Adolygiad o Gig Geraint Jarman, Clwb Ifor Bach, Mai 12ed 2012

Fel aros am Cardiff Bus mae’n debyg, mae disgwyl am berfformiad byw gan Geraint Jarman yn medru bod yn brofiad rhwystredig tu hwnt. Ond, yn union fel yn achos bysus Caerdydd, ar ôl aros cyhyd am un perfformiad, yn gynharach ym mis Mai glaniodd dau tua’r un pryd.

Gwyl Macs 2007 oedd y tro dwetha i mi fynychu cyngerdd gan Geraint Jarman, pan oedd yn rhannu’r llwyfan â’r dub-feistri Llwybr Llaethog. Cyn hynny, cefais fodd i fyw yng nghyngerdd Cymuned ynng nghefn tafarn y Royal Oak yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ym Meifod yn 2003- noson a orffenodd gyda fersiwn Tich Gwilym o’r anthem genedlaethol, ac a gofnodwyd yn nofel gryno orwych Robin Llywelyn, Un Diwrnod yn yr Eisteddfod.

Ers adolygu ei albwm ddiweddara, Brecwast Astronot , ar wefan Y Twll adeg yma y llynedd, mae’r CD wedi datblygu’n ffefryn mawr gen i, ac ymysg fy hoff ganeuon y mae’r gân hyfryd ag iddi naws wledig, Llinyn Arian,  yr hwiangerdd hiraethus Nos Sadwrn Bach a Baled y Tich a’r Tal– teyrged afieithus Geraint i Tich Gwilym, a fu farw mewn tân yn 2005.

Roedd canfod copi gwreddiol o’i gyfrol gynta o farddoniaeth,  Eira Cariad- a gyhoeddodd dros ddeugain mlynedd yn ôl ym 1970- mewn siop lyfrau ail law yn ystod Gwyl y Gelli yn uchafbwynt arall y llynedd, gan ei bod hi’n gyfrol llawn cerddi cynnil sy’n gwyro o’r dwys a’r ingol, i ambell ddarn llawn hiwmor ffraeth a swreal.

Pan sylwais , felly, ar boster trawiadol gan yr artist Rhys Aneurin yn hysbysebu cyngerdd Jarman ar Fai 12ed eleni, ro’n i’n llawn cynnwrf ac yn benderfynol o fynd.

Yna, ′rôl trefnu i aros gyda nghyfnither Rhian a’i theulu yn Llys Owain y Bala adeg y Fedwen Lyfrau ar benwythnos Mai 4ydd-5ed, deallais y byddai Geraint Jarman yn lawnsio Cerbyd Cydwybod– ei gyfrol gyntaf o gerddi ers Cerddi Alfred Street ym 1976- yn nhafarn y Plas Coch. Doedd dim dwywaith amdani, roedd rhaid mynd i hwnnw hefyd.

Ar ôl  teirawr a hanner ar yr A470, roedd cael gwrando ar Geraint yn rhannu rhai o’i gerddi- o deyrngedau i Siân James a’i ferch Mared, i brofiad mewn bwyty shabu shabu yn Rappongi, Tokyo- ac yn ateb cwestiynau treiddgar ei olygydd Elinor Wyn Reynolds yn brofiad difyr tu hwnt. Siaradodd yn onest ag ystafell llawn gwerthfawrogwyr am  fyw gyda bwgan iselder, ac am ddylanwad beirdd mor amrywiol ag Euros Bowen a Gerard Manley Hopkins arno ef.

Roedd y gig mawr ei hun wythnos yn ddiweddarach yn fy marn i yn ardderchog, a llawr ucha Clwb Ifor Bach yn orlawn o ddilynwyr o sawl cenhedlaeth- o brifeirdd ac actorion i aelodau o fandiau amlyca’r SRG- gyda nifer yn eu plith nad oedd wedi tywyllu’r clwb Cymraeg ers degawd a mwy ′rôl cael plant. Yn y blaen, roedd cyfaill mawr Jarman, Robin Llywelyn, yn dawnsio i bob un cân o’r set  a barhaodd am awr a hanner go dda.

Mae’n flin iawn gen i ddweud i mi gyrraedd yn rhy hwyr i glywed set Gareth Bonello, oedd yno’n cefnogi ar y noson, ond clywais adroddiadau ffafriol tu hwnt o’i berfformiad yntau- a chyd-berfformiad arbennig â Jarman ei hun.

Mae rhywbeth yn dweud wrtha i na chafwynt noson cweit mor wyllt â’r gig a gynhaliwyd yng Ngwesty Portmeirion ym mis Tachwedd, ond roedd pawb wrth eu boddau wrth glywed ystod da o’i yrfa gerddorol, gan gynnwys cynnyrch albymau Tacsi i’r Tywyllwch (1977), Hen Wlad Fy Nhadau (1978), Fflamau’r Ddraig (1980) Rhiniog (1992) hyd at Brecwast Astronot (2011).

Un o’r prif resymau nad yw Jarman yn gigio mor aml â hynny yw am fod yn well ganddo aros nes fod pob aelod o’i fand diweddara ar gael i berfformio ′run pryd. O brofi cyfraniad trydanol y gitarydd – ac aelod o’r band roc anferthol Pendulum– Peredur ap Gwynedd i’r noson, fedra i ddeall pam na fyddai Geraint am gyfaddawdu ar safon y sain pan fo ganddo gyd-gerddorion gwefreiddiol sy’n dehongli ei waith mor wych.

Dechreuwyd yn gadarn yng ngwmni’r clasur herfeiddiol Bourgeois Roc, cyn gwyro o’r hen i’r newydd ac yn ôl gyda Lawr yn y Ddinas, Miss Asbri 69, Llinyn Arian, Methu Dal y Pwysa a Tracsuit Gwyrdd.

Yna, ar ôl ail-ymweld â’i ffefrynnau reggae, cafwyd cyfres o ganeuon newydd o’r albwm Brecwast Astronot– gan gynnwys Llinyn Arian a Syd ar Gitar– teyrnged Geraint i Syd Barrett a fu’n ymwelydd cyson â Chaerforiog ger Solfach pan oedd angen dianc rhag y mwg mawr.

Codwyd y tempo ymhellach wrth neshau at y diwedd, yn dilyn fersiwn ysgytwol o Baled y Tich a’r Tal a orffenodd â choda tawel a dirdynnol diolch i’r cyfuniad o allweddellau Frank Noughton a llais addfwyn Jarman, oedd yn amlwg dan deimlad mawr.

Roedd y dorf yn eu helfen wrth glywed Ethiopia Newydd, a barau trawiadol cynta Gwesty Cymru, a cafwyd bonllef o weiddi “mwy mwy mwy” cyn daeth y band cyfan ′nôl am encore oedd yn cynnwys Nos Da Saunders  a Mae Rhywbeth Bach yn Poeni Pawb o Hyd.

Cafwyd noson wirioneddol arbennig lawr yn y ddinas- taith cyfan amdani nawr plis.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Cerddoriaeth, Llenyddiaeth. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael sylw