Cromlech Kryptonaidd, terrine llawn pys a dyn yn wylo’n dawel; dim ond tri o’r pethau wnaeth argraff arnaf yn Fenis ar wibdaith i bendraw’r bydysawd.
‘Diolch byth am Bedwyr Williams!’ ywr linell sy’n neidio i ’mhen bob tro y gwelaf i arddangosfa gan yr artist hwn. Y tro ma, mae lle i ddiolch i’w dad yn ogystal.
Tra oedd yn blentyn ar ei brifiant ar gyrion Bae Colwyn, cafodd Bedwyr lifft adre gan ei dad; a hithau’n noson braf roedd y ffurfafen glir yn gefnfor o sêr o’u blaenau. Pan rannodd Bedwyr bach ei ryfeddod â’i dad, cynghorodd Mr Williams ef i beidio â meddwl gormod am y bydysawd.
Ddegawdau’n ddiweddarach, ag yntau’n artist o fri, cafodd ei ddethol i gynrychioli Cymru yng ngwyl gelf ryngwladol Biennale Fenis.
Bedwyr ei hun a rannodd yr hanesyn teuluol hwn â’r gynulleidfa mewn symposiwm i seryddwyr yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan dro’n ôl. Cynhadledd undydd oedd hon a drefnwyd ganddo ef ar gyfer arbenigwyr ac amaturiaid yn y maes, fel rhan o’i ymchwil ar gyfer ei osodwaith yn Fenis.
Rhaid dweud i mi gydymdeimlo braidd â drwgdybiaeth ei dad yn dilyn diwrnod o deimlo’n dwp a dibwys. Agorwyd blwch Pandora i mi y diwrnod hwnnw ym mis Mawrth, wrth imi ryfeddu at angerdd di-ben-draw arbenigwyr ar lwch cosmig a phethau o’r fath.
Gadewais y gynhadledd yn benysgafn braidd, yn ceisio dyfalu sut goblyn y gallai’r artist greu synnwyr o’r cyfan. Y mae’r ateb i hynny erbyn hyn yn llechu ar lan camlas braf yn y Ludoteca Santa Maria Ausiliatrice yn Fenis.
Mae’r gosodwaith ei hun yn cynig profiad synhwyrus â’m gadawodd gyda gwên lydan ar fy wyneb. Os cewch chi gyfle i deithio i Fenis eleni, ewch i’w weld – mae’n arddangosfa boncyrs ond bendigedig.
Daw teitl y gwaith, The Starry Messenger, o draethawd a sgrifennwyd yn 1610 gan Galileo, yn dilyn ei ymchwil seryddol yntau yn Fenis. Mae’n dathlu cyfraniad y pethau bychain i’r darlun mawr, a chawn gyflwyniad i’r darn yng nghwmni arwr tawel ym myd seryddiaeth.
Gofynnir i ni roi unrhyw anghrediniaeth o’r neilltu, wrth gamu dros borth y Ludoteca, a pharatoi am siwrnai trwy gyfres o stafelloedd amrywiol i gorneli pellaf ein dychymyg. Cyflwynir ffan hynod ffynci – un o freebies gorau’r wyl- i’n gwyntyllu ar hyd y daith ac yn hongian o’n blaenau y mae llen fawr theatrig sy’n efelychu’r llawr terrazzo dan draed.
Wrth gamu trwy’r llawrlen tri-deimensiwn, wynebwn arsyllfa amatur yng nghanol capel mawreddog y Ludoteca. Wrth sylwi mewn rhyfeddod ar y ffresgos uwchben , cawn ein denu at ddrws cilagored yr arsyllfa. Yno, cawn gip ar olygfa gomig o swreal sy’n nodweddiadol o hiwmor tywyll Bedwyr Wiliams. Yn wylo’n dawel yn sied ei ardd gefn y mae seryddwr amatur, gyda thermos a phaned yn oeri. O’i flaen ceir gliniadur yn dangos siwrnai ddiddiwedd y sêr, sydd i’w gweld yn glir trwy wydr ei delesgop .
Ymlaen â’r daith, i stafell dywyllach ac iddi awyrgylch ymlaciol hamam. Y mae’r aer cynnes a geir yno fel cwrlid o lwch cosmig o’n cwmpas. Yn llechu islaw y mae pwll dŵr llawn cerrig yn hytrach na’r carpiaid Koi arferol.
Fe’n siarsiwn i barhau â’r daith i stafell hollol dywyll, lle cawn brofi adlais ein plentyndod wrth ail-fyw hwyl y ffair. Wrth gamu’n ansicr trwy’r düwch dirfodol, cawn ein cwmpasu gan gant a mil o sêr bychain. Arnofiwn yn braf ar hyd y llwybr llaethog, cyn glanio yng nghysgod monolithau mawreddog. Dim ond fflachiadau o liwiau neon sy’n goleuo’r meini marmor, sy’n dwyn i gof gromlech o’r blaned Krypton.
Cawn ein lleihau o faint cawr i faint pitw un o gerrig y llawr terazzo erbyn i ni gyrraedd cam nesaf y daith, lle cyflwynir delwedd o fwrdd cegin anferthol uwch ein pennau. Trwy’r arwyneb gwydr gwelwn olion ein bywydau bob dydd; hors ddillad, rhidyll a gwydrau gwin ymysg manion anferthol eraill.
Wedi siwrnai hwyliog, sy’n adleisio’r ffilm Honey I Shrunk The Kids, hyn eto’n swreal, cawn ein lleihau ymhellach i faint atom, wrth i’r artist ein tywys ar wibdaith i ymylon eithafol ei ddychymyg. Ar wal fideo o’n blaenau, wynebwn freuddwydlun bendigedig sy’n ein diddanu a’n dieithrio bob yn ail.
Fel yn achos ein breuddwydion ni ein hunain, neidiwn o un olygfa i’r llall a hynny’n gwbl ddirybudd. O gadair y deintydd i garchar S&M, heibio jelis llawn ffrwythau a llysiau; nid yn unig cawn ein cipio i’r cymylau fry uwchben, ond rhannwn sesiwn o synfyfyrio yn stafell wely ein plentyndod. Ein tywysydd ar hyd y daith yw’r artist ei hun, ar ffurf ellyll cyfeillgar wedi’i orchuddio gan gerrig terrazzo.
Cawn ein deffro o freuddwyd yr artist gan swn clec fawr, cyn cael ein chwydu allan i iard gefn i gyfeiliant heddychlon sain adar a chriciaid. Mae un cam ar ôl, sef bachu pamffled o eiriau’r artist, a chamu trwy stafell y glanhawr mewn perlesmair.
Roedd y gwyntyll bach ffynci yn handi tu hwnt wrth i mi geisio dod at fy nghoed wedi’r wibdaith. Serch yr elfennau afreal, doedd dim byd astrus am y gwaith; ro’n i’n awchu am un ‘reid’ arall, ond roedd rhaid bwrw ′mlaen â’r Biennale.
Wedi’r chwa o egni newydd a brofais yn arddangosfa Bedwyr, ces f’atynnu at arddangosfeydd eraill a oedd yr un mor synhwyrus. Yn y Giardini canolog, gosodweithiau Gwlad Belg a’r Ffindir aeth â hi; fe’m gadawyd yr un mor benysgafn ganddyn nhw â chan fws dŵr y Vaporetto. Coed cloff oedd dan sylw ym mhafiliynau’r gwleydydd hynny, a phrofais grino coedwig fyw yn yn neuadd Alvar Alto y Ffindir.
Yn arddangosfa ganolog Il Palazzo Enciclopedico, gwireddwyd breuddwyd fawr y diweddar artist Marino Auriti. Yn 1955, cofrestrodd yr Eidalwr-Americanwr ei weledigaeth ei hun ar gyfer amgueddfa a fyddai’n gartref i holl wybodaeth y byd, gyda swyddfa batent yr Unol Daleithiau. Eleni, daeth curadur y Biennale, Massimiliano Gioni o New Museum Efrog Newydd â gweithiau cannoedd o artisiaid rhyngwladol ynghyd; i gyd yn eu ffyrdd eu hunain yn mynegi’u hobsesiwn â deall popeth.
Fel yn achos gwaith Bedwyr, ymlafniodd nifer o’r artisiaid hyn- rhai yn enwau adnabyddus fel Cindy Sherman a Sarah Lucas, eraill yn artistiaid anhysbys, hunanddysgedig- i ddiffinio eu rôl nhw yn y bydysawd, ac roedd rhai o’r canlyniadau’n hollol syfrdanol.
Ail-gododd Oliver Croy o’r Almaen a’r beirniad pensaernïol Oliver Elser bentref cyfan a grëwyd yn wreiddiol ar raddfa fechan gan glerc yswiriant o Awstria , ar ffurf modelau a ddarganfuwyd mewn biniau sbwriel mewn siop sborion yn 1993. Llenwodd Shinro Ohtake o Siapan ystafell gyfan gyda’i gannoedd o lyfrau lloffion, a efelychai nofelau graffeg mewn lliwiau neon-neon. A denodd Peter Fischli a David Weiss resi hirion o bobl i aros am hydoedd i weld dros ddau gant o gerfluniau clai; o bont Rialto dinas Fenis, bylbiau gwydr, The Cat in The Hat a Dr Hoffman yn seiclo adre ar ôl profi LSD am y tro cyntaf.
Nid cyfarfod o fyrddau twristiaeth pob gwlad dan haul mo’r Biennale- yn hytrach, mae’n gyfle i’r gwleydydd hyn gyfnewid syniadau trwy gyfrwng gwaith artistiad detholedig. Prin yw’r dehongliadau cyfarwydd o ddiwylliant y gwledydd dan sylw; yn amlach na pheidio yr hyn a geir yw themâu mwy cyffredinol sy’n croesi ffiniau.
Yn hynny o beth roedd Bedwyr Williams yn ddewis perffaith i gynrhychioli Cymru fel rhan o’r drafodaeth.
Mawredd yr artist hwn, a gipiodd dair o’r prif wobrau celf yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011, yw hygyrchedd ei waith. Mae e’n rhannu’r un ofnau yn union â’i gynulleidfa. Mae e’n teimlo, mewn gwirionedd, yr un mor bitw â ni yn wyneb anferthedd di-ben-draw y bydysawd.Mae’n ffres, mae’n ffraeth, ac yn bwysicach na dim, mae’n cael hwyl gyda chelf gyfoes. Mae’n ddeifiol wrth ei ddychanu ei hun a’i gynulleidfa.
Ond serch ei barodrwydd i chwerthin am ben ymdrechion dyn i gymryd ei hun o ddifri, nid ei fwriad gyda’r arddangosfa hon yw bwrw sen ar y seryddwr amatur, na dibrisio ei argyfwng dirfodol. I’r gwrthwyneb, mae ′na barch mawr i gyd-fynd â’i grechwen.
Efallai fod ei gydymdeimlad yn fwy am iddo ef ei hun, ‘slawer dydd, orfod wynebu’r gwawd sy’n aml yn dod i ran rhai sydd â diddordeb ffanatig mewn unrhyw faes. Yn fachgen ym Mae Colwyn, modelau rheilffyrdd oedd ei ddileit mawr ef, ond ei ddirmygu am hynny wnâi aelodau’r clwb snwcer lleol, lle byddai’n mynd i gwrdd ag ambell enaid hoff cytûn.
Wyth mlynedd yn ôl yn 2005, cafodd ei ddethol gan Cywaith Cymru i ymweld â Fenis, ac roedd ffrwyth ei lafur bryd hynny’n hynod ddadlennol. Yn ei gyfrol ddyddiadurol BASTA (‘Digon’) rhannodd gipolwg trasicomig ar brofiad yr arist preswyl mewn dinas estron; ei hiraeth am adre, ei hunanamheuaeth fel arlunydd, a thuedd ambell un i’w alw’n ‘Baldwin’.
Serch ei lansiad tra llwyddianus a arweiniodd at glôd mawr gan y wasg Brydeinig, does dim peryg i’r cyfan fynd i ben Bedwyr Williams. Wedi i mi brofi’r daith drwy ei ddychymyg, cefais gip ar y dyn ei hun o bell, yn ffigwr cawraidd yn crymu dan ymbarél.
Bu’n rhaid i mi fynd ato, i’w longyfarch ar ei waith, gan holi faint o bobol wnaeth ei alw’n Baldwin eleni. Ei ateb diymhongar? ‘Dim ond un’.
Mae gosodwaith Bedwyr Williams, The Starry Messenger, i’w weld yn y Ludoteca Santa Maria Ausiliatrice, Fenis, tan 24 Tachwedd, 2013.
Hysbysiad: Merch y Ddinas yn Fenis | Lowri Haf Cooke