynd i’r deintydd a dweud y gwir sy’n eich anesmwytho’n llwyr o’r eiliadau cyntaf. (Beth yw’r gwrthwyneb i ASMR, dwedwch?!) Mae cymaint o elfennau amhleserus a barus ac arwynebol yn perthyn i aelodau’r teulu tocsig, sydd yn amlwg o’r cychwyn cyntaf mond yn parchu gwerth pres. Felly mae cymeriad amwys Cadi yn bresenoldeb hypnotig. Hi yw gwir galon y cynhyrchiad, a caiff eich llygaid ei denu ganddi ym mhob un olygfa mae ynddi. Ond hi hefyd sy’n gyfrifol am ffawd pob un o’r cymeriadau yn y tro clyfar, cyfoes hwn ar yr ‘home invasion thriller’.

Oherwydd pwy yn union yw’r dieithriaid, a phwy sydd wir yn tresmasu? Fel cymaint o ffilmiau arswyd cyfoes – Hereditary, Us a Men, i enwi dim ond rhai – mae Gwledd yn perthyn yn bendant i’r don newydd o ffilmiau ôl-arswyd (boed yn arswyd-gwerin neu arswyd-ecolegol) sy’n taclo themau sy’n gwbl berthnasol i’r zeitgeist, ac yn yr achos yma, o fewn y diwylliant cyfoes Cymreig,

Mae na rywbeth fetishistic am bob aelod o’r teulu, a phawb yn ysu am ddihangfa o ryw fath – a gwneir yn fawr o ysfa’r pedwar yn eu tro am ryddhad dros dro i’r synhwyrau. Yn wir caiff y tirlun a’r cartre, a’r ychydig hen greiriau teulu, eu trin yn fetishistig hefyd. Symbolau, neu gofroddion, yn unig ydynt erbyn hyn o pa mor bell mae nhw wedi ymbellhau o wreiddiau eu hynafiaid.

Mae Glenda yn dwlu ar ei hystafell spa myfyrio (sydd, fel y caiff ei gymharu gan Mair, ‘yn edrych fel cell’ ac nid coflaid), mae Gwyn yn llowcio’i wisgi ac yn saethu cwningod am eu swper – yn gwneud yn fawr o’i archwaeth am bleserau bywyd (bwyd a diod yn eu plith) ac am hunaniaeth y pâr priod fel gourmands. Yna’r meibion… afraid dweud, mae problemau mawr gan y ddau. Mae Gweirydd ar ganol hyfforddi ar gyfer triathlon, er bu’n astudio i fod yn ddoctor, tan yn ddiweddar (hmmm…). Wrth edmygu ei hun yn ei siwt leicra tynn mae e’n rhoi enw drwg i bob MAMIL sy’n siarad Cymraeg. Yna mae Guto’r brawd iau, gyda’i gitar roc a’r tatw ar ei wddf, yn amlwg mewn gwewyr ac ar goll. Ag yntau wedi bod (ac o a bosib o hyd) yn gaeth i gyffuriau, mae e gwbl allan o’i ddyfnder yn nhawelwch cefn gwlad, ac yn hiraethu am ddwndwr y ddinas i dawelu’i deimladau. Ceir awgrym fod y ddau yn destun ‘siom’ i’w rhieni, sy’n amlwg yn anwybyddu problemau dwys eu hepilion, wedi’u dallu gan eu hucheilgais eu hunain. Ydy hi’n bryd i bawb dysgu gwers neu ddau gan ferch sydd â’i thraed ar y ddaear?

Datgelu’i hun wna’r arswyd yn ara bach; yn wir, dim ond awgrym ohono sy’n bresennol am amser hir. Ond yn ystod yr hanner awr olaf, wel, byddwch yn barod i weld eich cwrs cyntaf unwaith eto. Diawl, sôn am le! Paratowch am olygfeydd o natur rywiol a threisgar, a sacheidiau o waed ysgarlad. Mae’r criw cynhyrchu wir wedi mynd amdani, gan sianelu ‘body horror’ David Cronenberg ar adegau. Ond a finne bron yn alergig i ‘slasher pics’ traddodiadol, rhaid dweud, ges i siom ar yr ochr orau. Mae’r golygfeydd mwyaf amrwd mor annisgwyl o ‘soffistigiedig’ , nes i ddim yngan yr un sgrech yn ystod Gwledd. Yn wir, mae’r sgript ffraeth a deifiol yn denu gwên a sawl chwerthiniad – ond mae na hefyd olygfa o ddefod wledig bob-dydd wnaiff godi cyfog ymysg y rhai sy’n caru anifeiliaid. Hefyd, gwell i mi eich rhybuddio – gwneir defnydd ciaidd o greadigol o ddarnau gwydr, a chynrhon, cyllyll a madarch hudol… ond na ddigon am hynny, cerwch i’w gweld. Er cofiwch mai tystysgrif y ffilm yw 18!

Achos fel dwi’n dweud mae hon yn ffilm o Gymru sy’n wirioneddol werth ei sawru. Dwi’m yn cofio teimlo’r un cyffro wrth wylio cynhyrchiad sinematig ers amser maith. Rhaid mynd nol at 2016 i gofio Y Llyfrgell gan Euros Lyn, ac Yr Ymadawiad cyn hynny gan Gareth Bryn yn 2015, am ffilmiau eraill o Gymru gafodd y ‘fraint’ o gael taith sinematig. Os dwi’n onest fe wnaeth eistedd yn gwylio Gwledd fy atgoffa i o nghyfnod i’n astudio MA mewn Ffilm Theatr a Theledu dan arweiniad un o’m hoff ddarlithwyr erioed, y diweddar gyfarwyddwr ffilm, John Hefin. Dewis fy nhestun traethawd MA oedd cynrhychiolaeth Cymru ar sgrîn, gan ganolbwyntio ar y ffilm ‘Dogme’ Euros Lyn, Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw (2000). Ac wrth wrando ar y cyfarwyddwr Lee Haven-Jones yn y sesiwn holi ac ateb ar ddiwedd y dangosiad, nes i ddechre cymeradwyo yn dilyn un o’i bwyntiau. Wrth drafod dylanwadau sinematig ar ei feature cyntaf fel cyfarwyddwr ffilm, gan grybwyll gweithiau o Gorea, gwlad Groeg a Gwlad yr Iâ, fe ddwedodd e mai’r ‘wlad drws nesaf atom yw’r lle olaf bydde’n i’n ystyried troi ati am ysbrydoliaeth’.

Rhywbeth arall sy’n amheuthun yw fod fod llawer o’r motifs Cymreig arferol, a chyfeiriadau diwylliannol, yn bresennol ond yn isymwybodol. Fel unrhywun sy’n byw eu bywydau trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, byddai’n hawdd mynd i gloddio am sgerbydau o’r Mabinogi, a chynnwys Gwledd mewn traethawd doethuriaeth am ochr dywyll hwyiangerddi. Ond yn wahanol efallai i gynyrchiadau’r gorffennol, dy nhw ddim yn hawlio penawdau’r stori. Mae’n ffilm sy’n cynnwys pob math o bethe… yn un pethe, mae’n ffilm rybuddiol am ‘inherited trauma’, y ffordd ‘anghywir’ o ddelio â galar, ac – yn fwyaf amlwg – am beryglon dianc yn rhy bell o wreiddiau’r teulu. Un peth sy’n sicr, mewn cyfnod lle mae mae popeth – o hawliau dŵr a ffynhonellau eraill Cymru, plannu coed ac air bnbs i gyd yn brwydro i gyrraedd brig yr agenda cyhoeddus – mae’r ddaear dan draed yn cofio popeth… felly gwnewch yn siwr, da chi, eich bod yn ei pharchu.

Mae’n ffilm iasoer synhwyrus, sy’n cyfuno’r cyfoes a’r cyntefig. Croeswch benod o Grand Designs gyda thechnegau thatr y Grand Guignol… ac O’r Ddaear Hen gyda’r arswyd cyfoes Midsommar! Mae wir yn edrych yn ahygoel – diolch hefyd i waith gweledol y cynllunydd Gwyn Eiddior, a meistres y gwisgoedd, Dawn Thomas-Mondo. Ac os ga i ddweud mae’r lleoliad ei hun, yn eironig ddigon, yn cynnig ‘Gwledd’ o brofiad ymdrochol. Gallwch ymweld â Tŷ Bywyd, encil a chanolfan ymwybyddiaeth gofalgar yn Llanbister, nid nepell o Abaty Cwm Hir. Cynllunydd yr adeilad yw’r pensaer o Loegr, John Pawson, mewn cydweithrediad ag Alain de Botton. Sôn am fyrdd o fanylion blasus i gnoi cil drostynt ar gyfer y dilyniant!

Wrth ddirwyn i ben (diawl, o’n i’n meddwl mod i wedi gorffen fy adolygiad…) dwi’n ymwybodol iawn nad ydw i wedi crybwyll perfformiad yr un actor hyd yma. O ddifri nawr, mae pob aelod o’r cast ar eu gorau glas, gyda’r ddwy brif berfformwraig, Annes Elwy a Nia Roberts, yn mynd benben â’i gilydd mewn dwy ran wefreiddiol i ferched.

Nid y ‘rhan Mam arferol’ yw Glenda o bell ffordd, fel y dywedodd Nia Roberts yn y sesiwn holi ac ateb yn Chapter – ac amen i hynny – ac mae Annes Elwy yn arallfydol o ysgubol fel Cadi. Ac os nad ydych chi wedi cael digon o sleaze gan wleidyddion Llundain dros y blynyddoedd dwetha, ga i argymell eich bo chi’n gwledda ar bortread Julian Lewis-Jones o Gwyn, ynghyd â pherfformiadau Siôn Alun Davies a Rhodri Meilir.

Os oes lle i feirniadu (c’mon, adolygiad yw hwn, wedi’r cyfan), bydden i’n dadlau i’r diweddglo orffen yn rhy frysiog, er cymaint dwi’n CARU ffilmiau sydd mond awr a hanner o hyd. Fel nifer o ffilmiau arswyd cyfoes, mae’r deg munud olaf yn un cawdel o ddelweddau eithafol, gyda dim cweit digon o gyfle i anadlu, i adlewyrchu ar ac i werthfawrogi un cymeriad penodol. Wedi dweud hynny, mae’r penderfyniad i orffen ag un trac cerddorol yn bendant yn cynnig catharsis a hanner.

Da chi, ewch yn llu. Mae Gwledd yn hawlio 5 cookie gen i. O, am rodd o ffilm Gymraeg fel hon yn llawer, llawer, amlach.

Darlledais adolygiad o Gwledd (The Feast) ar raglen Prynhawn Da ar S4C ar brynhawn Iau, Awst 11eg, 2022.

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Bwyd, Ffilm | 1 Sylw

Uchafbwyntiau Ffilm a Theledu 2021

Cyn ffarwelio ag eleni, seibiant i bwyso a mesur cyfraniad ffiilmiau a chyfresi poblogaidd 2021. Yn ystod blwyddyn arall o bandemig (a gychwynodd â chyfnod clo estynedig), mawr oedd fy niolch eleni am gyfleon i ddianc i fyd dychymyg Ffilm a Theledu…

Ffilm

Yn gyntaf, ffilm, sef cyfrwng celfyddydol sydd wedi ffynnu er gwaethaf heriau a rhwystredigaethau’r pandemig. Fel adolygydd ffilm (ar raglenni BBC Cymru ac S4C) teg dweud mod i’n gwylio mwy o ffilmiau na’r person cyffredin, gan gynnwys y da, y di-ddrwg-di-dda a’r hyll. Rydw i hefyd, dwi’n tybio, yn anarferol erbyn hyn, fel un sy’n gwylio cymaint o gynhrchiadau yn y sinema ag yr ydw i’n ffrydio ar-lein.

Ystyriwch o ddifri pryd aethoch chi i’r sinema y tro dwetha, pan fo gwasanaethau Netflix, Amazon Prime, Disney Plus (ymysg eraill) i’w gwylio’n hwylus o gyfforddusrwydd eich soffa. O holi eraill yn ddiweddar, dwi’n synhwyro mai ffilm James Bond, No Time To Die, oedd y ffilm gyntaf i sbarduno nifer i ddychwelyd i’r sinema am y tro cyntaf ers mis Mawrth 2020.

Wel, wedi gwirio fy nyddiadur, llyfrau nodiadau, adolygiadau Twitter a straeon Insta, dwi’n reit sicr i mi wylio 65 o ffilmiau newydd yn 2021. Roedd 3 ohonynt o Gymru – La Cha Cha, Dream Horse a The Toll – a dwi’n edrych ymlaen i weld ffilm arswyd Gwledd / The Feast yn 2022.

Sawrais nifer o ffilmiau yn hanner cynta’r flwyddyn, gan gynnwys dwy ffilm i serennu Carey Mulligan – sef drama hanesyddol The Dig (Netflix) gyda Ralph Fiennes, a’r ffilm brotest ymfflamychol Promising Young Woman (Amazon Prime).

Creodd Rosamund Pike hefyd argraff yn ffilm arswydus I Care A Lot (Amazon Prime) am ffurf cyfoes a chyfrwys o dwyll ariannol sydd ar gynnydd erbyn hyn. Dwlais ar nifer o’r ffilmiau i hawlio enwebiadau a gwobrau Oscar – Minari, Soul, The Trial of the Chicago Seven a My Octopus Teacher yn eu plith.

O ran perfformiadau, roedd Anthony Hopkins yn ysgubol yn The Father, gan bendant haeddu ei (ail) Oscar am yr Actor Gorau.

Roedd Rhys Ifans hefyd yn rhagorol fel y dihiryn Rasputin yn antur ysbïo The King’s Man; cynhyrchiad cwbl echrydus, ond ewch i weld Rhys am yr awr gyntaf, fel Rwsiad gor-rywiol sy’n casau Saeson â chas perffaith, ac sy’n llyfu pawb o’i gwmpas. ‘Wel… ag a liciwch fi’, yn wir!

Ond teg dweud bod fy rhestr 10 uchaf (a naddwyd o restr gychwynnol o 20) yn llawn ffilmiau o’r chwe mis dwethaf. Dwn i ddim sut ydych chi’n teimlo ar hyn o bryd, ond mae pwer y cof yn pylu mewn pandemig di-ddiwedd, o’m profiad i.

Cyn datgelu’r deg uchaf, gair olaf i ddau dwrci; i bawb oedd yn disgwyl dilyniant o’r un safon â Twin Town, roedd La Cha Cha yn ‘brosiect pandemig’ aflwyddiannus, a dweud y lleiaf. Ond ag ystyried i gyffuriau chwarae rhan yn y stori honco, efallai mai gwell fyddai gwerthfawrogi’r ffilm dan ddylanwad madarch hudol wedi’u ffrio. A serch yr hype a’r cast sylweddol (a phresenoldeb Adam Driver, sy’n ffefryn mawr gen i) roedd saga glitzy The House of Gucci yn annisgwyl o ddiflas ac (fel nifer o ffilmiau cyfoes) yn llawer rhy hir.

1. The Power of the Dog (Netflix)

Ffilm Western wefreiddiol gan y gyfarwyddwraig Jane Campion; mae Benedict Cumberbatch ar dân fel cowboi cynddeiriog mewn thriller gafaelgar o fri. Gwyliwch hon cyn y gwobrau Oscars!

2. C’mon C’mon (Sinema)

Joaquin Phoenix yn hyfryd fel ewythr cariadus mewn ffilm ddu a gwyn hudolus; dathliad gwahanol iawn i’r arfer o deulu cyfoes.

3. Another Round (Amazon Prime)

Astudiaeth o gyfeillgarwch ac effaith alcohol ar gymdeithas, mewn comedi tywyll gan Thomas Vintenberg o Ddenmarc. Perfformiad eofn a didwyll gan Mads Mikkelsen mewn ffilm sydd, yn sylfaenol, yn dathlu bywyd.

4. Respect (Amazon Prime)

Teyrnged trydanol ac ymdriniaeth ysbrydol o hanes y gantores Aretha Franklin. Ar adegau, mae’r seren Jennifer Hudson yn rhagori ar lais y ‘Queen of Soul’ ei hun; fel ddywedodd y Diva cyn iddi hi farw – ‘she’ll win an Oscar for portraying me’. Cawn weld!

5. No Time To Die (Sky Movies, Amazon Prime)

Ffarwel a hanner gan Daniel Craig – dagrau annisgwyl o’r dechrau i’r diwedd. Mewn un gair? Bondigedig!

6. The Last Duel (Amazon Prime)

Ffilm orau Ridley Scott eleni (cymaint gwell na House of Gucci). Cynhyrchaid hynod amserol, er wedi’i osod yn yr Oesoedd Canol – drama oesol am driongl serch gwenwynig. Mae Jodie Comer yn dwyn y ffilm dan drwynau’r sêr gwrywaidd, Matt Damon ac Adam Driver.

7. Summer of Soul (… or When the Revolution Could Not Be Televised) (Apple TV)

Dathliad o rym cerddoriaeth wrth annog chwyldro ac uno cymdeithas. Dyma drysor o ffilm ddogfen am ŵyl gwahanol i Woodstock a gynhaliwyd yn Efrog Newydd 1969. Perfformiadau pwerus, archif anhygoel a chyfweliadau grymus – cwbl amhosib ei wylio heb ddawnsio yn eich sedd.

8. Nomadland (Disney Plus)

Ffilm eithriadol o hardd a thrist a hapus, sy’n dangos y ddynoliaeth ar ei orau mewn amgylchiadau eithriadol. Tirluniau ysgubol, straeon hynod bersonol, a pherfformiad ffantastig a naturiolaidd gan Frances McDormand. Dyma berl o ffilm delynegol gan Cloe Zhao.

9. Palm Springs (Amazon Prime)

Teyrnged ffres a ffraeth i glasur o rom-com; un o berlau mwyaf annisgwyl Amazon Prime. Mae’r cemeg rhwng Andy Samberg a Cristin Milioti yn tasgu oddi ar y sgrîn, a mond calon o garreg fyddai’n digio at y defnydd o Cloudbursting gan Kate Bush.

10. West Side Story (Sinema)

Addasiad campus Steven Spielberg o un o glasuron yr Ugeinfed Ganrif. Mae’r cast cyfan yn rhagorol, y coreograffi’n gyhyrog, fel gornes baffio llawn chwys a hormonau. Mae’r anthemau eiconig yn eich cludo nol i’r eiliad o syrthio dros eich pen a’ch clustiau mewn cariad.

Teledu

Beth wnaen ni gyd heb gyfresi teledu bocs-set i loddesta arnynt yn awchus ar hyd y pandemig? Gormod o bwdin dagith hi mae nhw’n dweud wrtha i, ond i nifer (gan gynnwys y rheiny sy’n dal i hunan-ynysu gyda Covid 19) bu’r cyfrwng hwn wir yn achubiaeth pur.

Mewn cyfnod mor dyngedfennol, mae na rywbeth hynod bersonol am argymhellion gaiff eu rhannu ag eraill, fel prescripsiwn gan feddyg, ar y cyfryngau cymdeithasol. Digon gwir, mae ambell gyfres fel bwydlen flasu 20 cwrs mewn bwyty safon seren Michelin. Ond weithie, ry’ chi mond eisie brathiad, neu switsen, gwerth llai na hanner awr o hiwmor, yn gysur cyfarwydd, neu hen ffefryn, ar derfyn ddydd.

Dwi ddim am restru campweithiau oes aur ‘prestige tv’ yr 20 mlynedd dwetha, nag ail-ymweld â’r cyfesi hynny wnaeth fy niddanu yn 2020 (helo Normal People, Devs a Tiger King i enwi ond tri) ; digon yw dethol deg uchaf eleni (wnaeth fy mhlesio i yn bersonol). Oes, mae rhai o’ch hoff gyfresi chi yn gwbl absennol. #sorrynotsorry . Mae na reswm hefyd paham nad yw cyfresi fel Line of Duty nac Yr Amgueddfa yn bresennol ar y rhestr derfynnol: wedi wythnosau o fuddsoddi mewn cymeriadau a straeon gafaelgar, ces fy siomi gan benodau olaf siomedig, gwaetha’r modd.

Garantîd gaiff y rhestr (gronolegol) hon ei beirniadu yn fwy na’r un. Bring it on! Dwi wir yn croesawu pob tip ac argymhelliad. A plis dywedwch wrtha i os yw Squid Game wir werth yr heip. A beth am Emily in Paris a Ted Lassoo? Mae na aeaf hir o’n blaenau… cyfeiriwch eich arsylwadau at @lowrihafcooke ar Twitter neu Instagram os gwelwch yn dda!

1. Hjem til jul / Home for Christmas (Netflix)

Unwaith eto, i gadarnhau; rhestr gronolegol yw hon, a dwi wir yn cofio, union flwyddyn yn ôl, ymgolli mewn cwrlid o gysur yn y rom-com Norwyaidd disglair hwn. Mae’n dilyn Johanne (Ida Elise Broch) ar bererindod aps detio cyn holi ‘tybed a ydw i eisioes yn hapus?’ iddi’i hun . Hoffus a hwyliog, difyr a direidus, dyma’r antidot perffaith i blŵs y pandemig ganol gaeaf.

2. The Serpent (BBC iPlayer)

Wedi i mi brofi’r bennod gyntaf, do’n i ddim yn siwr os oeddwn i am barhau i wylio’r gyfres gyfan, mor anhygoel o atgas oedd y dihiryn go-iawn, y llofrudd lluosog Charles Sobhraj (Tahar Rahim). Ond dyfalbarhau a wnes, gan ddymuno llwyddiant i’r heddwas diniwed o’r Iseldiroedd wrth iddo geisio gael gafael ar y sarff gwenwynig, a fu’n gyfrifol am lofruddiaeth cynifer o bobol ifanc ar Hippie Trail Dwyrain Pell y 1970au. Un o’r cyfresi trosedd hynny i’ch gadael yn gegrwth.

3. The Pembrokeshire Murders (ITV)

A sôn am gyfres trosedd i’ch gadael yn gegrwth – roedd hon yn gyfres orchestol wedi’i gosod yng Nghymru, a ddangoswyd ar ‘primetime’ ITV ganol mis Ionawr. Roedd Luke Evans yn ardderchog – a’r cast cyfan o Gymry o’i gwmpas – fel y ditectif Steve Wilkins a lwyddodd i ddatrys llofruddiaeth hanesyddol ar Lwybr Arfordirol Sir Benfro gan John Cooper (Keith Allen, dychrynllyd o dda). Llygaid craff am fanylion a chyfarwyddo gwych gan Marc Evans o Gaerdydd. Un o’r ychydig gyfresi rhwydwaith am Gymru erioed i chwifio’r faner gyda pharch a bri.

4. The Queen’s Gambit (Netflix)

Roedd Anya Taylor-Joy yn hypnotig yn hwn, fel plentyn amddifad sy’n datblygu’n atnrylith gwyddbwyll yn America’r 1950au, adeg y Rhyfel Oer gyda Rwsia. Cyfres hefyd wnaeth ddathlu gorchestion merch eofn ym myd dynion tra’n bod yn gwbl driw iddi hi ei hun, a’i synnwyr ffasiwn!

5. Mare of Eastown (Sky Atlantic)

Ers rhai blynyddoedd bellach, mae’n ffasiwn ymysg sêr mawr y byd ffilmiau i droi at faes teledu am gymeriadau a straeon aml-ddeimensiynol. Tro Kate Winslet oedd hi felly i geisio argyhoeddi, a rhaid dweud iddi lwyddo’n aruthrol i’n darbwyllo fel ditectif Mare Sheehan, mewn stori gignoeth am lofruddiaeth erchyll ar gyrion dinas Philadelphia. Dyma gyfres i ffans llenyddiaeth trosedd a chosb tebyg i Dennis Lehane a George Pelacanos. Ardderchog.

6. Nine Perfect Strangers (Amazon Prime)

Dyma’r ail gyfres fawr eleni i serennu Luke Evans o Bontypŵl , mewn addasiad ffantastig o un o nofelau Liane Moriarty o Awstralia (awdures glyfar a chomig sydd wedi fy niddanu ar hyd y pandemig). Fiw i mi ddatgelu gormod, ond mae e’n chwarae un o ‘gelifion/ cwsmeriaid’ spa ecsgliwsif yn Oz, dan arweiniad Rwsiad enigmataidd o’r enw Masha (Nicole Kidman), sydd â’i bryd ar wthio ffiniau ym maes iechyd meddwl. Mae’r cast ensemble cyfan yn ffantastic (helo Michael Shannon, Bobby Cannavale a Melissa McCarthy yn arbennig), mewn dirgelwch sydd ar y naill llaw yn cynnig sylwebaeth graff ar gymdeithas ond sydd hefyd yn gomig ac yn codi’r galon.

7. The White Lotus (Sky Atlantic)

Mae’n digwydd o bryd i’w gilydd, dwy gyfres anhygoel o debyg – a thra roedd Nine Perfect Strangers yn denu nifer i Amazon Prime, roedd The White Lotus gan Mike White yn diddanu ar Sky Atlantic. Gosodwyd hon hefyd mewn gwesty ecsgliwsif mewn cyrchfan egsotig (un o ynysoedd Hawaii tro hwn), gan ddelio â chyfrinachau a chelwyddau y cwsmeriaid cyfoethog a’r gweithwyr lleol, ond gyda thro yn y gynffon (neu’r siwtces yn yr achos hwn) oedd yn RHAID ei brofi drosoch chi eich hun. Cast hynod gryf arall dan arweiniad Murray Bartlett, fel Armond – Basil Fawlty i’r Unfed Ganrif ar Hugain.

8. The Morning Show ( Apple TV)

Cyfres glossy a glitzy ond â sylwedd yn perthyn iddi, dan arweiniad yr uwch-gynhyrchwyr a sêr mawr y sioe, Jennifer Aniston a Reese Witherspoon. Wedi cyfres gyntaf afaelgar yn ymateb i ddatgeliadau #MeToo ar raglen newyddion ac adloniant boreol, dychwelodd Aniston i’w rhan fel prif-gyflwynydd hynod hunanol, yn donic perffaith i’w delwedd fel ‘merch drws nesa’. Doedd yr ail gyfres ddim cweit cystal â’r deg pennod cyntaf, ond yn wahanol i nifer fawr o gyfresi cyfoes eraill ymgorfforwyd y pandemig fel rhan o naratif ddrama.

9. Succession (Sky Atlantic)

Beth arall sydd i ddweud am gyfres Jesse Armstrong o Groesoswallt? Dyma’r nesaf peth at Shakespeare mewn sgôp ers cyfres Maffia y Sopranos. Ry chi’n ffeindio’ch hun yn casau pob un o gymeriadau hunanol y saga deuluol. Ac eto, mae’n anodd peidio edmygu ffordd y dihirod i gyd o oroesi pob argyfwng, o bennod i bennod. Ar dîm pwy ydych chi? Y penteulu narsisistaidd, Logan Roy? Neu beth am ei blant, Kendall, Roman a Shiv (wps, heb anghofio Connor) … neu beth am yr hangers-on, ‘Gregg the egg’ neu Tom? Ni welais i dro’r diweddglo yn cyrraedd o gwbl, nes y’i datgelwyd yn ddeheuig, megis symffoni. Cyfres gampus i psychos pur.

10. And Just Like That (Sky Comedy)

‘Haters gonna hate’, chwedl Taylor Swift, ond dwi wrth fy modd i weld y merched yn ôl. Gwir, nes i ddim gwerthfawrogi yr ymdriniaeth o gymeriadau Samantha na Stanford, ac mae’n wir bod na ddigon o elfennau i grinjio drostynt – o anghysondebau rhai o’r cymeriadau (helo MIRANDA?!) a’u hymdrechion arteithiol i fod yn ‘woke’. Ond wyddoch chi beth, gymera i lond trol o nostalgia’r Nawdegau, a chypyrddau di-ri o ffasiwn a golygfeydd o strydoedd Efrog Newydd – wedi’r cyfan RY NI AR GANOL PANDEMIC! Er yn seiliedig ar golofn go-iawn, doedd SATC erioed yn gyfres ffeithiol, roedd e’n ddathliad o’r chwaerolkaeth, ond yn bennaf roedd e’n ffantasi pur. Allai’m meddwl am yr un gyfres gwrywaidd sy di derbyn gronnyn o’r un feirniadaeth… mae’n wych i weld cast o ferched yn eu 50au a’u 60au yn dal i wneud camgymeriadau (ac yn dysgu o’u camweddau), yn delio â newidiadau, a chamau nesaf eu bywydau, yn berffaith o amherffaith o hyd.

Cyhoeddwyd yn Adolygiad, Ffilm, Teledu, Uncategorized | Rhowch sylw

Gwobrau Ffilm y Cookies 2020

Bu 2020 yn flwyddyn eithriadol ym mhob agwedd o fywyd, gan gynnwys y celfyddydau. Wnai ddim athronyddu yma – llenwais 3 dyddiadur eleni i gymharu â’r 1 llyfr lloffion arferol, a gewch chi dalu am fynediad i’r perlau hynny.

Fel y gwelwch o gynnwys y blog, sgwennais ryseitiau di-ri eleni a chael hwyl ar y coginio a’r cwarantinis ar Instagram. Ond parhau yn ddi-dor wnaeth fy adolygiadau ffilm eleni, wrth ddarlledu o fy soffa, ar radio a theledu. Dwi’n dal i ryfeddu at hynny a dweud y gwir, ac yn ddiolchgar dros ben.

Oherwydd tra y caewyd y sinemau yn ail hanner mis Mawrth, parhau wnaeth y galw aruthrol am gynhrchiadau ffilm i gynnig adloniant, digrifwch, dihangfa a chysur mewn cyfnod o bryder mawr. Trwy gyfuniad o ragluniaeth ac amseru, roedd y gwasanaethau ffrydio yn arod amdanom, gyda Netflix yn arbennig yn tra-arglwyddiaethu’r farchnad, ynghyd â Disney+ Apple TV ac Amazon Prime i enwi dim ond rhai.

Ond yn gyffredinol, ystyriwyd 2020 yn ‘write-off’ gan y diwydiant; yn 2019, gwnaeth y sinema ym Mhrydain elw o £1.25 biliwn, ond dim ond elw o £360 miliwn a grewyd yn 2020.

Yng Nghymru, caewyd y sinemau yn ystod mis Mawrth, gan ail-agor erbyn canol mis Awst. Ond erbyn mis Medi – oherwydd diffyg niferoedd y ffilmiau mawrion – penderfynodd cadwyn fawr Cineworld gau tan 2021, gan ddylanwadu ar gwtogi amserlenni Odeon a Vue. Erbyn diwedd y flwyddyn yng Nghymru, dim ond y sinemau bach anibynnol oedd ar agor, yn ddibynnol ar glasuron a llond llaw yn unig o ffilmiau newydd. Yna caewyd y rheiny hefyd o Ragfyr y 6ed ymlaen, mewn ymateb i’r canllawiau Covid-19 diweddaraf.

Ond un o straeon mwya’r flwyddyn ym myd y sinema oedd penderfyniad Warner Bros i fwrw mlaen gyda rhyddhau ffilm wyddonias fawr Christopher Nolan, Tenet, ganol mis Awst, a hynny am amryw resymau; yn bennaf i adennill rhywfaint o’r gyllideb anferthol, i roi hwb i’r diwydiant a dangos arweiniad. Ond roedd hefed yn arbrawf, i ddarganfod faint o awch oedd ymysg y gynulleidfa i weld blocbyster ar y sgrin fawr mewn pandemig.

Do, fe gymerwyd gambl, ond bu’n fethiant yn ariannol, ac er yn weledol anhygoel, roedd y stori’n rhy gymhleth o lawer (y peth olaf roedd unrhywun ei angen mewn blwyddyn mor ddyrys). Gwelwyd hefyd ambell ffilm arall – Unhinged gyda Russell Crowe, a Saint Maud gyda’r Gymraes Morfydd Clarke. Ond er i mi a nifer o bobol eraill werthfawrgi ymdrechion sinemau i gynnig gofod saff a glan i gynulleidfaoedd, roedd y stiwdios mawrion yn gyndyn iawn o ryddhau eu ffimiau mawrion mewn sinemau gweigion.

Ymhsg y lansiadau ffilm a ohiriwyd (fwy nag unwaith yn achos rhai) oedd y dilyniant iasoer A Quiet Place II, cynhyrchiad Marvel Black Widow, ffilm wyddonias Dune, ac er mawr embaras yn dilyn y broliant mawr, y 25ain ffilm James Bond, No Time To Die. Yn wir, serch eironi’r teitl, teg yw dweud mai’r eicon o Sais a roddodd y kibosh ar obeithion y sinema yn 2020.

Ond serch hyn oll, gwelais 50 o ffilmiau ‘newydd’ eleni… 25 ohonynt yn y sinema, a 25 ar-lein. Ac o ran y detholiad ar-lein , gwelwyd cymysgedd o ran safon – fel yn y sinema, mewn blwyddyn arferol, a dweud y gwir. Ond yn dilyn penderfyniad Disney + i ryddhau Mulan ar-lein yn unig, agorodd hynny’r llifddorau i stiwdios eraill wneud yr un fath, gan olygu bydd pob ffilm Warner Brothers yn 2021 (yn America o leiaf) yn cael eu rhyddhau ar wasanaeth HBO Max ar yr un diwrnod ag yn yn y sinema. Afraid dweud, mae goblygiadau hynny yn anferthol i’r sinemau…

O’m rhan i, des i arfer efo’r arlwy ar-lein, sy’n debygol o barhau, i raddau helaeth, o hyn ymlaen. Ond roedd hi’n wych cael dychwelyd i’r sinema 7 gwaith o fis Awst ymlaen, gan gynnwys un trip bach olaf, annisgwyl a gwefreiddiol ddiwedd y flwyddyn, fel y gwelwch yn y man. Oedd, roedd yn brofiad rhyfedd, ond braf a glan a saff, ac yn fwy na dim roedd yn gadarnhad nad oes modd cymharu’r ‘profiad’ o wefr y sinema gyda rhyw hanner gwylio ffilm diddrwg-didda ar-lein. Yn syml felly, pan fydd y sinemau ar agor, ewch yn llu heb bryderu – bydd yn brofiad arbennig, i’w sawru.

Felly nid y ‘deg uchaf’ arferol sydd gen i ar eich cyfer, yn achos gwobrau Cookies eleni. Dyma restr o’r holl ffilmiau a welais yn 2020 – ac fy marn cyffredinol am bob un. Gan obeithio y bydd fy adolygiadau o help i chi benderfynu pa ffilmie yr hoffech eu gwylio yn ystod y clo mawr diweddara – dwi’n gwbod y bu gwylio pob un (wel, bron) o help yn 2020!

1. Little Women (U)

Dwi’n gwbod i mi farnu hon yn ffilm orau 2019, ond yn dechnegol fe wyliais y ffilm ar Ionawr y 1af 2020, felly ‘ya boo sucks’ i’r haters. Mae’n addasiad ysgubol o nofel glasurol Louisa May Alcott, gyda chast ensemble bendigedig. Mae Soirse Ronan fel arian byw wrth bortreadu’r arwres eofn Jo March, ac mae cyfarwyddo Greta Gerwig yn ysbrydoledig. Rhybudd; nes i feichio crio tra’n gwylio hwn tro cyntaf, gan olygu i’m chwaer feddwl mod i di colli’r plot yn llwyr. Dwi di gwylio’r ffilm deirgwaith erbyn hyn (ddwywaith yn y sinema!), clasur o addasiad, ar gyfer yr oesoedd.

2. The Gentlemen (18)

Guy Ritchie yma yn dychwelyd i’w wreiddiau ‘Lock Stock and Smoking Barrlels’ a hynny yn bur lwyddiannus, a pherfformiadau gwyliadwy iawn gan Hugh Grant, o bawb, a Matthew McConaughey. Mae’r iaith yn aflan, fel y byddech yn disgwyl mewn ffilm gangster gan Guy Ritchie, felly pwyll pia hi wrth gyd-wylio ag aelodau bregus y teulu!

3. Bombshell (15)

Ro’n i newydd ddarllen Catch and Kill gan Ronan Farrow yn geg-agored, am holl droseddau Harvey Weinstein, pan welais i’r ddrama berthnasol hon sy’n cynnig platfform wych i dair actores, Charlize Theron, Nicole Kidman, a Margot Robbie. Mae’r dair yn chwarae newyddiadurwragedd yng nghorfforaeth Rupert Murdoch, Fox News, sy’n dioddef dan y bos llyffantaidd, Roger Ailes (John Lithgow, sy’n erchyll o dda), ac yn uno i ddial arno. Yn achos Charlize Theron, dyma un o’i pherfformiadau rhyfeddol – diolch i’r gwaith colur a gwallt, a sicrhaodd Oscars i Kazu Hiro, Vivian Baker ac Anne Morgan – mae hi’n eich darlbwyllo chi’n llwyr mai hi yw’r seren go-iawn Megyn Kelly.

4. Jo Jo Rabbit (12)

Ffilm ryfel ryfeddol, gan y sgwennwr-gyfarwyddwr Taika Waititi o Seland Newydd, sy’n cyflwyno’r Ail Ryfel Byd o berspectif plentyn yn Awstria, Jojo Betzler (Roman Griffin Davis) sy’n llawn chwilfrydedd, dychymyg a direidi. Mae’r cast cyfan yn ysblennydd, gan gynnwys Sam Rockwell a Scarlett Johanssen, a hyd yn oed Taika Waititi ei hun fel Adolf Hitler (dim sbwylwyr gen i yma, jyst coeliwch chi fi – mae’n gweithio). Caiff ddifrifoldeb yr hanes ei danlinellu gan yr elfennau digrif; mae hwn yn ffilm ryfel angenrheidiol i bobol ifanc, ynghyd â’u rhieni. Trysor pur annisgwyl.

5. Richard Jewell (15)

Stori wych a ffilm wyliadwy dros ben gan y seren-gyfarwyddwr Clint Eastwood, am hanes dyn cyffredin sy’n stopio trychineb rhag digwydd cyn cael ei gyhuddo ar gam o fod yn derfysgwr. Perfformiad ffantastig gan Paul Walter Hauser sy’n chwarae’r swyddog diogelwch dros ei bwysau sy’n darganfod bom yn ystod gemau Olymapidd Atlanta 1996, ond sy’n ffeindio ei hun yn byw hunllef Kafka-aidd oherwydd llygredd yr FBI. Mae Kathy Bates hefyd yn wych fel ei fam, a ceir cadarnhad pellach mai Sam Rockwell yw un o fy hoff actorion (gwyliwch Moon, Choke Galaxy Quest a Jojo Rabbit i’w weld ar ei orau), wrth iddo bortreadu’r cyfreithiwr cyffredin sy’n ymgyrchuachub ei gam.

6. 1917 (15)

Y nesaf peth at brofiad theatr ymdrochol yn y sinema – ro’n i ar flaen fy sedd, yn chwys i gyd, yn gwylio cyrch ‘amhosib’ y ddau filwr arwrol am ddwy awr gyfan. Mae cyfarwyddo Sam Mendes, a gwaith camera Roger Deakins, yn ysgubol – dyma oedd ‘profiad’ sinematig y flwyddyn.

7. The Two Popes (12)

Drama ddyniaethol gan wasanaeth ffrydio Netflix am ddau Bab gwrthgyferbyniol, a pherfformiadau rhyfeddol gan ddau Gymro. Bu’n bleser gwylio Anthony Hopkins a Jonathan Pryce yn cyd-actio mewn ffilm sy’n codi’r llen ar fyd cuddiedig a phwerus y Ddinas Fatican.

8. A Beautiful Day in the Neighborhood (PG)

Er mai Tom Hanks sy’n serennu fel Mr Rogers (Geoffrey o Rainbow, neu Martin Geraint yr Unol Daleithiau), stori cymeriad Mattthew Rhys yw’r ffilm yn y bôn, sef newyddiadurwr gyda chylchgrawn Esquire o’r enw Lloyd Vogel. Ac am berfformiad hyfryd ganddo mewn drama fach annwyl am fywyd teulu a maddeuant, sy’n ein hatgoffa ni mai plant ydyn ni gyd o hyd.

9. Uncut Gems (15)

Doeddwn i erioed wedi ystyried llwyddiant Adam Sandler yn unrhywbeth ond dirgelwch cyn gwylio’r ffilm Netflix hon yng nghanolfan Chapter. Mae’r diddanwr yn cynnig perfformiad ei yrfa fe yr hustler pathetig Howard Ratner, mewn ras yn erbyn y cloc i ad-dalu dyled yn Diamond District ynys Manhattan. Sicrhewch fod ganddoch botel o Stop ’n Grow wrth law wrth wylio hwn, neu bydd ewinedd eich bysedd yn shitrwns.

10. Parasite (15)

Syrpreis mwya’r flwyddyn: drama am deulu dosbarth gweithiol y Kims o Dde Korea sy’n cychwyn fel comedi dychanol sy’n troi’n raddol yn hunllef iasoer, cyn gorffen wrth dorri’ch calon . Roedd yn haeddu clod aruthrol yr Oscars eleni, diolch i gyfarwyddo cynnil Bong Joon-ho a gwaith actio ensemble ar ei orau.

11. Dolittle (PG)

Ddim cynddrwg â’r disgwyl a dweud y gwir! Sioe un-dyn i bob pwrpas i arddangos doniau Robert Downey Junior, wrth iddo gynnig fersiwn o’r milfeddyg sy’n gallu siarad ag anifeiliaid mewn acen Gymreig (ac er nad yw hwnnw’ n berffaith, mae ymhell o’ch taro’n erchyll) ar ffurf yr anarchydd o Gymro (a hen-hen ewyrth i mi, o Bontypridd) Dr William Price. Mae’n bosib mai dylanwad ei gyd-actor Michael Sheen sydd yn gyfrifol am hyn. Er, efallai byddai’n well ganddo anghofio’r CGI-fest hwn.

12. Mr Jones (15)

Ffilm fechan, ond stori werthfawr am arwr o Gymro; James Norton (dreamy Prince Andrei yn War & Peace) sy’n portreadu’r newyddiadurwr o Gymro (o’r Bari) Gareth Jones, a deithiodd i’r Undeb Sofietaidd i ddatguddio hil-laddiad yn Iwcrain yn ystod y 1930au. Unwaith eto, mae’r acen yn darbwyllo, ac mae’r thema yn un oesol, am frwydro yn erbyn awdurdod i ddatgelu’r gwir.

13. Greed (15)

Comedi dychanol am gymeriad sy’n seiliedig ar Syr Philip Green, a bortreadwyd yn effeithiol iawn gan Steve Coogan. Ffilm anwastad mewn gwironedd, sy’n cynnwys neges bwysig (er braidd yn bregethwrol yn y cyd-destun hwn) am anghyfiawnderau diwydiant di-enaid ffasiwn cyflym. Ond wrth edrych yn ôl ar y cynhhrchiad hwn, roedd nifer o’i themau yn rhagweld sgil-effeithiau argyfwng bydol Covid-19. Cyfraniad gwerthfawr, os nad yn gwbl lwyddiannus, gan y sgwennwr-gyfarwyddwr Michael Winterbottom.

14. The Personal History of David Copperfield (15)

Corwynt annisgwyl o gynhyrchiad hynod hoffus, diolch i benderfyniad Armando Ianucci i gastio’n ‘lliwddall’. Golygai hynny mai Dev Patel sy’n chwarae arwr clasurol Charles Dickens, ar y cyd â chast o wynebau mwy ‘adnabyddus’ (gwyn), mewn ffilm sy’n herio’ch disgwyliadau am beth yw ‘ffilm gyfnod’. A serch presenoldeb Tilda Swinton, Hugh Laurie ac eraill, y Gymraes Morfydd Clark sy’n dwyn y ffilm dan drwynau pawb mewn perfformiad dwbl fel Mam, a chariad, David Copperfield. Dyma ffilm sy’n gafael yn dynn yn eich calon, ac yn chwythu’ch pen, gan mor ddyfeisgar yw hi.

15. Emma (U)

Serch y ffaith nad oedd mor ddyfeisgar â’r addasiad Clueless gan Amy Heckerling, mae’r fersiwn hyfryd hwn o nofel boblogaidd Jane Austen yn eich hudo o’r cychwyn cyntaf. Os wnaethoch chi, fel fi, fwynhau drama gwyddbwyll The Queen’s Gambit ar Netflix eleni, dyma gyfle i wylio’r un actores, Ana Taylor-Joy, yn portreadu’r Emma ddireidus wrth iddi fela ym mywydau carwriaethol pawb o’i chwmpas, cyn dysgu gwers hynod werthfawr ei hun. Gwisgoedd to-die-for yn ogystal, er gwybz.

16. Dark Waters (12)

Os fwynheoch chi Erin Brokovich 20 mlynedd yn ôl, byddwch chi wrth eich bodd gyda’r ddrama ddirgelwch afaelgar hon sy’n datgelu’r tywyllwch wrth galon un o gorfforaethau mwya’r byd. Mark Ruffalo sy’n chwarae’r cyfreithiwr sy’n ymgyrchu ar ran cymuned dan warchae yn West Virginia yn erbyn cwmni DuPont, ac mae’r her sy’n gwynebu’i gymeriad yn aruthrol. Wnewch chi fyth wisgo leggings Lycra, na ffriô wyau â phadell Teflon ar ôl darganfod y cefndir a’r sgil-effeithiau dychrynllyd. Ffilm arswyd go-iawn gan Todd Haynes.

17. Onward (U)

Cartŵn Disney Pixar am ddau frawd sy’n galaru am eu tad mewn byd lle mae hud wedi hen fynd i angof. Chris Pratt a Tom Holland sy’n lleisio cymeriadau gwahanol iawn Ian a Barley. Mae’r ddau’n byw mewn dinas llawn cymeriadau hud a lledrith sydd wedi’n llethu gan dechnoleg cyfoes. Aiff y ddau ar antur chwedlonol i wneud yn iawn am gam o’r gorffennol, ac i ddysgu dweud ffarwel cyn symud ‘ymlaen’. Er fod Onward ymhell o fod yn glasur, ceir ynddi rannau dirdynnol. Ond mae ffilmiau fel Up, Inside Out a Frozen yn rhagori arni, yn fy marn i.

18. The True History of the Kelly Gang (18)

Dyma un o’r ffilmiau mwyaf cignoeth i mi eu gwylio eleni – gwledd i’r llygaid, a sôn am berfformiad trydanol gan George Mackay (seren 1917), fel arwr chwedlonol cefn gwlad Awstralia, Ned Kelly. Campwaith celfyddydol sy’n deffro pob synnwyr, gan y cyfarwyddwr Justin Kurtzel – cofiwch yr enw. Nid ffilm bopcorn, ond drama narcotig o hypnotig.

19. Misbehaviour (12)

Rhys Ifans yw’r prif reswm i wylio ffilm Keira Knightley, sy’n rhannu hanes na wyddwn i ddim amdano cyn ei gwylio. Mae’r comedi dychanol yn dathlu digwyddiadau anarchaidd adeg cystadleuaeth Miss World 1970, wrth i fudiad rhyddid merched herio agweddau hen ffasiwn cymdeithas, gan gynnwys sylfaenydd y gystadleuaeth, a bortreadir gan Rhys Ifans. Mewn rhan fechan mae’r Cymro yn croesi Peter Cook â Basil Fawlty – ac fel yn achos Spike yn Notting Hill, mae’n dwyn y sioe. Yn anffodus, rhyddhawyd y ffilm hon yn ystod wythnos cyhoeddiad y clo mawr, felly fe gollodd hi’r cyfle i ddenu cynulleidfa sinema, a dyma’r ffilm gyntaf i mi ei gwylio ar-lein eleni. Rhowch gyfle iddi – comedi dadlennol, hawdd i’w gwylio.

20. Trolls: World Tour (U)

Y dilyniant i’r hit anfethol i blant o 2016 efo lleisiau Anna Kendrick a Justin Timberlake unwaith eto yn llawn heliwm. Trwy gyfrwng cerddoriaeth y tro hwn, darganfuodd y corrachod amryliw am lwythi gwahanol o trolls, a bod dathlu amrywiaeth yn hollbwysig er mwyn cynnal cydbwysedd. Neges hynod ragweledol, ag ystyried fod chwyldro Black Lives Matter ar y gorwel, ond penderfyniad chwyldroadol hefyd gan stiwdios Universal – dyma oedd ffilm ‘fawr’ gynta’r flwyddyn i gael ei rhyddhau ar lein, a hynny ar wasanaerh tansgrifio Amazon Prime. Safon y ffilm? Roedd plant bychain wrth eu boddau. Say no more!

21. The Invisible Man (18)

Ffilm arswyd effeithiol â thro annisgwyl yn y gynffon; addasiad cyfoes o chwedl glasurol HG Wells o 1897. Yn hytrach na stori wyddonias schlocky, cyflwynwyd astudiaeth glostraffobig o achos cyfoes o ‘gaslighting’ wrth i ferch ddeallus (Elisabeth Moss, Mad Men a The Handmaid’s Tale) fethu a darbwyllo’i chymdeithas o’i chwmpas fod ei chariad breintiedig, carismataidd, yn ddihiryn llwyr. Ag ystyried i’r Unol Daleithiau a Phrydain ‘Fawr’ gael eu gaslightio gan Donald Trump a Boris Johnson eleni, dyma addasiad amserol, ac unwaith eto, yn lwyddiant cynnar yn ystod yr argyfwng i Amazon Prime.

22. Birds of Prey (and the Fantabulous Emancipation of One Harley Quinn) (18)

Woah!!! Roedd Margot Robbie yn anhygoel fel yr wrth-arwres Harley Quinn yn nilyniant ffantastig o ffeminyddol Suicide Squad. Cyfranodd Robbie galon a chutzpah i’w gwrth-arwres cartwnaidd, gan ffurfio cymdeithas cadarn o’i chwmpas. Cyfarwyddo clyfar, llawn asbri gan Cathy Yan.

23. Mulan (12)

Cyfarwyddrwaig arall oedd yn gyfrifol am epig mwyaf stiwdios Disney eleni, a teg yw dweud i Niki Caro greu argraff enfawr gyda’i haddasiad go-iawn hithau o gartŵn Mulan. Mae’r chwedl Tseineaidd am ferch ym myd dynion yn orlawn o negeseuon cyfoes, gyda Liu Yifei yn argyhoeddi’n llwyr fel y milwr dan gochl, a’r set-pieces llawn cyffro yn creu argraff fawr . Yr unig wendid yn fy marn i oedd na chawsom werthfawrogi’r weledigaeth epig yn ddigonol; dyma ffilm a gynhyrchwyd yn benodol ar gyfer y sgrin fawr, a hoffwn fod wedi gallu sawru’r wefr honno’n fawr.

24. Eurovision Song Contest: The Story of Fire Saga (12)

OMB. Nes i’m disgwyl cael fy nghyffwrdd i’r byw eleni gan gomedi am gystadleuaeth cawslyd yr Eurovision gan y diddanwr Will Ferrell. Ond dyna ni, 2020: ‘it is what it is’. Diolch i sgript difyr a pherfformiadau didwyll gan Ferrell a Rachel McAdams, cyflwynwyd stori ‘underdog’ berffaith oedd yn gweddu â natur y gystadleuaeth. Ac wrth ganoli’r stori fach syml yng Ngwlad yr Iâ llwyddwyd i barchu diwylliant leiafrifol, a dathlu’r cysylltiad o falchder cenedlaethol mewn blwyddyn lle ailddarganfuon ni gyd rinweddau ein milltir sgwâr. Dwi’n eich herio chi gyd i wylio’r arwyddgan ‘Husavik: My Hometown’ ar Youtube heb lenwi’ch llygaid â dagrau o lawenydd a’ch calonau â chariad pur. Mwynhewch! 😘

25. Becoming (PG)

Llwyddiant anferthol arall i Netflix – dyma’r ffilm ddogfen a ddilynodd Michelle Obama wrth iddi hyrwyddo ei blocbyster o hunan-gofiant, Becoming yn 2019. Wrth wylio trychineb Covid-19 yr UDA a thristhau wrth arweinyddiaeth dieflig Donald Trump, roedd cael ein hatgoffa o urddas yr Obamas fel canfod llyn yn yr anialwch. Roedd stori Michelle yn agoriad llygaid, ac ar adegau yn cyffwrdd i’r byw. Ond doedd dim dianc rhag y ffaith mai’r peiriant PR oedd ar waith – doedd dim lle yn y ffilm am eiliad o feirniadaeth. Siomedig iawn. Rhaid cael cydbwysedd er mwyn ennyn hygrededd.

26. Rockfield: The Studio on the Farm (15)

Ydw i wedi clywed am hanes Rockfield o’r blaen? Wel do, mae’r stiwdios yn Sir Fynwy yn chwedlonol. A diolch i archif BBC Cymru a Harlech TV – heb sôn am natur hawddgar a ffilmiadwy y perchnogion – prin fod na stiwdio bach cefn-gwlad yn unman arall yn y byd wedi cael cymaint o sylw dros y blynyddoedd. Ond fel yn achos unrhyw ffilm ddogfen am Fleetwood Mac, y Beatles, neu sîn Laurel Canyon ar Sky Arts / BBC 4, bydden i’n hapus i ail-wylio’r ‘stori’ hon hyd syrffed. Mae gen i, fel cymaint o fanatics eraill, archwaeth enfawr am ychwanegiad newydd i ganon nostalgaidd byd cerddoriaeth boblogaidd yr 20fed Ganrif. Diolch i elfennau gwreiddiol o animeiddio ac ‘access’ hael i enwau bychain a mawrion, cynigodd y gyfarwyddwraig Hannah Berryman dro cartrefol ar y stiwdio adnabyddus, a lwyddodd i bwysleisio taw’r elfen honno – a’r ysbryd o ryddid creadigol – a arweiniodd at ddegau o anthemau chwedlonol. Hyfryd!

27. The Old Guard (15)

Hmmm… un o ffilmiau newydd Netflix eleni, gyda Charlize Theron yn chwarae arwres cyn-hanesyddol, yn arwain tîm o anfeidrolion cudd i achub y byd mewn cyfres o leoliadau rhyngwladol. Cyfunwch Highlander a Bond, ond ddim cystal ag Atomic Blonde. Atomic Bland? Ffilm ddiddrwg-didda i wylio ar y soffa.

28. Extraction (18)

Ffilm ‘gyffro’ ryngwladol arall ag enw mawr yn chwarae’r prif gymeriad; Chris Hemsworth (Thor) yw’r milwr masnachol Tyler Rake, sy’n achub bachgen wedi’i herwgipio mewn ras yn erbyn amser yn ninas Dhaka, Bangladesh. Serch gwleidyddiaeth doji’r plot, roedd hon yn ffilm Netflix annisgwyl o gyffrous – dwi’n cofio meddwl wrth wylio adre y baswn i di mwynhau gwylio’r stori lawn tensiwn â bocs o bopcorn yn y sinema.

29. Fatal Affair (12)

Woooo boy… roedd hwn yn gyfnod crafu gwaelod y gasgen braidd wrth chwilota am ffilm newydd yn ystod mis Gorffennaf. Ailbobiad cawslyd Netflix o Fatal Attraction, â thro cyfoes yn y gynffon (sbwyliwr; Omar Epps sy’n chwarae rhan Glenn Close tro ma).

30. Unhinged (18)

Pan ail-agorodd un sinema yng Nghymru ym mis Gorffennaf, es i yno (i Showcase, Nantgarw) fel cath i gythraul. Roedd y profiad o fyned y sinema yn ddigon rhyfedd ynddo’i hun, a dim ond fi a theulu lleol oedd yn y gynulleidfa. Efallai mewn cyfnod mwy diniwed bydde’r ffilm anibynnol hon wedi cael ei rhyddhau heb lawer o ffwdan ‘yn syth i fideo’. Ond diolch i bresenoldeb Russell Crowe, mewn thriller road-rage llawn tensiwn, roedd Unhinged jyst y peth i gynnig gwefr i’r synhwyrau, a bach o gatharsis – a chwistrelliad o adrenalin – ar ganol pandemig.

31. Love, Wedding, Repeat (15)

Rhaid bod gwres yr haf di helpu, achos nes i wir fwynhau’r rom-com priodasol hwn. Yn addasiad o ffilm Eidaleg, mae’n dilyn ymdrechion cymeriad Sam Claiflin( i ganfod cariad â merch ei freuddwydion. Os fwynheoch chi gymeriad Hugh Grant yn Four Weddings and a Funeral byddwch chi wrth eich bodd ag elfennau ffarsaidd y comedi hwn.

32. Spenser Confidential (18)

Iaics… sôn am ddyddiau cŵn yr haf, er – yn draddodiadol wrth gwrs – dyma gyfnod y ‘blocbysters’ mawreddog. Unwaith eto, roedd y dewis ar Netflix yn ddigon tlodaidd tra’n aros am Tenet yng nghanol mis Awst. Fel yn achos Adam Sandler, mae gan Mark Wahlberg gytundeb mawr gyda Netflix, ac mae hon yn argoeli i fod yn y ffilm gyntaf o gyfres am dditectif preifat yn Boston. Ges i siom ar yr ochr orau a dweud y gwir, ond teg dweud na fydden i wedi mentro i’w weld yn y sinema.

33. How to Build a Girl (15)

Ffilm fawr fydde wedi cael ‘splash’ a sylw mawr yn y sinema, ond a ryddhawyd yn syth i Amazon Prime. Addasiad llwyddiannus o hunangofiant (a maniffesto ffeminyddol) y newyddiadurwraig Caitlin Moran, gyda’r Los Angeleno Beanie Feldstein yn wych fel y ferch o Wolverhampton (mae ei hacen yn arbennig o dda). Mae’n ffilm annwyl a chwerwfelys am ferch ar ei phrifiant yn yr 80au-90au, ac mae’r castio’n arbennig o dda. Werth ei gwylio i fwynhau Paddy Considine fel tad cymeriad ‘Johanna’ ac Alfie Allen fel breuddwyd o Gymro.

34. Tenet (12)

Wel, serch yr holl hype a’r disgwyliadau mawrion, Tenet oedd fflop (anochel) y pandemig. Ond dwi’n wirioneddol falch i mi ei weld yn y sinema – roedd y stafell yn Cineworld mor llawn ag a ganiatawyd, i gyd-fynd â’r canllawiau Covid. Ac yn weledol, wel sôn am brofiad oedd yn wledd i’r llygaid, a diolch byth am gerddoriaeth Ludwig Göransson. Ond y stori… y stori… gyfeillion, y stori. Not a scooby. Dim blydi clem. Serch y cast sylweddol, dyma ffilm James Bond heb y gigls… a strwythur amhosib i’w ddisgrifio. Efallai y byddai’r plot cydamserol wedi gweithio mewn blwyddyn arferol, ond eleni, pan oedd ein pennau eisioes wedi’u chwalu’n rhacs, roedd angen gradd doethuriaeth mewn ffiseg damcaniaethol. Plis, read the room, Christopher Nolan!

35. Enola Holmes (12)

Dwi’n cofio joio’r ffilm antur hon i blant a phobol ifanc. Dyma dro cyfoes ar stori ddirgelwch Sherlock Holmes (Henry Cavill), wrth i’w chwaer fach Enola arwain y gad yn yr helfa am eu mam, sy’n ddafad golledig. Mae na gymaint mwy na hynny, gan gynnwys ymdrechion kick-ass y Suffragettes i sicrhau’r bleidlais i ferched. Creodd Millie Bobby Brown o Stranger Things argraff fawr fel arwres eofn – y cyntaf o gyfres o ffilmiau Enola, gobeithio, ar Netflix.

36. The Broken Hearts Gallery (15)

Nol a ni i wylio rom-com diddrwg-didda ar Amazon Prime, ac roedd hwn yn well na’r disgwyl a dweud y gwir. Diolch yn bennaf i’r actores o Awstralia Geraldine Viswanathan fel merch gyfoes yn Efrog Newydd. Y gimic yw tueddid ei chymeriad i gadw popeth gan ei chyn-gariadon a’i phenderfyniad i agor oriel sy’n troi’n fecca i bawb yn y ddinas sy’n dioddef o dor-calon enbyd. Yn naturiol, ceir cymhlethdodau carwriaethol pellach, ond mae’r sgript slic a chlyfar yn gofalu nad yw’r ffilm yn troi’n felysgybolfa.

37. Saint Maud (18)

Wow. Ffilm arswyd hollol wahanol i ffilmiau eraill y flwyddyn, ac eto’n gwbl gydnaws i natur loerig 2020. Roedd Morfydd Clark yn ysgubol fel nyrs dan bwysau afiechyd meddwl, ac wrth iddi glosio at glaf gyda chanser terfynnol mae ei byd yn chwalu’n deilchion. Ceir hefyd elfennau uwchnaturiol, a chyfeiriadau defosiynol, heb sôn am lond trol o hiwmor tywyll. Bu’n flwyddyn, yn naturiol, pan ganmolwyd nyrsys i’r entrychion, ond beth os oes angen gofal dwys ar ambell ‘angel’? Ar ben popeth, cafwyd cadarnhad mai iaith y nefoedd yw’r Gymraeg. Dyma gampwaith artistig, sy’n gadael ei ôl ar y gwyliwr ac yn hudo a herio bob yn ail.

38. On the Rocks (12)

Ohhhh, dyma oedd un o fy hoff brofiadau sinematig eleni. Es i â’m chwaer i sinema Everyman ym Mae Caerdydd ar nos Fawrth gwlyb a gwyntog yn ystod mis Hydref, mewn cyfnod o ennui pandemig go-iawn. Roedd y lle bron yn wag, yn berffaith saff a glan, a’r wasnaeth a’r cyffyrddiadau Art Deco yn hyfryd o foethus – bu’n sbel faith ers mwynhau noson mor hyfryd a ‘normal’. A’r ffilm? Jyst y tonic, caper ysgafn yn Efrog Newydd, a thrac sain ffantastic gan Phoenix. Os da chi’n caru ffilmiau Sofia Coppola byddwch chi wrth eich bodd gyda’i ffilm diweddaraf, sy’n archwilio perthynas mam dan bwysau â’i thad direidus. Fel yn Lost in Translation, mae Bill Murray yn hoffus iawn yn hwn, gyferbyn â’r actores wych Rashida Jones (o’r gyfres comedi Parks and Recreation).

39.Hey Dugee (U)

Pum penod o’r cartŵn i blant, a ddangoswyd yn sinema Vue ym mis Hydref, felly es i i’r un dangosiad â fy chwaer a’i phlantos, o bellter. Roedd fy nwy nith, Cadi a Greta, wrth eu boddau. Rhowch i mi ddangosiadau di-ri o Frozen unrhywbryd, ac o leia roedd hwn yn newid o Pepa!

40. The Witches (PG)

Addasiad newydd o nofel Roald Dahl, gydag Anne Hathaway yn serennu fel yr uwch-wrach ddychrynllyd. Trawsblanwyd y stori o Loegr i Alabama y tr hwn, a hynny yn bur llwyddiannus. Ond yn bersonol, roedd yn well gen i addasiad tywyllach Nicaolas Roeg – does dim modd rhagori ar berfformiad Angelica Huston. Gallwch wylio’r ddwy ffilm ar Amazon Prime.

41. Rebecca (12)

Serch y ‘slatad’ gan feirniaid eraill, ces i gryn hwyl ar addasiad ffilm newydd o ddirgelwch llenyddol Daphne DuMaurier, a ryddhawyd ar Netflix. Fel yn achos The Invisible Man, uwcholeuwyd themau oesol, fel obsesiwn, cariad tocsig a ‘gasleitio’, mewn ffilm am gysgod y wraig gyntaf dros berthynas. Er mai Lily James sy’n serennu, mae’n werth ei weld am bortread Kristin Scott Thomas o’r ‘howscipar’ sinistr Mrs Danvers. Ceir bach o flerwch erbyn y diwedd, ond ar y cyfan dyma gynhyrchiad llawn urddas, ac mae’r cyfarwyddo celfyddydol yn ardderchog.

42. Tylluan Wen (1997)

Yn rhyfeddol efallai i rai, dyma oedd y tro cyntaf erioed i mi wylio addasiad ffilm y diweddar Angharad Jones o’i nofel arobryn ei hun Tylluan Wen. Gan na astudiais i’r nofel ar gyfer fy arholiadau TGAU na Lefel A, doeddwn i chwaith ddim yn gyfarwydd o gwbl â’r stori. Ond gan fod y ffilm ar gael i’w gwylio ar S4Clic, ges i gyfle i’w gwerthfawrogi, a mwynhau’n arw. Ceir elfen o’r naratif sy’n ddiweddariad o stori Blodeuwedd, ond yn bennaf mae’n ffilm am ddialedd. Yn fwy na dim mae’n gyfle i sawru perfformiad ffantastig gan y gantores Siân James, wrthi iddi gael y gorau ar John Ogwen, dychryn gwragedd bro Ffestiniog a phortreadu hen gnawes go iawn. Clasur cyfoes Cymraeg. ‘Saint Maud’ cyn oedd Maud yn bod!

43. The Kid Detective (15)

Ffilm newydd eleni, a phofiad gwych arall yn sinema Everyman lawr y Bae. Gosh, am trît oedd y fath brofiad erbyn mis Tachwedd, a film noir o’r hen ysgol yn ogystal. Os y’ chi’n caru’r clasur Hollywood Chinatown gan Robert Towne, fe wewch chi werthfawrogi’r tro cyfoes hwn ar stori go debyg. Adam Brody (The O.C.) sy’n chwarae dyn a fu’n seren yn blentyn, yn datrys pob math o ddirgelion yn ei arddegau. Ond mae’r ‘Hardy Boy’ hwn yn ffigwr pathetig fel oedolyn, cyn y caiff gomisiwn i ddatrys llofruddiaeth ddiweddar iawn. Serch y comedi cwyrci hamddenol mae’r diweddglo’n eich gadael yn gegrwth. Mae’r olygfa olaf un yn eich gadael yn syn… ond yn cydymdeimlo’n llwyr â’r prif gymeriad.

44. Gwed ar y Sêr (1975)

Trysor arall o archif S4C a’r tro cyntaf i mi wylio’r clasur arswyd. Rhaid codi nghap i’r cyfarwyddwr Wil Aaron; mae’r tensiwn, a’r cyffro, a’r hiwmor yn wych, heb sôn am y cameos o selebs y Saithdegau. Stori sy’n driw i Gymru a’r Gymraeg, werth ei weld os am ffilm i’w fwynhau.

45. A Christmas Carol

Dyma’r ffilm olaf i mi ei sawru yn y sinema yng Nghymru eleni, addsiad arall o stori oesol Charles Dickens. Ond y tro hwn, plethwyd dawns, cerdd, dylunio a chelf, yn absenoleb y cyfryngau hynny ar lwyfannau eleni. Ro’n i’n llawn ysbryd yr wŷl ar ôl gwylio hwn, ac onid dyna holl bwrpas ffilm o’r fath? Clywsom leisiau Sian Phillips a Carey Mulligan ynghyd a Martin Freeman a Simon Russell Beale.

46. The Christmas Chronicles 2 (PG)

Oedd wir angen dilyniant i hit Nadolig enfawr Netflix o 2017? ‘Nagoedd’ wrth gwrs yw’r ateb, ond dyw Hollywood ddim yn gyfarwydd â’r wireb ‘less is more’. Dychwelyd i’r sgrîn fach wnaeth Kurt Russell fel Siôn Corn, a’r tro ma fe ddaeth â Goldie Hawn yn ei sach fel Mrs Claus. Gwaetha’r modd, nid sgriptiwr Overboard oedd yn gyfrofol am eu geiriau, ond dychwelyd fel cyfarwyddwr wnaeth Chris Columbus gan olygu i’r stori gynnwys digon o deyrngedau i glasuron nostalgaidd fel Gremlins, Santa Claus the Movie a Home Alone. Sori i swnio fel Grinch, ac i fod yn deg roedd cafwyd llinnnyn storïol effeithiol am aduniad uwchnaturiol rhwng tad a merch. Ond ar y cyfan roedd hwn yn llawer rhy nir ac fel profiad roedd fel gorddosio ar ‘Christmas Cookies’, ac er fy hoffter o ffilmie Dolig (a cookies, yn amlwg) dwi byth yn ymateb yn ffafriol i ‘sugar shock’.

47. Klaus (PG)

Nawrte, ma chi ffilm Nadolig teimladwy a hudolus – cartŵn yn wir a ryddhawyd y llynedd, ond a ennillodd y wobr BAFTA am y ffilm animieiddiedig orau yn 2020. Dyma hefyd y cartŵn Netflix cyntaf i ennill enwebiad Oscar, a wir i chi, dwi’n eich berio chi i wylio Klaus heb gael eich cyffwrdd i’r byw. Yn syml, mae’n archwilio stori gefndirol Siôn Corn yng ngogledd Norwy, ger Pegwn y Gogledd. Ac fel yn achos Eurovision Song Contest; The Story of Fire Saga, mae’n parchu diwylliant lleiafrifol, Ond ceir hefyd cast gwych o leisiau a sgript hynod ffraeth, a chymeriadau o gig a gwaed. Er fod hiwmor yn ganolog, mae galar yn un thema, a ceir arwyddgan bwerus dros ben. Wedi i chi wrando ar ‘Husavik (My Hometown) ar Youtube, cliciwch ar Invisible gan Zara Larsson. Mae’n pwysleisio prif neges y ffilm fod elfennau gorau bywyd, fel caredigrwydd a chariad, yn anweledig.

48. Sol

Dwy ffilm fer a ddarlledwyd ar S4C dros Nadolig – y cyntaf, Sol, yn gydgynhyrchiad rhwng S4C, RTE Iwerddon a BBC Alba, yn rhannu hanes bachgen yn galaru am ei Nain. Fe’i ddarlledwyd ar Alban Arthan – diwrnod byrra’r flwyddyn – gyda’r neges o ail-ganfod y goleuni ym mywyd Sol bach yn asio â naws cyffredinol 2020.

49. Robin Goch

Llai na hanner awr o hyd oedd Sol, ond mewn rhai ffyrdd roedd ffilm hyd yn oed byrrach Robin Goch hyd yn oed yn fwy pwerus. Mewn llai na 4 munud, llwyddodd animeiddio hyfryd Lleucu Non a cherddoriaeth Casi Wyn i gyfleu stori o golled ac adnewyddiad. Ac er mai ailddarllediad oedd hwn o 2019, roedd ei neges o yn hyd yn oed yn fwy iasol a phernasol eleni. Mae modd ail-wylio’r ddwy ffilm fer ar S4Clic.

50. Wonderwoman 1984 (12)

Sôn am anrheg Nadolig cynnar, a phur annisgwyl o dan yr amgylchiadau. Gyda sinemau Cymru ar gau ers tro, gwelais hwn mewn sinema yng Nghaerfaddon, gan gyd-fynd â’r canllawiau gan fy mod yn adolygydd ffilm wrth fy ngwaith, ac roedd modd teithio o Gaerdydd ar y pryd i ardal Tier 2 yn Lloegr. O fewn deuddydd newidiodd y sefyllfa unwaith eto, gan olygu nad yw fawr neb ym Mhrydain wedi gweld y blocbyster, sydd – mewn gair – yn fendigedig. Dyma ddilyniant rhagorol i lwyddiant aruthrol Patti Jenkins, gyda Gal Gadot yn dychwelyd i’r sgrîn fel yr Amazonian o arwres anhygoel. Ro’n i mor hapus wrth weld y cyntaf nol yn 2017, ac wedi blwyddyn mor anodd mae neges y dilyniant yn rhodd ac yn ddathliad amserol. Fe wnaeth yr olygfa agoriadol, o fath o Olympics eithafol i ferched fy ngadael mewn pêr-lesmair llwyr. Mae’r stori a ddilynir, a osodwyd yn 1984, yn cynnig hwyl nostalgaidd a chyffro di-ben-draw, a’r ffwlbri ffilm uwch-arwyr arferol. Gelyn Diana Prince y tro ma yw ffigwr tebyg i Donald Trump, a chwareir gan Pedro Pascal (Narcos, Game of Thrones), ar ffurf megalomaniac ffôl. Ond nid dim ond dathlu cryfder corfforol Wonderwoman wnaiff y ffilm y tro hwn, ond ei chryfder mewnol yn ogystal. Mae rhannau o’r ffilm yn ddirdynnol tu hwnt, ac fe ddweda i ragor pan gaiff pawb ei gweld yn 2021. Blwyddyn Newydd Dda! x

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Mojito ‘Barti Dda’

Mae’n ddiwrnod cenedlaethol y Mojito heddiw, mae’n debyg, ac felly bydda i’n trafod y coctel o Giwba ar raglen Cat a Carl ar BBC Radio Cymru ar ôl 4yh ar BBC Radio Cymru, Gorffennaf 11eg, 2020.

Gyda’r haul yn tywynnu ar y gorwel, a mintys yn yr ardd, dim ond un coctel oedd ar fy meddwl ar gyfer ‘Amser Cwarantini’ yr wythnos hon – y Mojito.

Mae’n ddiod ffantastic ar ddiwrnod braf, gan gynnwys blasau chwerwfelys siwgwr a leim, a phersawr mintys ffres o’r ardd.

Daw’n wreiddiol o Giwba – y prif alcohol yw rum, gwirodyn a ddistyllir o siwgwr cansen yr ynys. Ceir sôn mai morwyr a greodd fersiwn cynnar y ddiod, gan gyfuno rum a siwgwr yr ynys gyda sudd leim i osgoi scurvy, a’r dail mintys i guddio blas cas ‘dŵr tân’ y rum. Ond efallai mai’r lleoliad enwocaf sy’n gysylltiedig â’r Mojito yw bar La Bodeguita Del Medio ym mhrifddinas Ciwba, Hafana.

Bues i’n ffodus i sawru Mojito yno gyda fy chwiorydd yn 2004, cyn galw ym mar El Floridita gerllaw am Daiquiri. Mae’r ddau yn atyniadau poblogaidd gydag ymwelwyr i Hafana, gan mai yno, mae’n debyg, yr yfai Ernest Hemingway, yr awdur a’r anturiaethwr mawr oedd hefyd yn yfwr chwedlonol. Bu’n byw gyda’i drydedd a’i bedwaredd wragedd yng Nghiwba, ac arferai yfed Mojitos ar ei gwch, Pilar, pan oedd ganddo benmaenmawr.

Uwchben y bar bach yn La Bodeguita Del Medio ceir darn o bapur wedi’i fframio; arno mae geiriau a sgwennwyd gan Ernest Hemingway – ‘My Mojito in La Bodeguita, my Daiquiri in El Floridita’.

Ceir sôn mai ffuglen pur yw hynny gyda llaw… ond pam sbwylio stori dda? Mae’r ynys, gyda llaw, yn un o’r llefydd gorau i mi’i profi erioed, gyda Hafana yn ddinas gwbl unigryw; roedd rhyw hagrwch hardd i brofi ym mhob man, ceddoriaeth gitâr a phobol hyfryd tu hwnt.

Cyn gadael yr ynys, prynais botel rum Havana Club 3 oed, yr hyn a weinir yn La Bodeguita Del Medio.

Cofrodd yn unig yw hwnnw bellach, nawr fod y botel yn wag, felly defnyddiais y rum tywyllach o Gymru, Barti Ddu, a bedyddio’r mojito hwn yn Barti Dda!

Mojito ‘Barti Dda

Cynhwysion

Sudd 2 Leim

Llwy Fwrdd o Siwgwr Brown Ysgafn

Llond Llaw o Ddail Mintys Ffres

1 Mesur Rum Barti Ddu

2 Fesur Dŵr Soda

Rhew

Dull

Arllwyswch y sudd leim a siwgwr i wydr tal (‘highball’) os yn bosib, cyn ychwanegu’r dail mintys.

Troellwch y cynhwysion yn ysgafn, er mwyn rhyddhau olew’r mintys.

Yna, arllwyswch y rum a’r dŵr soda, cyn ychwanegu’r rhew. Trowch y cyfan unwaith eto cyn gweini â gwelltyn neu fintys ffres. ¡Salud!

Cyhoeddwyd yn Cegin Lowri, Tafarn/ Bar | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Rhosliw Rhewllyd

Gorffennaf! Mis mabolgampau, gwylie haf, a phencampwriaeth tenis Wimbledon!

Mae’n flin gen i, gyfeillion. Maddeuwch fy ansensitifrwydd – ymddengys fy mod i’n sownd mewn capsiwl amser o 1988.

Wel os na cha i gystadlu mewn ras ŵy ar lwy, na chefnogi John McEnroe, Boris Becker neu Steffi Graf ar gwrt rhif un, mae’r stondin ffrwythau lleol yn orlawn o fefus ar hyn o bryd, gan olygu fod gen i bencampwr o bwdin a giamstar o goctel ar eich cyfer chi gyd!

Dwi’n hwyr iawn i’r parti Frozé, mi wn – mae Lleucu fy chwaer ymhell ar y blaen, gyda’i gifs hynod cŵl No Wê Frozé. Ond gydag Awr Coctel / Amser Cwarantini ar y gweill ar ôl 6 heno ma, ges i fy ysbrydoli ganddi i fynd ati i greu fy fersiwn i; y coctel rhagorol Rhosliw Rhewllyd!

Wel AM ddarganfyddiad… blas gorau eto’r haf; yn gyfuniad o bwdin a diod amheuthun, mae’n beryg bywyd ar ddiwrnod braf. Felly cofiwch mai gwin yw prif gynwysyn y diod, a’i fod yn gwbl amhosib dweud ‘Rhosliw Rhewllyd’ ar ôl un yn ormod!

Rhosliw Rhewllyd

Cynhwysion

Potel o Win Rhosliw (Rosé)

300g Mefus

50g Siwgwr

Sudd 1 Lemwn

Arllwyswch gynnwys potel o win Rhosliw i ddesgyl, a’i osod yn y rhewgell dros nos.

Os am yfed llai na photel, arllwyswch hanner cynnwys y botel i’r ddesgyl, a hannerwch y cynhwysion uchod.

Torrwch y mefus, a gwaredwch y deiliach cyn eu gosod mewn powlen. Taenwch y siwgwr drostynt a gadewch am rai oriau, tan bydd y siwgwr wedi toddi i greu sudd pinc.

Pan fydd y gwin rhosliw wedi rhewi, tynnwch y ddesgyl allan o’r rhewgell a defnyddiwch lwy bren i dorri’r rhew yn ysgafn cyn arllwys y darnau rhew i bowlen fawr. Ychwanegwch y mefus melys, a’r suddoedd pinc at y rhew, a gwasgwch sudd lemwn drostynt yn ogystal.

Cymysgwch y cyfan gyda chymysgydd am hanner munud tan bydd y cyfan yn slwtsh cochbinc.

Arllwyswch y ‘slwtsh’ i’ch hoff wydr(au) coctel neu wydr(au) gwin, a gosodwch fefus ar wefus pob gwydr. A welsoch chi goctel harddaf yn eich byw? Arhoswch nes i chi ei flasu… gêm, set, a ‘llond cratsh’ i’r Rhosliw Rhewllyd!

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri, Tafarn/ Bar | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Enchiladas

Gyfeillion, mae gen i gyfrinach… rysait dwi di’i guddio i mi fy hun. Ond dros y misoedd diwethaf, dwi wedi troi ato fwy nag unwaith am ginio sy’n berffaith ar benwythnos. Mae’n bryd bwyd lliwgar, llawn hwyl, ac mae’r blas oddi ar y raddfa – ac mae’n llawer rhy dda i’w wastraffu ar swper ganol wythnos! Am ryw reswm dwi hefyd yn ei ystyried yn ‘treat’ reit arbennig, er bod rhan fwyaf o’r cynhwysion yn hynod iachus!

Dwi’n synhwyro y bydd yn saig poblogaidd â theuluoedd, felly da chi cysylltwch gyda’ch adborth, neu i rannu eich barn. Fy nghoctel Margarita wnaeth fy sbarduno i fynd amdani, gan fod hwn hefyd yn glasur o Fecsico. Mae’n fy rysait i yn cynnwys chilli a phupurau Jalapeno, ond croeso i chi hepgor y rheiny. Mae’n cymryd bach yn hirach i’w baratoi na fy ryseitiau arferol, ond wir i chi, mae’r werth dilyn pob cam, oherwydd mae’r blasau ffres yn hollol wefreiddiol. A gyda’r haul ar fin dychwelyd am gyfnod wythnos nesa, bydd hwn yn fyrbryd gwych i’w fwynhau yn yr ardd – gyda Margarita, neu lemwnêd leim!

Enchiladas

Cynhwysion:

250g Briwgig Eidion

2 Llwy Fwrdd o Olew Olewydd

3 Gewin Garlleg

1 Nionyn Coch

1 Llwy Fwydd o Goesynnau Coriander

Llond llaw o Ddail Coriander

1 Tsili Coch (opsiynol)

1 Tun Tomatos wedi’u torri

1 Tun Ffa Coch

Hanner Llwy De o Cumin sych

Hanner Llwy De o Paprica sych

Halen a Phupur

8 Tortilla (1-2 tortilla i bob person)

Caws Cheddar wedi’i Gratio

Caws Mozzarella wedi’i sleisio

1 Jar o Bupurau Jalapeno (opsiynol)

1 Potyn Bach o Hufen Sur

Salsa

3 Tomato Mawr

1 Nionyn Coch

1 Gewin Garlleg

Llond Llaw o Ddail Coriander

Chwarter Llwy De o Cumin sych

Chwarter Llwy De o Oregano sych

Sudd 1 Leim

Halen a Phupur

Guacamole

1 Afocado

1 Tomato

1 Nionyn Gwyn

Llond Llaw o Ddail Coriander

Sudd Hanner Leim

Halen a Phupur

Estynnwch ddesgyl caserôl a dechreuwch ffrïo’r briwgig eidion ar wres cymhedrol mewn olew olewydd, gan droi yn achlysurol. Yn y cyfamser, torrwch y nionyn coch, garlleg, tsili coch (opsiynol) a choesynau coriander yn fân. Pan fydd y briwgig wedi dechrau brownio’n dda, ychwanegwch y rhain gan dro-ffrïo am bum mund arall.

Arllwyswch gynnwys y tun tomatos i’r gymysgedd, cyn ychwanegu’r halen a phupur, dail coriander wedi’u torri’n fân a’r perlysiau sych. Ffrïwch y gymysgedd am bum munud arall, cyn ychwanegu cynnwys y tun ffa coch.

Gostyngwch y gwres, a gadewch ar wres isel am hanner awr gyda chaead y ddesgyl ymlaen, yna trowch y gwres i ffwrdd gan adael i’r gymysgedd oeri. Yn y cyfamser, paratowch eich salsa a guacamole ffres.

I baratoi’r guacamole, torrwch yr afocado yn ei hanner. Gwaredwch y croen a’r gneuen gan stwnshio’r ‘cnawd’ gwyrdd mewn powlen gyda fforc. Torrwch y tomato, y nionyn gwyn a’r dail coriander yn fân a chymysgwch â’r cnawd afocado a sudd lemwn, cyn ychwanegu halen a phupur, at eich dant.

I baratoi’r salsa; torrwch y tomatos, y gewin garlleg, y nionyn coch a’r dail coriander yn fân cyn eu cymysgu’n dda mewn powlen. Ychwanegwch y perlysiau, sudd leim a halen a phupur, a chymysgwch y cyfan unwaith eto. Fe ddylai’r salsa a’r guacamole bara am ddiwrnod yn yr oergell, ond gwell bwyta’r cynhwysion yn ffres ar y diwrnod.

Trowch y popty ymlaen ar wres 180 gradd Selsiws, a gorchuddiwch silff bobi (baking tray) â haenen ffoil. Estynwch 2 tortilla, a taenwch olew ar ddwy ochr y tortillas, gan eu gorwedd yn wastad nesaf at ei gilydd ar y silff bobi. Fe ddylai 2 tortilla greu 4 enchilada. Am ginio ysgafn mae 2 enchilada yn ddigon i un person, ond os am fwydo teulu o bedwar, estynwch silff bobi arall, gan ailadrodd y cyfarwyddiadau – lluoswch hynny ar gyfer mwy bobol (neu fwy o enchiladas fesul person).

I bob tortilla, byddwch am ychwanegu’r cynhwysion canlynol ar ffurf ‘hanner lleuad’ er mwyn plygu a chau’r tortilla yn ei hanner cyn ei osod yn y popty. Dechreuwch â gwerth llwy fwrdd o gaws Cheddar wedi’i gratio, yna sleisen neu ddwy o gaws Mozzarella.

Yna taenwch dau lond llwy o’r tsili briwgig eidion yna 6 tsili Jalapeno (opsiynol).

Taenwch ragor o’r caws cyn plygu a chau’r tortilla yn ei hanner – dylai’r olew olewydd ar arwyneb y tortilla helpu i’w lynnu.

Wedi i chi wneud hyn gyda phob tortilla, gosodwch y silff/oedd pobi yn y poty am ugain munud, nes y bydd y tortilla wedi brownio’n ysgafn a throi’n grisb. Byddwch yn ofalus wrth eu cyffwrdd, gan y byddant yn boeth!

Estynwch blât a gosodwch un tortilla arno, cyn torri’r tortilla’n hanner gyda chyllell siarp. Ychwanegwch ddail salad, y salsa, guacamole a llond llwy hufen sur at bob plât. Os oes briwgig tsili yn weddill, gosodwch mewn blwch yn yr oergell, ac fel ddylai gadw’n iawn am ddiwrnod arall. Mwynhech!

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Pisco Sur

Un o’r coctels nos Wener diweddaraf i mi’i greu oedd un â waw ffactor go iawn yn perthyn iddo. Mae’r prif gynhwysion yn rhai syml, ond mae’r canlyniad yn drawiadol, fel y gwelwch yn y llun! Yr hyn efallai sy’n wahanol yw’r gwirodyn sylfaenol, sef Pisco – sef ‘hummus’ y byd coctels!

Na phoener, nid oes corbys – neu chickpeas – ar gyfyl y rysait, er bod chwa bach ‘daearol’ yn perthyn iddo. Fel yn achos y Dwyrain Canol, a’r ddadl danbaid dros pa wlad yn union sy’n hawlio hummus, mae dwy wlad yn Ne America yng ngyddfau’i gilydd dros Pisco Sur.

Gwirodyn tryloyw, eau de vie a brandi clir, yw Pisco, gaiff ei ddistyllu o rawnwin yr Andes. Caiff ei gynhyrchu fry ym mynyddoedd Chile a Pheriw, ac mae’n ddiod cenedlaethol y ddwy wlad. Ond dim ond ym Mheriw y ceir y dathliad blynyddol ‘Día del Pisco Sour’ ar ddydd Sadwrn cyntaf pob mis Chwefror, a diwrmod cenedlaethol Pisco ym mis Gorffennaf. Ymddengys hefyd mai yn Lima, prifddinas Periw y cafodd y Pisco Sour ei ddyfeisio yn y 1920au.

Felly beth sydd mor arbennig am y Pisco Sur, a’i flas nid anhebyg i Margarita? Wel yn goron ar y ddiod y mae haen o ewyn gwyn, sef gwynwy a gymysgir yn y cocktail shaker.

Ar ben hynny taenir ysgwydiad o ‘Bitters’ Angostoura i ychwanegu chwa o flas y pridd! Coeliwch nu beidio, mae’r hyfrydbeth hwn yn hawdd iawn i’w greu,’mond bod angen nerth bôn braich i roi shigwdad da i’r Pisco Sur!

Pisco Sur

Cynhwysion

2 fesur Pisco

1 Mesur Gwynwy

1 Mesur Surop Syml

1 Mesur Sudd Leim

Ysgwydiad o Bitters Angostoura

Rhew

Dull

Paratowch surop syml o flaen llaw. Mae’n gynhwysyn eithriadol o handi yn yr oergell ar gyfer pob math o goctels. Yn syml, mae angen berwi yr un pwysau o ddŵr ag o siwgwr (e.e. 400g o ddŵr a 400g o siwgwr) tan y bydd y siwgwr yn toddi’n llwyr yn y sosban, yna diffoddwch y gwres, cyn botelu’r surop syml, a’i gadw yn yr oergell am hyd at fis.

Gwahanwch y gwynwy oddi wrth y melynwy – un fford syml ydy i dorri ŵy ar blât yn ofalus, cyn gosod ecob am ben y melynwy, a thywallt y gwynwy o’i gwmpas i fowlen bach. Arllwyswch y melynwy i flwch bach, a’i gadw yn yr oergell am rai oriau – bydd yn iawn ar gyfer eich brecwast drannoeth.

Gwasgwch 2 leim i greu 1 mesur sudd leim, felly lluoswch er mwyn creu mwy nag un Pisco Sur.

Arllwyswch y sudd leim, 1 gwynwy, ac 1 mesur surop syml, ynghyd â 2 fesur Pisco a llond llaw o rew i fewn i ‘cocktail shaker’ cyn gosod caead y ‘shaker’ yn dynn. Ysgwydwch am hyd at funud. Arllwyswch yr hylif yn syth i’ch hoff wydr coctel – ewyn ysgafn y gwynwy fydd yr elfen olaf i gael ei arllwys ar ben y sudd.

Yna ysgwydwch y botel Bitters Angoura yn sydyn dros y coctel gan adael smotiau oren ar arwyneb yr ewyn gwyn. Sawrwch yn syth. Salud!

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri, Tafarn/ Bar | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Moliant i’r Madarch ar Dôst!

Fel cogyddes, fel bwytwraig, ac fel awdur sgwennu bwyd, dwi’n ymfalchio yn y ffaith y gwna i fwyta ac yfed unrhywbeth! Bwytais falwod ym Mharis, yfais Raki yn Istanbul, a llowciais Tripe (ymysgaroedd) mewn bwyty yn rhanbarth Tseineaidd dinas Toronto, Spedina Street. Mae’n arwydd o aeddfedrwydd, a pharch at y cogydd, i dderbyn pob offrwm gyda gras – ac i sawru profiad bywyd newydd sbon!

Ond bu gen i gyfrinach… un reit gywilyddus a dweud y gwir. Tan yn ddiweddar roedd yn GAS gen i fadarch o bob math. Roedd yr atgasedd afresymol (sy’n go gyffredin, mae gen i ofn) yn seiliedig ar brofiadau fel plentyn, o ganfod madarch yn Sbag Bol Mam.

Nawr, i bawb sy’n caru madarch (a da chi’n fyddin go sylweddol), does dim byd rhyfedd am ganfod madarch yn eich bwyd. Ond mae’r Spag Bol yn enghraifft da… cynhwysyn twyllodrus oedd y madarch i mi fel plentyn; roedd yn smalio bod yn gig, ond yr eiliad i mi ei gnoi, fedrwn i mond ddychmygu mai slywen oedd y bastad bach ar fy nhafod.

Y gwead, felly, oedd fy mhroblem fawr… a’r ffaith ei fod yn dynwared cig ar yr arwyneb. Credais hefyd ar y pryd fod madarch yn ddi-flas; roedd o’n ‘gatecrasher’ i’r parti, yno i amsugno blasau’r cyfoethog, neu – ar yr adegau prin hynny y byddai Mam yn mentro’i baratoi – yn chwarae ‘starring role’ mewn yn y saig atgas (i mi) , Beef Stroganoff.

I achub fy ngham, hoffwn esbonio – dwi ddim yn wehil hollol anwaraidd. Os cawn fy ngwahodd i gartref unrhywun arall, a chael cynnig saig oedd yn cynnwys madarch, yna bydden i’n ei lowcio’n anfoddog, ond gyda gwên ar fy ngwyneb. Gyfeillion, mae gen i fy safonau; ‘cofia pwy wyt ti’, fel medde fy ffrind, Ein Morse!

Dim ond yn lled-ddiweddar y des i ddeall mod i wedi camddeall madarch yn llwyr. Ces fy magu ym mhresenoldeb ‘button mushrooms’ yn bennaf, y pethe bach gwynion na yr oedd disgwyl i mi eu plicio. Doedd gen i ddim syniad am yr ystod eang iawn o amrywiaethau – na chwaith eu hamryw ‘swyddogaethau’. Nawr, dwi ddim am fentro awgrymu mod i’n arbenigwraig o bell ffordd; rwy’n derbyn mai disgybl dosbarth derbyn ydw i yn y maes madarchol.

Un peth wnaeth helpu oedd fy ngyrfa fel beirniad bwytai, gan ddod i werthfawrogi rôl blasau a chyfraniadau madarch gwahanol – o Portabello i Shiitake – mewn seigiau gwahanol o safon eithriadol. Ac yng ngastronomeg Siapaneaidd, gyda’r pwyslais ar flas dwys a ‘daearol’ umami, dyrchefir madarch i’r uchelfannau.

Peth arall oedd dod i adnabod Cynan Jones, ‘Mr Madarch’ sy’n byw yn Nanmor, Eryri. Gyda June ei wraig ( a bellach hefyd Gwenllian ac Arwyn Groe) mae nhw’n genhadon dros hyrwyddo madarch Cymreig yn rhyngwladol.

Mae eu rhinflasau (‘seasonings’) yn gynhwysion defnyddiol yn fy nghegin; ar gyngor Cynan, er enghraifft, dwi’n taenu pinsiad o rinflas ‘Umami’ dros fy stecen cyn ei ffrïo, i ddwyshau’r pleser pur o’i fwyta i swper, ac mae hefyd yn chwarae rhan yn fy rysait, Amen Ramen. Hefyd, mae’r madarch Shiitake sych yn ddefnyddiol dros ben, i greu stoc â blas dwys, i gyfoethogi caserôl, neu hyd yn oed omlet i ginio.

Ond y llynedd ges i’r ffliw, un andros o gas, a bues i’n teimlo’n ‘glwc’ am fis a hanner. Pan o’n i’n ddigon da i ymweld â Dad, ond dal â mhen yn fy mhlu, paratodd Dad ginio cyflym o fadarch ar dôst, a fyth ers hynny dyma saig hynod lawen. Sôn am ddarganfyddiad y mileniwm i mi, ac un hynod gysurlon, ac ar ben popeth, saig syml, rhad a chyflym! Roedd yr effaith ar y Lowri liprynaidd fy fel canfod llyn mewn anialwch tanbaid, a’r effaith ar fy ysbryd -fel manna o’r nefoedd – yn bur adfywiol.

Maddeuwch i mi, bawb a fu’n bleidiol i fadarch o’r cychwyn cyntaf, yn rowlio’ch llygaid ar y moliant dros-ben-llestri hwn i saig mor sylfaenol. Ydw, dwi’n cyfaddef, dwi’n basic bitch pan mae’n dod at fyd madarch… ond fel pob efeng-yl, dwi’n danbaid drostynt bellach. Felly dyma chi rysait am frecwast neu ginio sy’n hynod syml, i ddenu defaid colledig eraill yn ôl at y pr(a)idd. Yn y cyfamser, croeshoeliwch fi, gyfeillion!

Madarch ar Dôst

Cynhwysion

1 Madarchen Portabello

25g Menyn Hallt

1 Gewin Garlleg

1 Llwy De o Ddail Persli neu Ddail Coriander Ffres

Tafell o Fara Surdoes

Dull

Torrwch fadarchen fawr Portabello yn ddarnau mân, yna estynwch ffrimpan. Toddwch y menyn hallt yn y badell ffrïo ar wres cymhedrol.

Gratiwch y garlleg – dwi’n defnyddio Microplane, fy hoff declun yn y gegin – cyn ei ychwanegu at y menyn, a’i ffrïo am funud.

Yna ychwanegwch y madarch, a’u ffrïo yn y menyn garlleg am bum munud. Bydd y gegin yn llenwi ag arogl anhygoel i ddenu dŵr i’r dannedd!

Yn y cyfamser torrwch dafell o fara surdoes (neu unrhyw ddarn o fara ry chi’n mwynhau ei fwyta!) a’i dostio.

Pan fydd y tost yn barod, gosodwch ar blât, cyn taenu’r madarch a’r menyn garlleg drosto. Yn olaf, torrwch ddail persli neu goriander yn fân a’u taenu dros y cyfan. Bendigedig! Bon apetit x

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Swigod ’Sgawen

Ges i gynnig difyr iawn gan griw Tafwyl ganol mis Mai, wrth iddynt baratoi arlwy Tafwyl Digidol (Mehfin 20fed) eleni; a fydde diddordeb gen i baratoi fideo yn egluro sut i greu Fizz Ysgawen, er mwyn i wylwyr fwynhau arlwy yr ŵyl ar-lein tra’n sawru diod o flodau dinesig! Bydde, medde fi, â bant â mi i fynd ar grwydr yn fy milltir sgwâr ym Mhenylan a chasglu llond llaw o’r blodau, sydd yn eu tymor tan ddiwedd Mehefin.

Mae’r rysait isod yn un syml, ac yn creu 3 litr o ‘win’ pefriog, ond byddwch yn ymwybodol fod y broses yn cymeryd rhai dyddiau. Mae wir werth mynd amdani, fodd bynnag, ac mae’n ffordd hyfryd o ystyried eich milltir sgwâr o’r newydd.

Cliciwch yma i weld y fideo ar wefan Tafwyl, ac isod mae’r rysait.

Swigod ’Sgawen

Cynhwysion

8 o Flodau’r Ysgaw (8 ‘pen’ llawn petalau gwynion)

3 Litr o Ddŵr Oer

Sudd 1 Lemwn

Croen 1 Lemwn

465g o Siwgwr

4Llwy De o Finegr Gwin Gwyn (neu Finegr Seidr)

Dull

Diwrnod 1

Pigwch 8 o flodau’r ysgaw a gwaredwch y coesynau gwyrdd deiliog.

Yn gyntaf, ysgwydwch y blodau’n dda, i sicrhau nad oes pryfaid wedi glynnu i’r petalau. Estynnwch ddesgyl sy’n ddigon mawr i ddal dros 3 litr o hylif- fe wnaiff ddesgyl caserôl y tro yn iawn.

Gosodwch y blodau ar waelod y ddesgyl, ynghŷd â’r croen a sudd lemwn a’r finegr gwin gwyn (neu finegr seidr). Yna, tywalltwch 3 litr o ddŵr oer dros y cyfan, cyn arllwys y siwgwr i’r ddesgyl yn ogystal.

Troellwch y gymysgedd tan fydd y siwgwr wedi toddi’n llwyr, yna gorchuddiwch y ddesgyl â lliain ysgafn.

Gosodwch y ddesgyl mewn man oer a thywyll (fel cwpwrdd) am 24 awr. Trowch y gymysgedd bob hyn a hyn i annog y broses eplesu (fermentation).

Diwrnod 2

Gosodwch ridyll (sieve) dros bowlen fawr, cyn rhidyllu’r gymysgedd.

Fe ddylai’r bowlen gynnwys 3 litr o hylif melyn golau yn unig. Arllwyswch yr hylif i jwg, yna estynnwch 2 botel plastig mawr sy’n dal 2litr o hylif yr un (e.e. poteli dŵr).

Gosodwch dwndis neu dwmffat yng ngwddf y potel blastig gyntaf, gan arllwys yr hylif hyd at dri chwarter y botel. Gwnewch yr un peth gyda’r ail botel blastig. Os ydych chi’n defnyddio poteli plastig o feintiau eraill dylech sicrhau eich bod yn gadael 5cm o ofod rhwng yr hylif a chaead y potel.

Caewch y poteli, cyn eu gosod mewn man oer a thywyll am wythnos, o leiaf.

Mae’r broses eplesu (fermentation) yn cynhyrchu nwy, gan olygu y bydd y poteli yn ehangu ac yn teimlo’n dynn, felly unwaith y diwrnod dros y dyddiau nesaf agorwch gaead y poteli yn ofalus i ryddhau’r nwy. Dylech glywed sain yr hylif yn dechrau pefrio dros y dyddiau nesa, ond os na, ychwanegwch binsiad (chwarter llwy de) o furum sych i hylif y poteli.

Diwrnod 7

Wedi wythnos yn eplesu yn y poteli dylai’r ‘Swigod ’Sgawen’ fod yn barod i’w gweini yn syth o’r poteli plastig – byddant yn cynnwys tua 1.5% o alcohol. Neu, i greu argraff arbennig, arllwyswch yr hylif pefriog i 3 potel gwydr 1ltr yr un neu 6 potel 500ml (sy’n addas ar gyfer eplesu), yn ofalus trwy dwmffat, gan ofalu i beidio gor-lenwi.

Bydd yr hylif yn parhau i eplesu yn y poteli, felly gwell yfed o fewn rhai dyddiau/wythnosau, neu byddwch yn wyliadwrus os am eu cadw’n hirach na hynny.

Rhannwch y poteli gyda ffrindiau da, a mwynhewch. Iechyd da!

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Cegin Lowri, Delweddau o'r Ddinas, Tafarn/ Bar | Rhowch sylw

Cegin Lowri: Boeuf Bourguignon

‘Daw hyfryd fis Mehefin cyn bo hir, Pan glywir y gwcw’n canu’n braf yn ein tir. Braf yn ein tir, braf yn ein tir. Cwcw, cwcw, cwcw’n canu’n braf yn ein tir.’ Dyma un o fy hoff ganeuon Cymreig yr arferwn ei chanu â’m ffrindiau yn Ysgol y Wern, gan ffoli ar hud ei hailadrodd gyda’n gilydd (roedd ‘Dacw ti yn Eistedd y Deryn Du’ yn un arall!). Hyd heddiw mae’r geiriau yn cyfleu rhyw ddiniweidrwydd mawr, wrth gael ein taro o’r newydd gan ryfeddod byd natur ar drothwy tymor yr haf.

Wel daeth mis Mehefin, wedi heulwen mis Mai, ac agorais fy ‘wardrob’ haf (bag IKEA glas!). Sôn am ryddhad – dwi wastad yn teimlo fel ‘fi fy hun’ mewn ffrog ysgafn, sandalau, a sbectols haul.

O ran bwyd, dyma fis pan edrychaf ymlaen i sawru blasau tymhorol fel mefus a hufen, gwin rhosliw, a saladau o bob math.

Ond dyma hefyd fis arbennig pen-blwydd fy Mam, a dros y Sul ail-greais un o’i hoff ryseitiau hi. Clasur o Ffrainc yw’r Boeuf Bourguignon, sy’n flasus pob mis o’r flwyddyn. Fel mae’r enw yn ei awgrymu, mae’n cyfuno darnau cig eidion a joch da (iawn) o win coch o’r Bwrgwyn.

Mae’n rysait hynod hawdd ac er ei fod yn cymeryd rhai oriau, mae’n glasur sy’n werth buddsoddi eich amser ynddo. Mae’n berffaith ar gyfer cinio Sul, oherwydd unwaith bod y cynhwysion i gyd mewn un ddesgyl, gallwch ymlacio’n llwyr wrth fynd am dro neu ddarllen y papurau.

Roedd Mam yn bencampwraig ar y grefft o ymlacio (roedd hi’n caru darllen, teithio, gwylio’r tenis a Chymru yn chwarae rygbi, wedi gyrfa lawn fel Athrawes Gymraeg), ac ar baratoi Boeuf Bourguignon! Bydde hi wedi troi’n 81 oed wythnos ma – pen blwydd hapus Mam xxx

Boeuf Bourguignon

Cynhwysion

(Digon i 2 yn ystod y Clo Mawr, felly dwblwch ar gyfer 4, ac ati)

400g Ciwbiau Cig Eidion

50g Cig Moch Pancetta neu 3 Darn Bacwn wedi’u torri

2 Llwy Fwrdd Olew Olewydd

1 Nionyn Wedi’i Sleisio

1 Llwy Fwrdd Blawd Plaen

3 Glasied o Win Coch

3 Gewin Garlleg Mân

1 Deilen Llawryf (Bay Leaf)

1 Llwy De Teim Sych

Halen a Phupur

Madarchen Portabello

150g Nionod Shallots

Dull

Estynwch ddesgyl caserôl ac ar dymheredd cymhedrol browniwch y ciwbiau cig eidion yn yr olew olewydd. Yna tynnwch y cig o’r ddesgyl a’u gosod ar blât am y tro.

Yna, yn yr un olew, ffrïwch y nionod a’r pancetta / darnau bacwn, cyn dychwelyd y cig eidion i’r ddesgyl. Taenwch y blawd dros y gymysgedd cyn troelli’n dda â llwy bren, gan adael i’r blawd amsugno’r suddoedd i gyd.

Ychwanegwch lasied o win coch, yna troellwch y gymysgedd, cyn ychwanegu glasied arall. Ychwanegwch y garlleg, deilen llawryf, halen a phupur a theim sych, a chymysgwch yn dda.

Yna, ychwanegwch y nionod shallots a’r fadarchen Portabello wedi’i sleisio’n ddarnau, a chymysgwch yn dda.

Ychwanegwch hyd at 1 glasied arall o win coch, cyn gosod caead ar y ddesgyl, a’i adael i ffrïo ar wres isel am 3 awr. Cyfle i gael bath, neu fynd am dro, neu ddarllen y papurau Sul!

3 awr yn ddiweddarach a bron yn barod i weini…

Rhyw hanner awr cyn y bydd yn barod, paratowch eich llysiau. Mae tatws newydd, neu datws stwnsh yn wych gyda’r pryd cyfoethog hwn, ac fe wes i ei fwynhau gyda thatws stwnsh a chennin wedi’u stemio, ar ôl gadael hanner y Boeuf Bourguignon ar stepen drws Dad! Bon apetit xxx

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rhowch sylw