Adolygiad Ffilm – She’s Funny That Way (12) – gyda Rhys Ifans

She's Funny That Way

Y Sêr: Owen Wilson, Imogen Poots, Jennifer Aniston, Rhys Ifans, Will Forte a Kathryn Hahn

Y Cyfarwyddo: Peter Bogdonovich

Y Sgrifennu: Peter Bogdonovich a Louise Stratten

Hyd: 92 mun

Adolygias y ffilm She’s Funny That Way ar raglen Prynhawn Da ar S4C ar Fehefin 26ain,  ac ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru ar Orffennaf y 1af, 2015. Cliciwch yma i wylio eto, ac yma i wrando eto.

Os y chi’n ffan o gomedîau Woody Allen yn Efrog Newydd, efallai y cymerwch chi ffansi at y ffars hen-ffasiwn hwn. Mae’n serennu neb llai na Rhys Ifans o Ruthun, sy’n cael actio yn ei acen ei hun.

Mae’n chwarae actor adnabyddus, ar lwyfan y theatr a’r sgrîn fawr, ac efe yw seren drama newydd sbon ar Broadway. Gyda merched yn sgrechian o’i gwmpas, ac wrthi’n hyrwyddo’i cologne ei hun, mae e’n denu llygad neb llai na Jennifer Aniston.

Dyw hi ddim yn anodd deall sut dderbyniodd Rhys Ifans y rhan, ond yn anffodus i ni, nid ’Seth Gilbert’ yw prif gymeriad y ffilm hon.

Rhys Ifans a Jennifer Aniston

Owen Wilson (Midnight in Paris) gaiff y fraint amheus o arwain y cast sylweddol hwn, fel y cyfarwyddwr theatr Arnold Albertson – rhamantydd rhonc, sy’n gymysg oll i gyd. Er yn briod ac yn dad i ddau o blant, mae Arnold yn gaeth i gysgu â phuteiniaid, cyn cynnnig ffortiwn bach iddynt newid cwrs eu bywydau er gwell.

Yn anffodus i Arnold, dychwela’i ’brosiect elusenol’ ddiweddara i’w fywyd, wrth i Izzy Finkelstein (Imogen Poots) ennill rhan fel putain yn ei ddrama. I gymhlethu pethau ymhellach, Delta (Kathryn Hahn) ei wraig yw’r brif actores – gyferbyn â’r seren seimllyd Seth (Rhys Ifans) – tra fod awdur y ddrama, Josh (Will Forte), wedi syrthio’n glep am Izzy.

Taflwch farnwr hynafol, cariad yr awdur a ditectif preifat i’r pair, a gewch chi groesiad go shimpil o Pretty Woman a Bullets Over Broadway. Yn wir, cymaint yw’r ffilmiau am butain â chalon euraidd sy’n rhagori ar y comedi hwn; Mighty Aphrodite a The Fabulous Baker Boys, i enwi dim ond dwy.

Bu’r cyfarwyddwr, Peter Bogdonavich yn gyfrifol am rai o ffilmiau mwyaf llwyddiannus y 1970au, gan gynnwys What’s Up Doc? gyda Barbra Streisand a Ryan O’Neal. Ymddengys, o farnu safon retro y llinellau, ei fod yn dal yn gaeth i’r ddegawd honno.

Y pleser, mae’n debyg, o gyd-weithio ag ef yw fod e eisioes wedi golygu’r ffilm yn ei ben cyn cychwyn arni; dan amodau mor anhyblyg, does dim gobaith iddo gael ei ysbrydoli gan y doniau o’i gwmpas, na gadael i’r ffilm anadlu ar ei phen ei hun. Mae e mor benderfynol o gynnig teyrnged i screwball comedies y gorffennol pell, nes ei fod yn gwbl ddall a byddar i’r hyn all cast o actorion comig gynnig i gynulleidfa gyfoes.

Dyma ffilm sy’n orlawn o gyd-ddigwyddiadau, sy’n iawn, os yw popeth yn gwneud synnwyr. Ond fel y dywed Jane (Jennifer Aniston), y therapydd crac sydd angen rheoli ei dicter , mewn dinas o wyth miliwn o bobol, mae’n anodd credu fod pawb yn nabod pawb.

Yn anffodus, dyma gomedi anwastad, llawn talentau cryf sy’n ysu am gwpwl o jôcs; Rhys Ifans a Jennifer Aniston sy’n creu’r argraff fwyaf, gan fachu’r llinellau mwyaf ffraeth.

Ar ei orau, dyma damaid i aros pryd tan gaiff Rhys yr alwad gan Woody Allen, all gynnig fersiwn lawer gwell o’r ffilm hon yn ei gwsg.

Y Sgôr terfynol* cookie_law_eucookie_law_eucookie_law_eubite- 010

*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 3 Cookie a hanner yn cyfateb i 7 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Adolygiad Ffilm – She’s Funny That Way (12) – gyda Rhys Ifans

  1. Hysbysiad: Adolygiad Theatr: No Wê (Theatr Bara Caws) | Lowri Haf Cooke

Gadael sylw