Adolygiad Ffilm: The Last Days of Dolwyn (PG)

The Last Days of Dolwyn DVD

Y Sêr: Emlyn Williams, Edith Evans, Richard Burton a Kenneth Griffiths

Y Cyfarwyddo: Emlyn Williams

Y Sgrifennu: Emlyn Williams

Hyd: 95mun

Siaradais ar raglen Heno ar S4C yn dilyn dangosiad arbennig o The Last Days of Dolwyn yng nghanolfan Chapter Caerdydd; gwyliwch yr eitem, tua dechrau’r rhaglen, i glywed cefndir y ffilm.

Trwy gydol mis Chwefror mae canolfan y Chapter yng Nghaerdydd yn cynnal tymor o ffilmiau Cymreig o ganol yr 20fed Ganrif, gan gynnwys ffilm gyntaf Richard Burton, The Last Days of Dolwyn. Roedd gen i reswm arbennig i fynychu dangosiad o glasur Emlyn Williams, i gael profi drosta i fy hun a oedd chwedl deuluol yn gywir.

Mae’r ffilm ei hun yn dilyn hanes pentre dychmygol Dolwyn yng Nghanolbarth Cymru, sy’ dan fygythiad cael ei boddi i ddarparu dwr ar gyfer trigolion Lerpwl.

Os yw  hynny’n swnio’n gyfarwydd, cofiwch i’r ffilm ragweledol hon gael ei rhyddhau ym 1949- bron i bymtheng mlynedd cyn boddi Cwm  Tryweryn. Ysbrydolwyd y ffilm, yn rhannol ta beth, gan hanes cynharach boddi Cwm Elan, lle ffilmwyd rhannau o’r cynhyrchiad.

Pensaer cynllun y ffilm yw cymeriad o’r enw Rob (Emlyn Williams); dyn a gafodd ei erlid o’r pentre’n fachgen am ddwyn arian casgliad y capel, ond sydd bellach yn gweithredu fel yr asiant i’r tirfeddiannwr.

Y mae’r ffilm yn gyforiog o gyffyrddiadau Cymraeg a Chymreig, gan gynnwys cyflwyniad cyntaf yr asiant dichellgar wrth iddo wfftio cyngor y gweinidog lleol  (Kenneth Griffiths), yn ogystal ag arfer y bugail mwyn o gadw’i ddefaid yn ddiddig wrth ganu yn Gymraeg.

Ai ati i brofi y gall hafan mor heddychlon â Dolwyn gael ei difetha gan ragrith a thrachwant, wrth iddo geisio llwgrwobrwyo’r trigolion i adael cefn gwlad.

Ymddengys i’w gynllun brofi’n llwyddiant, tan iddo wynebu gwrthwynebiad un teulu bach; y weddw Meri (Edith Evans), sy’n ofalwraig ar y capel, a’i meibion Dafydd (Anthony James) a  Gareth (Richard Burton)- y siopfeistr lleol a drodd ei gefn ar oleuadau Llundain, ac sydd wedi mopio’n lân â merch y plas.

Richard Burton, The Last Days of Dolwyn

Wna i ddim datgelu rhagor, gan y caiff y ffilm ei rhyddhau ar DVD ar Chwefror 18ed, a cewch brofi’r berl fach hyfryd hon drosoch chi eich hun.

Mae’n wir ei bod yn felodrama reit sentimental mewn mannau, ond mae The Last Days of Dolwyn yn sicr yn werth ei gweld. Mae’r trac sain bendigedig yn plethu cymaint o alawon Cymraeg â’i gilydd (Ar Lan y Môr ac Aderyn Pur i enwi ond dwy), ac mae perfformiad Edith Evans fel y fam benderfynol yn drawiadol tu hwnt.

Yn ogystal, dyma’r unig ffilm a gyfarwyddwyd gan Emlyn Williams, yr actor a sgwennwr tra llwyddianus o Fostyn, sir Fflint, ac er iddo chwarae’r brif ran, Rob, mae’n amlwg iddo’i hystyried yn lwyfan sinematig i un o dalentau mwyaf ein gwlad.

Roedd o eisioes wedi sbotio Richard Burton o Bontrhydyfen mewn rhagbrawf theatr bum mlynedd ynghynt a’i gastio yn ei ddrama hunangofiannol The Druid’s Rest, ac fe wyddai’n iawn y byddai Burton yn bresenoldeb trydanol mewn ffilm fawr o’i fath.

Mae’n hyfryd cael gweld Burton yn ifanc a hardd, ond yn bwysicach na hynny, yn cael cyfle i siarad gymaint o Gymraeg ar y sgrîn fawr.

Roedd gen i reswm bach arall i weld The Last Days of Dolwyn, ac rwy’n falch iawn i mi wneud.

Mewn golygfa deuluol rhwng Meri a’i dau fab, clywir gras o flaen bwyd, sef englyn fy Nhaid, W.D. Willliams, O Dad, yn Deulu Dedwydd… yn cael ei hadrodd ar ei hyd.

Roedd Yncl Iolo wedi sôn ers blynyddoedd fod y gerdd yn ymddangos yn y ffilm, ac i’r cynhyrchydd ymweld â Taid yng nghartre’r teulu, Twyni yn y Bermo, i ofyn caniatad i’w defnyddio tra’n ffilmio’r cynhyrchiad yn Rhydymain.

Aeth Taid ag Yncl Iolo ac Yncl Iwan (oedd yn eu harddegau ar y pryd, a thipyn hyn na’u chwaer fach, Nia, fy mam) i aros at Yncl Bob ac Anti Edith oedd yn cadw fferyllfa yn Elgin Crescent, Notting Hill, er mwyn mynychu dangosiad o’r ffilm yn y West End ym 1949.

Roedd Taid yn hynod falch o’r gerdd- a gipiodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Llawr Dyrnu’r Sarnau ger y Bala ar nos Galan 1941- sydd wedi dod yn englyn eiconig ar gôf miloedd, a diolch i hud Hollywood, a deithiodd y byd yn grwn.

O, Dad, yn deulu dedwydd – y deuwn                                                                                                Â diolch o newydd.                                                                                                                           Cans o’th Law y daw bob dydd                                                                                                         Ein lluniaeth a’n llawenydd

W.D. Williams

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Adolygiad, Ffilm, Llenyddiaeth. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Adolygiad Ffilm: The Last Days of Dolwyn (PG)

  1. Hysbysiad: Adolygiad Ffilm: Hitchcock (12) | Lowri Haf Cooke

  2. Dywedodd welbru :

    Pob plentyn ysgol yn adnabod y weddi yna Lowri. Ond diolch o’r newydd gydag r ydy o’n de?

    • Dywedodd lowrihafcooke :

      Diolch yn fawr am yr arsylwad- cyfle perffaith i wneud yn iawn am gamddealltwriaeth sydd wedi para sawl cenhedlaeth! Ces gadarnhad yn ddiweddar gan fy ewyrthod annwyl, sef brodyr fy mam- Dr Iwan Bryn Williams y Bala, a Dr Iolo Wyn Williams, Tregarth- mai “o newydd” ac nid “o’r newydd” sy’n gywir- ac mae’r dystiolaeth i’w gweld ar dudalen rhif 65 o un o gyfrolau fy Nhaid, sef “Cân ac Englyn” gan W. D. Williams (Gwasg Gomer, 1950). Y fersiwn anghywir sydd i’w gweld ar Wicipedia a wefannau amrywiol, ond dwi’n falch i ddweud mai’r fersiwn gywir a glywir yn y ffilm.

  3. Hysbysiad: Cyfeillgarwch | Lowri Haf Cooke

Gadael sylw