Erthygl Barn… Ddoe Heddiw ac Yfory; Celfyddyd Kathryn Ashill

(Llun: Freya Dooley)

Ar noson braf o hydref yn Long Island City, Efrog Newydd, mae Kathryn Ashill,  artist o Gymru, yn sefyll mewn tracsiwt biws o flaen gofod gelf Flux Factory. O’i blaen ar balmant 29th Street  y mae pentwr bach o gerrig porffor, a nesaf ati arwydd gyda’r geiriau ‘YOU ARE WELCOME TO THROW AMETHYST AT ME’.

Rhan gyntaf o osodwaith yw’r perfformiad dan sylw, a rhan o arddangosfa o’r enw The Loneliness of the Middle-Distance Runner a guradwyd gan Sam Perry o oriel G39 a chanolfan Chapter , Caerdydd, a hynny dan nawdd Celfyddydau Cymru Rhyngwladol. Ond mae gwreiddiau prosiect y Gymraes o Bontardawe  yn ôl i’w hymweliad ag Efrog Newydd  bum mlynedd union yn ôl.

A hithau’n 23 oed ar y pryd, aeth yr artist chwilfrydig i weld seicig ar West 23rd Street ac 8th Ave ar ynys Manhattan. Gofynnodd  y rhagweledydd, oedd yn gwisgo tracsiwt biws, iddi afael mewn carreg fawr a fyddai’n amsugno ei hegni. Ufuddhaodd Kathryn, cyn rhoi’r garreg yn ôl i’r wraig ddiethr hon na wyddai ddim oll amdani. Ar ôl ysbaid, rhannodd y seicig y canfyddiadau canlynol gyda hi; ‘You are an Artist. You are in love. You’re not going to be a mother. You’re too selfish.”

Brawychwyd Kathryn gan y geiriau hyn, gan mai bod yn fam oedd un o’i dyheadau mwyaf.  Dyfnhawyd arwyddocâd y broffwydoliaeth ar ôl dychwelyd adre , pan ddarganfu ei bod yn feichiog. Tad y baban yn ei chroth oedd ei phartner ar y pryd, a oedd yn dreisgar tuag ati. Wedi cyfnod cythryblus gyda’r  dyn hwn, ystyriodd Kathryn yn ddwys cyn penderfynu cael erthyliad. Fyth ers hynny, mae’r profiad wedi lliwio rhan fawr o’i gwaith celf, sydd wedi’i harwain at ddau gyfraniad i’r Biennale yn Fenis, a Flux Factory Efrog Newydd.

‘Fi’n hollol agored am yr erthyliad, ac wedi trafod y peth gryn dipyn yn fy ngwaith. Ond dyw e ddim yn fy niffinio fi fel person, ac os yw pobol yn fy meirniadu i, yna eu problem nhw yw hynny. Dwi’n gwbod imi wneud y peth iawn- do’n i ddim eisiau i ′mhlentyn i ddioddef sgil-effeithiau perthynas hunllefus .’

Er gwaetha’r profiad cyntaf hwnnw gyda seicig, a’r hyn a ddilynodd, sylweddolodd Kathryn  fod potensial mawr i greu prosiect celf am y pwnc, yn archwilio pŵer y bobol hynny sy’n honni bod ganddynt rymoedd rhagweledol i lywio ffawd eu cwsmeriaid.

‘Roedd fy nhad yn arfer gweithio yn ffatri  Tic Toc yn Ystradgynlais ac un o’i gydweithwyr e oedd ″Psychic Sue″. Mae ′na draddodiad mawr yng nghymoedd de Cymru o bobol sydd â grymoedd tebyg, ond ′chi byth yn gwbod os mai gallu gwirioneddol sy ′da nhw, neu eu bod nhw jyst yn nabod eu cymuned yn dda!’

Ar ôl ymchwilio a chael gafael ar enwau rhagweledwyr eraill yn ne Cymru, dechreuodd Kathryn ymweld ag amrywiaeth dda ohonynt, gan recordio’r canfyddiadau a’u proffwydoliaethau ar ôl derbyn eu caniatâd.

‘Es i i weld rhywun oedd yn arbenigo mewn darllen dwylo, a seicig gwrywaidd, a d’wedodd e “fe wnei di briodi a chael plant, ond rwyt ti’n hoyw”! Dwi’n eitha siwr ′mod i ddim yn hoyw, ond ′nath e roi shiglad go iawn i fi.  O’n i am fynd i weld Aura-Reader hefyd, ond i fod yn onest, wnaeth yr holl ymatebion amrywiol hyn yn fy anesmwytho i’n llwyr, ac felly wnes i stopio mynd i’w gweld nhw am dipyn.’

Wrth edrych yn ôl yn awr ar y cyfnod ymchwil cychwynnol, mae hi’n sylweddoli ei bod hi’n llawer rhy ifanc ar y pryd i adael i eraill herio’i  hunaniaeth, yn enwedig ar ôl ei phrofiad o berthynas dreisgar a’i phenderfyniad i gael erthyliad. Felly rhoddodd y gwaith ymchwil o’r neilltu dros dro, gan fynd ar drywydd themâu eraill yn archwilio  ‘hanes, pobol, a’r synnwyr o leoliad’.

Ym Mhehefin 2008, cynhaliodd arddangosfa hynod bersonol yn dwyn y teitl  Tawe Performances,  pan gamodd yn noethlymun i bedwar man ar hyd yr afon Tawe . Estyndodd wahoddiad i aelodau o’i theulu, ei ffrindiau a dieithriaid i ymuno â hi yn y dŵr a’i golchi’n burlan, gan gychwyn gyda gosodwaith o’r enw Mamolaeth nid nepell o’i chartre ym Mhontardawe.

(Llun: Rhiannon Wildman)

Roedd y gwaith ar-leoliad Craig y Nos yng Nghorffennaf 2010 yn ymateb  i’w hatgofion plentyndod o Gastell Craig y Nos ac i hanes y gantores opera fyd-enwog a fu’n byw yno ar droad yr 20g., Adelina Patti.

(Llun: Joanne Sutton)

A’r llynedd, ar ôl darganfod yr hanes wrth gerdded o amgylch mynwent Cathays Caerdydd, cyflwynodd y perfformiad teyrnged In Memory of Balloon Girl , er cof am Louisa Maud Evans, merch ifanc a fu farw mewn damwain balŵn awyr uwchben Afon Hafren ′nol yn 1893.

(Llun: Joanne Sutton)

Mae ei gwaith wedi denu clod, a sylw rhyngwladol, diolch i gyfranaiadau ganddi i arddangosfeydd cymysg yn Biennale Fenis yn 2009 a 2011 , ac yn ôl yr artist o Bont-iets Peter Finnemore (enillydd Medal Aur Celfyddyd Gain Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005), mae Kathryn ei hun yn rhan ganolog o’i gwaith;

‘Kathryn, a Welsh speaker, has made a commitment to contribute to the cultural life of her homeland. Her artwork is a complex of interactions between power relations, body identity, physical geography, culture, society, history, story, politics and place. Through the international language of art she interacts and illuminates the ‘specifics of place’.

Eleni, bum mlynedd union ar ôl clywed y broffwydoliaeth arswydus ar 2 Hydref 2007, dychwelodd Kathryn at yr un rhagweledydd yn union ar West 23rd Street ac 8th Ave er mwyn aildanio’i hymchwil ar gyfer prosiect For Future Reference.

‘Bum mlynedd yn ôl, do’n i wir ddim yn nabod fy hun yn ddigon da i ddelio gyda’r holl ″ddyfodolion″ posib. Erbyn hyn, dwi’n gweld popeth o berspectif gwrthrychol; mae cymaint o bethau’n medru digwydd mewn bywyd, ac wrth gwrs, mae’r bobol hyn i gyd yn iawn mewn ffordd. Fe all pob un o’r ffawdiau hyn ddigwydd.’

Wrth i Kathryn sefyll o flaen adeilad Flux Factory, yn ei hefelychiad hi o dracsiwt ei rhagweledydd a nesaf at yr arwydd yn estyn gwahoddiad i eraill ei llabyddio yn enw celf, roedd ymateb un aelod o’r gynulleidfa’n ddadlennol tu hwnt.

‘Trwy gyd-ddigwyddiad llwyr, fe ddaeth seicig arall i weld noson agoriadol yr arddangosfa, a chafodd hi dipyn o fraw. Fe wrthododd hi’n llwyr â thaflu carreg amethyst ata i, oherwydd iddi hi, nid arf ddinistriol oedd y garreg honno iddi hi ond ffynhonell iachâd.’

Ar ôl sefyll am gyfnod i gyfeiliant sŵn traffic arferol nos Wener, ffrae stryd rhwng dau gariad, y Q Train cyfagos, a chleber cerddwyr cŵn, casglodd Kathryn y cerrig amethyst yn ei harffed, ac arwain ei chynulleidfa i mewn i adeilad Flux Factory fel pibyth brith. Yno, eisteddodd mewn cornel gan daflu’r cerrig at argraffiad o’r broffwydoliaeth wreiddiol, a  chopi o’r geiriau newydd a rannwyd gan yr un ddynes rai dyddiau ynghynt.

‘HOLD QUARTZ IN YOUR PALM LIKE YOU ARE A BUTTERFLY IN A COCOON. YOU ARE YEARNING FOR MARRIAGE AND FAMILY. YOU WILL RELOCATE SOON. YOU WILL STRUGGLE TO REACH YOUR FUTURE.”

Ar ddiwedd yr arddangosfa, ar ôl newid o’r tracsiwt biws, roedd Kathryn yn llawn egni a brwdfrydedd, ac wedi’i sbarduno i barhau â phrosiect For Future Reference.

‘Roedd gweld y ddynes unwaith eto yn rhyddhad mawr a dweud y gwir. Roedd hi’n lot neisiach gyda fi’r tro ′ma, sy’n gwneud i fi feddwl falle ei bod hi jyst yn cael diwrnod gwael bum mlynedd yn ôl! Nid diweddglo yw hyn o gwbl i mi, dim ond y dechre yw hyn, a dwi’n edrych mlaen i ddychwelyd i Gymru i gario mla’n da’r gwaith.’

Fel un o dywyswyr arddangosfa Gwobr Artes Mundi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, bydd Kathryn yn ymateb i waith un o’r saith artist fydd yn cael eu harddangos, sef Teresa Margolles, a hynny ar 1 Tachwedd, sef achlysur Dio De Los Muertos (Diwrnod y Meirw) ym Mecsico.

Am ragor o wybodaeth ynglyn â gwaith Kathryn Ashill, gan gynnwys perfformiadau pellach o For Future Reference, ewch i’w gwefan, neu ei blog.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Celf. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Erthygl Barn… Ddoe Heddiw ac Yfory; Celfyddyd Kathryn Ashill

  1. Hysbysiad: Adolygiad Ffilm: The Master (15) | Lowri Haf Cooke

Gadael sylw