Cerddoriaeth, Celf & Crempogau Croeseiriog

Dwi’n gwbod bo fi di bod- hyd yma- yn un sâl am ddenu sylw i atyniadau i’r Gorllewin o’r afon Tâf yn y blog ond allai’ch sicrhau chi bod y gyfrol dwi wrthi’n ei sgwennu am Gaerdydd yn cynnwys cymaint o leoliadau yn Radyr a Riverside ag yn Rhiwbeina, y Rhymni a’r Rhath.

Un lle wnaeth fy nenu i groesi’r afon yn ddiweddar yw caffi Waffle yn Nhreganna, a sefydlwyd gan Victoria Morgan ar gornel Heol Clive a Stryd Ethel yn 2008.

Dwi wedi galw heibio am baned fwy nag unwaith, ond erioed wedi profi un o’u crempogau croeseiriog o’r blaen. Felly pan welais bod caffi Waffle yn cynnal arddangosfa arbennig yn dathlu 30 mlynedd ers sefydlu’r grwp Datblygu roedd yn rhaid mynd yno i gael pip- ac i brofi’r bwyd anfarwol.

A minnau wedi mwynhau darllen hunangofiant cryno ond coeth  David R. Edwards, Atgofion Hen Wanc (a’i hadolygu ar gyfer wefan BBC Cylchgrawn), roedd hi’n ddifyr iawn cael gweld casgliad o memorabillia mor ddiddorol ar waliau’r caffi.

I’r rheiny sy ddim yn gyfarwydd â’r band Cymraeg- a ddenodd ddilyniant sylweddol yma yng Nghymru a thu hwnt-  ystyriwch y gwerthusiad canlynol gan sefydlydd Culture Colony, y cynhyrchydd ffilm a theledu a’r ffotograffydd Pete Telfer , a dynnodd nifer o luniau eiconig ohonynt ar hyd eu gyrfa.

“Often sublime, sometimes difficult to listen to, but always right, Datblygu made beautiful music, they also made ugly music, they looked at life and told it how it is. All in all a truly timeless (and very important) body of work.”

Y cysylltiad rhwng y llecyn bach hyfryd hwn ac un o fandiau mwyaf herfeiddiol yr SRG yw’r ffaith mai chwaer fach Patricia Morgan  (a ymunodd â Datblygu ym 1984- dwy flynedd ar ôl ei sefydlu gan David R. Edwards a T. Wyn Davies yn Aberteifi) yw Victoria, ac felly mae’r gwaith sydd ar ddangos yn rhan o’i chasgliad personol hi.

Fe y gwelwch chi, mae na debygrwydd mawr rhwng y ddwy…

Roedd fideo Maes E yn chwarae oddi ar y chwaraeydd DVD tra ro’n i na, sef un o hoff ganeuon Victoria- ynghyd â Gwlad ar Fy Nghefn ac Y Teimlad– yr ola am i David ei sgwennu’n benodol i Pat.

Ymysg y gweithiau ar ddangos y mae erthyglau, casetiau wedi’u fframio, rhês o senglau 7 modfedd a chasgliad trawiadol o gloriau albymau, gan gynnwys y ddau albym gynta Wyau (1988) a Pyst (1990)- a gasglwyd ynghyd â Libertino (1993)  ar gyfer box-set arbennig ′nôl yn 2004, ac sydd ar werth o’ch siop Gymraeg leol, a gwefannau Ankst Musik a Sadwrn.Com.

Ceir hefyd lungopïau o’r cyfathrebu difyr a fu rhwng David a John Peel- un o’u cefnogwyr cynhara, a arweiniodd at recordio cyfres o sesiynau i’w raglen ar BBC Radio 1 a rhyddhau casgliad The Peel Sessions ym 1992- ar ffurf llythyrau a chardiau post.

Bydd yr arddangosfa i’w gweld tan ddaw’r Eisteddfod Genedlaethol i Fro Morgannwg, felly mae digon o amser i ymweld eto. Mae Pat wedi cynhyrchu crysau t gyda’r ddelwedd du a gwyn adnabyddus o David- dim ond 50 ohonynt sydd i gael, felly brysiwch i brynu os ydych am fachu un at yr Haf.

Dim ond ers pythefnos y mae’r arddangosfa wedi’i lawnsio, ac mae eisioes di creu argraff ar nifer, gan gynnwys un cwsmer cyson- Hywel William- gyfranodd boster gig at y gwaith sydd ar ddangos.

Rheswm arall wrth gwrs i ymweld â chaffi Waffle yw i brofi’r Waffles- a baratoir gan y chef– a phartner Victoria- Jules.

Os y chi’n gyfarwydd â melysion gludiog Waffles Tregroes, wel rhowch y ddelwedd honno i’r neilltu. Mae’r Waffles sydd ar werth yn y caffi yn debycach i’r hyn a fwyteir yng Ngwlad Belg neu i frecwast yn yr Unol Daleithiau, a ceir mathau melys a sawrus.

Mae cwsmeriaid yn heidio yno pan fo ganddynt benmaenmawr- cymaint nes y gallai Victoria ail-enwi’r cafe yn The Hangover Cafe yn hawdd- ond ês i yno gyda phen chlir a bol gwag er mwyn medru mwynhau pob brathiad.

Er mai’r clasur Americanaidd- Waffle gyda Bacwn, Wŷ ‘di Ffrio a Surop Masarn- sydd fwyaf poblogaidd, ceir hefyd Waffles gydag Afal a Thaffi, Bricyll a Chanu Ffrengig, a’r fersiwn symlaf, gyda Surop Masarn  a Siwgwr Eisin .

Yn y diwedd, ar ôl pendroni megis Christine Keeler yn un o gadeiriau Arne Jacobsen hynod gyffyrddus y caffi, es i am Waffl Ffrwythau’r Goedwig gyda Surop  Masarn a Hufen, a chwarae teg, roedd hi’n fendigedig- yn flasus tu hwnt ac yn annisgwyl o ysgafn.

Os nad oes chwant Waffle arnoch chi, yna mae’r fwydlen yn cynnwys brecwastiau mawr, brechdanau, cacennau cri a theisennau tylwyth teg, yn ogystal â ffefrynnau eraill cyfarwydd.

O ran diodydd, mae Richard o Abertawe yn barista gwerth ei halen, a ces i Latte lyfli ganddo.

Os nad y chi erioed wedi bod i Waffle o’r blaen, dyma’r cyfle perffaith i ymweld, i gael dathlu band o bwys mawr, a bwyd â blas arbennig.

Am ragor o wybodaeth am ben blwydd arbennig y band eleni, ymunwch â’r grwp Datblygu Trideg ar facebook. A  gwnewch ffafr da chi’ch hun- ar ôl pori trwy ôl-gatalog Datblygu ar wefan Ankst, a prhynu darlun pop-art trawiadol o David R. Edwards gan Malcolm Gwyon,  gwyliwch ffilm fer hynod Pete Telfer, Llwch ar y Sgrin, a gofnododd recordiad sengl ddwetha Datblygu yn 2008, sef Cân y Mynach Modern.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Bwyd, Caffi, Celf, Cerddoriaeth, Llyfrau. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Cerddoriaeth, Celf & Crempogau Croeseiriog

  1. Hysbysiad: 30 mlynedd o Datblygu | Y Twll

  2. Dywedodd Dylan :

    Mae gen i sawl llythr o Dave – wnaethom ysgrifennu at ein gilydd sawl gwaith pan wnes i creu albwm cyntaf fi yn 2009 yn Rhydychen sef “D. Gwalia – In Puget Sound” – Hoffem ymweld a’r arddangosfa hyn. Oedd Dave yn positif iawn am y gwaith yn gweud “fydde John Peel wedi ei whare fe” – A ydy’r arddagosfa ddal i fod yno??? Dwy’n dod o Ceredigion yn wreiddiol a hoffwn creu cerddoriaeth ‘da Dave os fydde e lan am e; er dwy’n parchu’r ffaith fod ei stad yn un weddol an-sefydlog. Diolch am rhoi’r wefan a’r erthygl lan ar y rhyngrwyd – Pob Parch, Dylan (aka D. Gwalia)

  3. Dywedodd lowrihafcooke :

    Diolch am yr ymateb Dylan. Ma’r arddangosfa dal mlaen- tan o leia fis Gorffenaf/ Awst dwi’n credu. Cer i dudalen facebook Datblygu Trideg (linc uchod) os am ragor o updates am yr arddangosfa. Pob hwyl da’r gerddoriaeth- newydd fod i dy wefan, mae’n swnio fel sain epic, aml-haenog a diddorol iawn i mi, Lowri

Gadael sylw