Adolygiad Ffilm: Grace of Monaco (PG)

Grace of MonacoY Sêr: Nicole Kidman a Tim Roth

Y Cyfarwyddo: Olivier Dahan

Y Sgrifennu: Arash Amel

Hyd: 103 mun

Adolygais y ffilm Grace of Monaco ar raglen Prynhawn Da ar S4C ar ddydd Gwener, Mehefin 6ed – ac ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul ar BBC Radio Cymru ar ddydd Sul, Mehefin 8ed, 2014. Cliciwch yma i wylio eto – a cliwciwch yma i wrando eto.

Pan ddangoswyd Grace of Monaco o flaen beirniaid Gwyl Ffilm Cannes, cafodd y ffilm ei llabyddio yn wasg ; fel yn achos Diana y llynedd, dydy hi  wir ddim cynddrwg â hynny.

Mae hi ymhell o fod yn ffilm erchyll y penawdau, ond mae hi’n bendant yn ffilm  hynod ddiflas, sy’n gwneud anghyfiawnder mawr â hanes rhyfeddol Grace Kelly.

Trodd y ferch o Philadelphia  ei gorwelion at fyd y sinema yn ystod ei hueiniau cynnar, gan ennill Oscar fel yr actores orau yn ffilm The Country Girl (1954) yn 24 mlwydd oed. Lai na dwy flynedd yn ddiweddarach trodd ei chefn ar Hollywood er mwyn priodi â Thywysog Rainier III o Fonaco – dyn yr oedd hi prin yn ei adnabod pan ymrwymodd hi i fywyd brenhinol. Bu farw’r actores mewn damwain car amheus ym 1982, a fyth ers hynny, fe’i phortreadwyd fel tywysoges drasig.

Does gan y ffilm ddim diddordeb mewn cynnig biopic o’r hanes hyn; yn hytrach, canolbwyntir ar gyfnod benodol iawn o’i bywyd, tra roedd Monaco a Ffrainc yng ngyddfau’i gilydd, ym 1962.

Gyda Ffrainc ar ganol brwydr waedlyd ag Algeria, roedd Charles De Gaulle yn benderfynol o gael ei fachau ar gyfoeth tywysogaeth Monaco, oedd yn deillio o’i statws fel hafan dreth i biliwnyddion y byd. Yn naturiol, dymuniad mwyaf Rainier oedd gwarchod ei fuddiannau ei hun – ac fe lwyddodd i ddal ei dir, diolch i gymorth Grace.

Y mae’r ffilm yn orlawn o olygfeydd diflas o ddiplomyddiaeth dynion barus y byd, gyda Grace (Nicole Kidman) yn ymddangos o’r ymylon  i  achub y dydd. Nawr pwy yn ei iawn bwyll, yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, fyddai’n mentro portreadu’r bobol hunanol hyn fel ymladdwyr dros ryddid a hunaniaeth cenedl fechan?  Defnyddir union yr un trosiad yn achos Grace a’i phriodas â Rainier (Tim Roth).

Ceir ymgais hefyd i archwilio penderfyniad yr artist i gefnu ar ei chrefft; dadl fawr y ffilm yw fod Grace wedi derbyn rôl fwyaf ei gyrfa fel actores, wrth geisio darbwyllo trigolion Monaco ei bod hi’n un ohonyn nhw.

Er cystal actores yw Nicole Kidman, rwy’n amau y byddai January Jones o Mad Men wedi bod yn ddewis gwell i chwarae Grace Kelly, ond mewn mannau, mae hi’n ymdebygu’n fawr i’r dywysoges drist. Ymysg rhagoriaethau mwya’r ffilm y mae cerddoriaeth Christopher Gunning a’r gwisgoedd godidog gan GiGi Lepage, a fenthycodd drysorau o archifau Hermes, Chanel a Christian Dior.

Fel yn achos Diana dyw hi ddim yn ffilm echrydus , ond byddai wedi gwneud TV Movie lawer gwell; dyma wledd i’r llygaid i fwynhau gyda’ch bysedd yn eich clustiau.


Sgôr Terfynol*:
 

Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 3 Cookie yn cyfateb i 6 allan o 10.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael sylw